Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Foden: 'Cwestiynau i'w gofyn' am Gyngor Gwynedd
Mae pryderon wedi'u codi nad oedd Cyngor Gwynedd wedi gwneud mwy i geisio atal y cyn-brifathro Neil Foden rhag troseddu.
Cafwyd Foden, 66, yn euog ddydd Mercher o 19 o gyhuddiadau o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.
Roedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, a bu'n Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.
Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal ymchwiliad annibynnol i'r mater.
Beth ddywedwyd am y cyngor yn yr achos?
Yn ystod yr achos, clywodd y llys fod uwch aelod o staff wedi codi pryderon am ymddygiad Neil Foden gydag adran addysg y cyngor a'r cyn-gyfarwyddwr addysg, Garem Jackson, yn 2019.
Roedd troseddau Foden yn dyddio o rhwng 2019 a 2023.
Dywedodd yr athro fod ganddo bryderon bryd hynny am yr hyn a ddisgrifiodd fel "ymddygiad amhriodol" Foden gyda merch yn ei harddegau.
Ychwanegodd ei fod wedi rhybuddio Foden yn uniongyrchol ei fod yn creu risg o fod yn destun cyhuddiadau.
Yn rhoi tystiolaeth i'r llys ychydig ddyddiau'n ddiweddarach dywedodd Mr Jackson fod uwch swyddog lles Gwynedd wedi dweud wrtho "nad oedd angen cynnal ymchwiliad ffurfiol" i'r pryderon gan nad oedd unrhyw dystiolaeth o unrhyw beth amhriodol, a'r ffaith nad oedd unrhyw gyhuddiad wedi cael ei wneud.
Ychwanegodd nad oedd yr athro yn "credu bod unrhyw beth amhriodol yn digwydd, ond ei fod yn creu risg o fod yn destun cyhuddiadau difrifol".
Er hynny, dywedodd Mr Jackson y cafodd gyngor i gael "sgwrs ddifrifol" gyda Mr Foden, a'i fod wedi gwneud hynny.
'Diystyru' pryderon
Wedi i'r rheithgor gael Foden yn euog ddydd Mercher, dywedodd y barnwr Rhys Rowlands ei fod yn poeni fod pryderon yr athro wedi cael eu "diystyru".
"Ni chynhaliwyd ymchwiliad, ni chymerwyd sylw o鈥檙 hyn a gafodd ei ddweud a'i wneud," meddai.
"Nawr rydyn ni鈥檔 gwybod eich bod chi [Foden] wedi parhau i droseddu, mae hynny'n peri pryder mawr.鈥
Fe adawodd Garem Jackson ei r么l fel cyfarwyddwr addysg Gwynedd ym mis Medi'r llynedd am resymau personol.
Aeth rhaglen Newyddion S4C i'w d欧 ddydd Iau i weld a fyddai'n gwneud sylw, ond fe wrthododd ateb y drws i'r gohebydd, er i'r criw ei weld yn mynd i'r t欧 wrth iddyn nhw gyrraedd.
Mae Llywela Wharton yn fam i ddau o ddisgyblion yn Ysgol Friars, ble'r oedd Foden yn bennaeth cyn iddo gael ei arestio.
Mae hi'n dweud fod angen atebion gan Gyngor Gwynedd.
"Efo'r ysgol, sgen i ddim math o concern. O fewn yr ysgol, efo'r athrawon, maen nhw wedi gwneud bob dim fedran nhw," meddai.
"Ond efo'r cyngor, mae 'na gymaint o gwestiynau i ofyn ac i gael atebion i."
Yn 么l Aelod Ceidwadol Dyffryn Clwyd yn Senedd Cymru, Gareth Davies, mae'r ffaith i Foden allu troseddu dros gyfnod o bedair blynedd yn codi cwestiynau difrifol.
"Mae'r ffaith bod Neil Foden wedi gallu cam-drin pobl ifanc am gyfnod hir yn amlwg yn dangos diffygion sylfaenol o fewn prosesau diogelu a llwybrau adrodd yn Cyngor Gwynedd ac Estyn.
"Mae 'na lawer o gwestiynau i'w gofyn o hyd i awdurdodau addysg perthnasol yn lleol ac yn genedlaethol."
Dywedodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, fod cael ymchwiliad hollol annibynnol yn allweddol i adfer ffydd y gymuned a rhieni.
Wrth gael ei holi ble'r oedd y ffaeleddau, a pham na chafodd Foden ei ddal ynghynt, dywedodd: "Hyn 'di'r cwestiwn mae'n rhaid i ni ateb r诺an.
"Yr unig ffordd o gael at hynny, yn gywir ac yn gyfiawn, ydy i gael ymchwiliad annibynnol.
"Dwi'n meddwl y byddai'n anghyfrifol i ddechrau meddwl beth yw'r rhesymau, beth sydd wedi digwydd fan hyn - mae'n rhaid i ni adael i hwnna redeg ei gwrs, er mwyn gael tegwch a chyfiawnder i bawb."
Ychwanegodd fod "annibyniaeth yr ymchwiliad yn allweddol bwysig" - rhywbeth a gafodd ei grybwyll hefyd gan yr aelod lleol o'r Senedd, Sian Gwenllian, ddydd Mercher.
"Mi fydd yn rhaid i hwnna fynd i edrych ar bob ystyriaeth, pob dogfen, pob penderfyniad yng Ngwynedd."
'Sefydlu pa wersi sydd i鈥檞 dysgu'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd wedi'r dyfarniad y bydd "adolygiad annibynnol" yn cael ei gynnal.
鈥淓rs dechrau鈥檙 achos, mae Cyngor Gwynedd wedi cydweithio鈥檔 agos 芒 Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau fod Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cael eu dilyn yn llawn.
鈥淣awr fod y broses droseddol wedi dod i ben, bydd y gwaith o adolygu a sefydlu pa wersi sydd i鈥檞 dysgu o鈥檙 achos yn dechrau.
"Oherwydd natur ddifrifol yr achos, mae penderfyniad wedi ei wneud i gynnal adolygiad annibynnol yn unol 芒 chanllawiau Adolygu Ymarfer Plant cenedlaethol.
"Mae union ffurf yr adolygiad hwnnw yn derbyn sylw ar hyn o bryd.
鈥淗yd nes bydd yr holl ymchwiliadau ac adolygiadau perthnasol wedi eu cwblhau, ni fyddai鈥檔 briodol i Gyngor Gwynedd nac arweinyddiaeth dros dro Ysgol Friars wneud sylwadau pellach.鈥