成人快手

'Gwleidyddiaeth angen denu mwy o gefndir lleiafrifol ethnig'

Bowen Cole
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Bowen Cole o Senedd Ieuenctid Cymru yn dweud fod angen gofyn pam nad oes mwy o wleidyddion o gefndir lleiafrifol ethnig

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na alw o鈥檙 newydd ar bleidiau gwleidyddol a'r llywodraeth i wneud mwy i ddenu pobl o gefndir lleiafrifol ethnig i wleidyddiaeth, ar lefel lleol a chenedlaethol.

Daw鈥檙 alwad gan y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol ar Fis Hanes Pobl Ddu.

Yn 么l Llywodraeth Cymru bydd ei Bil Etholiadau Newydd yn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i ddarpar ymgeiswyr er mwyn cynyddu amrywiaeth aelodaeth y Senedd a llywodraeth leol.

Yn 么l y Ceidwadwyr Cymreig fe ddylid dewis ymgeiswyr "ar sail eu gallu ac nid ar sail eu rhyw, hil neu nodwedd warchodedig arall".

Mae gweddill y pleidiau hefyd wedi cael cais am ymateb.

'Pam nad ydyn ni鈥檔 cael llawer o bobl ddu yma?'

Gyda鈥檌 wreiddiau yn Rwanda a Burundi, mae Bowen Cole o Abertawe yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

Ond wrth edrych ar siambr Bae Caerdydd, mae am weld newid.

"Mae angen i ni ofyn i'n hunan, ac yn benodol y Senedd, pam nad ydyn ni鈥檔 cael llawer o bobl ddu yma?" meddai.

"Pam nad ydyn ni鈥檔 blaenoriaethu pobl o gefndir ethnig i weithio yma?

"Beth ydyw Cymru os ni ddim yn cael pawb Cymraeg?"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tri o'r 60 aelod o'r Senedd sydd o gefndir sydd ddim yn wyn

O'r 60 o aelodau yn Senedd Cymru, tri aelod sydd o gefndir lleiafrifol ethnig, gyda dau yn y Blaid Geidwadol ac un yn y Blaid Lafur.

Mae holl aelodau Plaid Cymru - ac un aelod y Democratiaid Rhyddfrydol - yn wyn.

Yn 么l ffigyrau Senedd Cymru, 10% o aelodau San Steffan sydd o gefndir lleiafrifol ethnig, 4.7% yn Holyrood yn Yr Alban, a does dim un yn Stormont yng Ngogledd Iwerddon.

'Mwy gwyn, mwy hen, mwy gwrywaidd'

Yn ddiweddar daeth un o bwyllgorau鈥檙 Senedd i鈥檙 casgliad nad oedd cynghorau tref a chymuned ac awdurdodau lleol yn gynrychiolaeth o鈥檙 boblogaeth.

"Mae ein cynghorau sir ni yn dueddol o fod yn fwy gwyn, yn fwy hen ac yn fwy gwrywaidd," meddai Dr Nia Thomas o鈥檙 Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol.

"Byddwn yn hoff iawn o weld mwy o weithredu ac mae angen i hynny ddod o bob rhan - o Lywodraeth Cymru, y pleidiau a llywodraethau lleol.

"Does dim un silver bullet, ond llawer o waith i'w wneud mewn nifer o wahanol lefydd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae "llawer o waith i'w wneud mewn nifer o wahanol lefydd", yn 么l Dr Nia Thomas

Erbyn hyn mae rhai pleidiau'n defnyddio rhestr ymgeiswyr benywaidd yn unig mewn rhai etholaethau er mwyn ceisio sicrhau cynrychiolaeth decach.

Hefyd mae yna gronfa ar gael i bobl ag anableddau, sy鈥檔 eu helpu gyda chostau ymgeisio mewn etholiad.

Wedi ei ethol yn ddiweddar yn gadeirydd ar Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae Joseff Gnagbo, sy鈥檔 wreiddiol o'r Arfordir Ifori, am weld pobl o gefndir lleiafrifol ethnig yn sefyll mewn etholiadau.

"Rydyn ni鈥檔 dod 芒 phrofiadau gwahanol, felly efallai bod datrysiad a syniadau newydd gyda ni i gyfrannu," meddai.

"Os mae cyfle yn dod, byddwn yn hoffi trio."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Joseff Gnagbo fod gan bobl o gefndir lleiafrifol ethnig "syniadau newydd i'w cynnig"

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion cyfansoddiadol, Darren Millar: "Er bod y Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gefnogi dyheadau ar gyfer Senedd fwy amrywiol, rydym yn credu'n gryf y dylid dewis ymgeiswyr ar sail eu gallu, nid ar sail eu rhyw, hil neu nodwedd warchodedig arall.

"Yn hytrach na chyflwyno cwota, mae angen i bob plaid wleidyddol yng Nghymru weithio'n galetach i ymgysylltu 芒 grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ledled Cymru i annog darpar ymgeiswyr i gyflwyno eu hunain."

Rhoddwyd cais i Lafur Cymru, Plaid Cymru a鈥檙 Democratiaid Rhyddfrydol am ymateb.

'Annog mwy i fod yn rhan o'r broses'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "awyddus i annog ac ennyn brwdfrydedd mwy o bobl i fod yn rhan o鈥檙 broses ddemocrataidd".

"Mae cynyddu amrywiaeth aelodau etholedig yn helpu cynghorau i gynrychioli'r cymunedau maen nhw鈥檔 eu gwasanaethu'n well," meddai.

"Bydd ein Bil Etholiadau newydd yn sicrhau bod cyngor, hyfforddiant a chefnogaeth ar gael i ddarpar ymgeiswyr er mwyn cynyddu amrywiaeth aelodaeth y Senedd a llywodraeth leol."