Myfyrwyr Cymru'n gadael y brifysgol gyda dyled o £35,000 ar gyfartaledd
- Cyhoeddwyd
Mae myfyrwyr Cymru yn gadael y brifysgol gyda dros £35,000 o ddyled ar gyfartaledd, yn ôl data sydd wedi dod i law ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru Fyw.
Mae hynny'n gynnydd o dros £14,000 mewn pum mlynedd, yn ôl y ffigyrau a gafodd eu rhannu gan Gyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) wedi cais rhyddid gwybodaeth (FOI).
Dywedodd llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru fod y system gyllid "wedi torri", wrth i'r ffigyrau ddangos fod gan un myfyriwr ddyled o bron i £140,000.
Daw hyn wrth i filoedd o bobl ifanc Cymru ystyried eu camau nesaf ar ôl derbyn eu canlyniadau Safon Uwch.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, sy'n ariannu CMC, mae Cymru yn "arwain y ffordd o ran ein system gyllid unigryw a blaengar", gan ychwanegu mai nhw sy'n "darparu'r system cyllid myfyrwyr fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig".
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos fod bron i 200,000 o bobl wedi gwneud ad-daliad tuag at eu dyled myfyriwr yn y flwyddyn ddiwethaf.
Yn 2023, £35,717.33 oedd y cyfanswm cyfartaledd o'r ddyled byddai'n rhaid i fyfyrwyr dalu'n ôl unwaith maen nhw'n gymwys i ad-dalu, o'i gymharu gyda £21,700 yn 2018.
Mae gan 12,135 o bobl ddyled sy'n uwch na'r ffigwr cyfartalog.
Y cyfanswm uchaf o ddyled sydd ar gofnod gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ydy £138,093.61 - ffigwr sydd £50,000 yn uwch na'r ddyled fwyaf yn 2018.
'Mae o'n dychryn rhywun'
Bellach yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, roedd Nel Jones o Frynrefail yng Ngwynedd yn ystyried peidio mynd i'r brifysgol oherwydd dyledion posib.
"Wnes i gymryd blwyddyn allan i ddechrau er mwyn gael bach o break cyn mynd i'r brifysgol, a phenderfynu be o'n i eisiau 'neud," meddai.
"Ar ôl ennill pres am flwyddyn, oedd o'n benderfyniad anodd wedyn mynd i'r brifysgol achos o'n i'n gwybod gymaint o bres oedd y brifysgol yn cymryd oddi wrtha chdi."
- Cyhoeddwyd12 Awst
- Cyhoeddwyd10 Chwefror
- Cyhoeddwyd6 Chwefror
Ar gyfer ei hail flwyddyn, bydd Nel yn derbyn tua £11,000 gan CMC ar gyfer costau byw yn unig.
Erbyn iddi orffen y brifysgol, bydd hi wedi benthyg dros £60,000 heb ystyried llog.
"Dwi'n meddwl bod o'n dychryn rhywun, yn naturiol, bod arna i hynna faint o bres hyd yn oed cyn cychwyn yn y byd gwaith.
Roedd Nel, sydd yn astudio Hanes Modern a gwleidyddiaeth, yn gobeithio gwneud gradd meistr ar ôl graddio ond bellach wedi penderfynu peidio gan ei fod "mor ddrud".
Mae'n credu y gall rhai cyrsiau gael eu cwtogi er mwyn arbed arian i fyfyrwyr.
"Mae o'n lot o bres ac i feddwl bod o'n cwrs tair blynedd, dwi ddim yna am y tair blynedd llawn.
"Mae yna lot o wylia' haf, lot o wylia' 'dolig."
Mae Nel yn dweud fod arian yn aml yn bwnc trafodaeth ymysg hi a'i ffrindiau.
"Dwi'n meddwl wnaeth o rili effeithio profiad fi, yn enwedig yn y dechrau.
"Oedda' chdi'n rili conscious o faint o bres oedda' chdi'n wario, yn trio gweithio allan faint o budget genna'i am y tymor gyntaf."
Ond er ei phryderon am arian, mae Nel yn mwynhau ei amser yn y brifysgol ac yn cydnabod gwerth gael gradd ar y diwedd.
"Dwi'n meddwl bod y profiad yn brofiad grêt, ac mae'r cwrs yn grêt hefyd."
Sut mae'r system yn gweithio?
Gall myfyrwyr o Gymru wneud cais am fenthyciad myfyrwyr drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Yn ogystal â benthyciad i dalu ffioedd dysgu, mae myfyrwyr yn gallu derbyn hyd at £12,150 y flwyddyn i helpu gyda chostau byw.
Mae'r taliad yna yn gymysgedd o fenthyciad a grant, sydd ddim yn gorfod cael ei dalu'n ôl.
Mae pob myfyriwr yn derbyn £1,000 fel grant.
Mae'r gweddill yn cael ei benderfynu drwy brawf modd, sydd yn edrych ar incwm cartref y myfyriwr cyn penderfynu ar ba ganran o'r arian bydd yn grant neu fenthyciad.
Mae myfyrwyr sydd â benthyciad cynllun dau, sef y rhai gychwynnodd eu gradd ar ôl 2012, yn gymwys i gychwyn ad-daliadau'r mis Ebrill ar ôl iddynt raddio, ac unwaith mae eu cyflog yn cyrraedd £27,295 y flwyddyn.
Yna, bydd rhaid talu 9% o'r incwm sydd dros y trothwy ad-daliadau yn fisol.
Yn ogystal â thalu'r benthyciad, mae cyfradd llog o 7.8% yn cael ei ychwanegu i'r cyfanswm.
Tra bod myfyrwyr yn Lloegr yn gorfod gwneud ad-daliadau am 40 mlynedd ar ôl iddynt raddio, bydd myfyrwyr yn cael stopio ad-dalu eu benthyciad 30 mlynedd ar ôl iddynt raddio.
'System cyllid myfyrwyr wedi torri'
Mae Deio Owen, llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, yn dweud bod y system cyllid myfyrwyr "wedi torri".
Dywedodd: "Rydym yn gwybod bod myfyrwyr yn gadael y brifysgol gyda dyled erchyll, ond mae’r ffaith bod modd i rywun fod â bron i £140,000 o ddyled yn codi cwestiynau mawr am y system.
"Tydi Cymru ddim yn gallu dweud bod addysg yn hygyrch i bawb, na chwaith yn gynaliadwy, pan mae myfyrwyr hefo gymaint â hyn o ddyled.
"Mae'r ffigyrau hyn, heb amheuaeth yn dangos fod y system cyllid myfyrwyr wedi torri, ac mae angen ei drwsio, er lles ein darpariaeth addysg genedlaethol."
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni’n parhau i ddarparu'r system cyllid myfyrwyr fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, ac mae Cymru'n arwain y ffordd o ran ein system gyllid unigryw a blaengar i fyfyrwyr – sy'n darparu cymysgedd o grantiau a benthyciadau i bob myfyriwr.
"Mae ad-daliadau graddedigion ar eu benthyciadau yn cael eu pennu gan eu henillion, a dyw’r rhai sy'n ennill llai na'r trothwy ad-dalu ddim yn gwneud unrhyw ad-daliadau.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i ehangu mynediad i addysg uwch ac wedi gofyn i Medr osod targedau uchelgeisiol i brifysgolion a cholegau i leihau annhegwch mynediad i addysg drydyddol a gwella'r nifer sy'n cael eu derbyn."
Medr, Comisiwn Cymru dros Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ydy’r corff sy’n gyfrifol am gyllido a rheoleiddio addysg ôl-16 ac ymchwil ers 1 Awst 2024.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill
- Cyhoeddwyd10 Mai