成人快手

Dyn yn pledio'n euog i achosi marwolaeth gyrrwr tacsi

Christopher BoyleFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Christopher Brian Boyle ei ddisgrifio fel "mab, tad, brawd, ewythr a chyfaill annwyl"

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth gyrrwr tacsi drwy yrru'n beryglus yn Sir Benfro.

Bu farw Christopher Boyle yn ystod y gwrthdrawiad ar 2 Medi 2024 ar yr A4139 rhwng Dinbych-y-pysgod a Phenalun.

Ymddangosodd Mateusz Sikorski yn Llys y Goron Abertawe i gadarnhau ei enw ac fe blediodd yn euog i'r cyhuddiad.

Clywodd y llys fod Mr Sikorski wedi bod yn ymweld 芒'r DU o Wlad Pwyl ar adeg y ddamwain a'i fod yn aros gyda ffrindiau.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4139 rhwng Dinbych-y-pysgod a Phenalun

Eglurodd bargyfreithiwr yr amddiffyniad fod y dyn 30 oed wedi bod yng Nghymru yn 鈥渃hwilio am waith fel cogydd鈥.

Dywedodd y Barnwr, Catherine Richards bod angen paratoi adroddiad cyn-ddedfrydu a chaniat谩u mechn茂aeth i Mateusz Sikorski tan 8 Tachwedd. Mae'n parhau i fod wedi'i wahardd rhag gyrru.

Mewn datganiad blaenorol dywedodd teulu Christopher Boyle fod y dyn 57 oed 鈥測n fab, tad, brawd, ewythr a chyfaill annwyl iawn".

"Yn cael ei nabod fel 鈥楳ucker鈥 i'w ffrindiau, roedd yn chwarae rhan fawr yn y gymuned ac fe fyddai'n gwneud unrhyw beth i helpu unrhyw un."