成人快手

Carcharu dyn am achosi marwolaeth gyrrwr tacsi 'annwyl'

Christopher BoyleFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Christopher Brian Boyle wedi'i ddisgrifio fel "mab, tad, brawd, ewythr a chyfaill annwyl"

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ei ddedfrydu i ddwy flynedd a phedwar mis o garchar am achosi marwolaeth gyrrwr tacsi drwy yrru'n beryglus yn Sir Benfro.

Bu farw Christopher Boyle, 57, wedi'r gwrthdrawiad ar 2 Medi ar yr A4139 rhwng Dinbych-y-Pysgod a Phenalun.

Plediodd Mateusz Sikorski, 30, yn euog i'r cyhuddiad yn Llys y Goron Abertawe.

Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am chwe blynedd.

Clywodd y llys fod gan Sikorski, o Wlad Pwyl, drwydded yrru Eidalaidd.

Roedd wedi bod yn ymweld 芒 Chymru i chwilio am waith fel cogydd.

Clywodd y llys ei fod wedi bod yn aros gyda ffrindiau oedd yn rhedeg bwyty lleol, a phe bai wedi derbyn swydd fel cogydd yno, byddai'n dychwelyd i'r Eidal i wneud cais am fisa a dychwelyd i Gymru i weithio.

Cafodd lluniau CCTV eu dangos i'r llys o orsaf betrol cyfagos lle'r oedd Sikorski i'w weld yn teithio tuag at Benalun, ar ochr anghywir y ffordd.

Clywodd y llys ei fod yn gyrru ar yr ochr arall am "o leiaf hanner milltir" cyn y gwrthdrawiad.

Bu farw Mr Boyle yn y fan a鈥檙 lle.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4139 rhwng Dinbych-y-Pysgod a Phenalun

Mewn datganiad ar ran Elizabeth Evans, chwaer Mr Boyle, clywodd y llys bod ei farwolaeth "wedi gadael gwagle" ym mywydau ei deulu.

Cafodd Mr Boyle ei ddisgrifio fel "aelod annwyl o'r gymuned", a bydd ei "chwerthin yn cael ei golli am byth".

Dywedodd Mrs Evans mai ef oedd "yr asgwrn cefn oedd yn dal ein teulu at ei gilydd", ac "ni fydd effaith y golled byth yn ein gadael ni".