Llwyddiant Eisteddfod Maldwyn ac edrych ymlaen at 2025

Gydag wythnos Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 yn dirwyn i ben, dywed Cadeirydd Pwyllgor Gwaith 2024 ei fod wedi bod yn "wythnos arbennig".

Dyma'r tro cyntaf ers 36 o flynyddoedd i'r Eisteddfod ymweld â'r ardal.

Bydd Eisteddfod yr Urdd 2025, Eisteddfod Dur a Môr, yn cael ei chynnal ym Mharc Margam, ac mae 'na gryn edrych ymlaen yn yr ardal.

'Mae 'di bod yn wych yma'

Wrth edrych yn ôl ar wythnos lwyddiannus ym Meifod, er gwaetha'r mwd, dywedodd Bedwyr Fychan, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith 2024 fod yr wythnos wedi bod yn un "arbennig".

"O ddechrau’r wythnos pan roedden ni yn y pafiliwn gwyn ar gyfer y sioe ysgolion cynradd a’r ieuenctid - yn cael gwefr fan 'ny - hyd at ddiwedd yr wythnos efo’r holl gystadlu a gweld pawb yn mwynhau y bwrlwm a’r brwdfrydedd, a’r holl sbort o gwmpas y maes.

"Mae 'di bod yn wych yma," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Bedwyr Fychan fod yr wythnos wedi bod yn un "arbennig"

Gyda'r Eisteddfod heb ymweld â'r ardal am gyfnod hir, dywedodd fod y "brwdfrydedd sydd wedi bod a faint o gyffro sydd wedi bod yn sgil dyfodiad yr Eisteddfod ‘leni ym mhob cornel o’r sir, ym mhob ysgol.

"Mae pob ysgol wedi bod yn rhan o’r gweithgareddau ac mae hyn yn arbennig."

Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn "gobeithio na fydd rhaid i ni aros 36 mlynedd arall iddi ddod aton ni eto".

Disgrifiad o'r llun, Bydd Eisteddfod Yr Urdd 2025 yn cael ei chynnal ym Mharc Margam

Dywedodd Gwenda Westley o Lanrwst na fydd hi'n mynd i'r Eisteddfod y flwyddyn nesaf gan ei fod "yn rhy bell".

Esboniodd mai "yn y gogledd 'dan ni'n byw ac wedyn dim ond i'r Eisteddfod Genedlaethol fyddan ni'n mynd y flwyddyn nesaf, felly flwyddyn wedyn fyddwn ni nôl yn yr Urdd".

Disgrifiad o'r llun, Gwenda Westley ac Eilir Ellis yn trafod a fyddan nhw'n mynd i'r Eisteddfod flwyddyn nesaf

Dywedodd Eilir Ellis o Lanfair Caereinion ei fod yn "gobeithio y byddai'n mynd" y flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd ei fod "wedi bod yn helpu allan yr wythnos hon" ond wrth edrych at y flwyddyn nesaf, bydd hi'n agosach at y traeth ac mae hynny'n apelio".

'Hyrwyddo'r iaith yn y fro'

Gydag un eisteddfod yn dod i ben, mae pwyllgor gwaith Eisteddfod 2025 wedi hen gychwyn ar y trefnu, ac ym Mharc Margam fydd Eisteddfod 2025 yn cael ei chynnal.

Fe ddisgrifiodd Laurel Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Dur a Môr eu bod yn cael "amser gwych" yn trefnu'r eisteddfod a bod pawb yn "gweithio'n eithriadol o galed".

Wrth drafod yr her o godi'r arian, dywed ei fod "dal yn ddyddiau cynnar" ond bod "ryw 40 ohonom ni ar y pwyllgor gwaith".

Dywedodd fod dod â'r eisteddfod i'r ardal yn "arbennig" gan ychwanegu ei bod yn "gweld y gwaith o hyrwyddo'r iaith yn y fro" yn rhan o'r gwaith i gyrraedd targed miliwn o siaradwyr erbyn 2050 Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o'r llun, Laurel Davies yw cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd 2025

Y tro diwethaf i'r Eisteddfod ymweld â'r lleoliad oedd yn 2003.

"Mae'r lleoliad yn fendigedig, caeau bendigedig fel sydd gyda ni fan hyn, ond wrth gwrs, ry’n ni ar lan y môr, felly chi’n ca'l bach o bopeth lawr yn ardal Port Talbot…"

Yn wahanol i'r arfer, nid oes gan Eisteddfod yr Urdd 2025 gywydd croeso.

Esboniodd Laurel Davies: "Mae gyda ni gân croeso ac mae Bronwen Lewis a Huw Chiswell yn ysgrifennu'r gân, a fi’n gobeithio bod hwnna eto yn dangos i bobl bod ni gyd yn gallu bod yn rhan o hwn."