成人快手

Joseff Gnagbo: 'Pwysig bod y Gymraeg ar gael i bawb'

  • Cyhoeddwyd
Joseph Gnagbo, adawodd Y Traeth Ifori i geisio lloches ym Mhrydain
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu'n rhaid i Joseff adael Y Traeth Ifori i Foroco, ac yn 2018 daeth i Gymru

Dywed cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith, Joseff Gnagbo, ei bod hi'n holl bwysig fod pobl o bob cefndir yn cael mynediad at y Gymraeg.

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw, dywedodd Mr Gnagbo - a wnaeth ffoi i Gymru o'r Arfordir Ifori yng ngorllewin Affrica - ei fod yn hynod o falch gael ei "benodi yn gadeirydd ar fudiad sydd wedi fy helpu gymaint".

"Mae'r croeso yma yng Nghymru wedi bod yn anhygoel," meddai.

"Rwy'n falch fy mod wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg yn fuan wedi i mi gael lloches yma. Roedd hynny yn bwysig i mi.

"Yn ffodus mi ydw i'n ieithydd ac yn siarad sawl iaith - a doedd gramadeg y Gymraeg ddim yn rhy anodd na'r treigladau chwaith."

Dywed fod cael bod yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn anrhydedd fawr.

"Dwi'n gobeithio dod 芒 bywyd, egni ac efallai dimensiwn newydd i weithgareddau'r gymdeithas gan gysylltu yn gyntaf 芒'r cymunedau Cymraeg.

"Nhw yw asgwrn y cefn yr iaith, ond yna rhaid sicrhau bod y Gymraeg ar gael i bawb er mwyn sicrhau ei dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y cyn-gadeirydd Robat Idris yn llongyfarch y cadeirydd newydd Joseff Gnagbo

Ers sawl blwyddyn mae Joseff Gnagbo, 49, wedi bod yn weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith, a chyn ei benodi'n gadeirydd yn y cyfarfod cyffredinol yng Nghaernarfon dros y penwythnos, ef oedd swyddog rhyngwladol y mudiad.

Ers symud i Gymru yn 2018 dywed ei fod wedi "cofleidio'r Gymraeg".

Cyn Covid roedd yn rhoi gwersi Cymraeg i geiswyr lloches ac mae hefyd wedi bod yn dysgu Cymraeg mewn ysgolion yn ardaloedd Caerdydd a Chasnewydd, a'i fwriad yw ailddechrau rhoi gwersi i geiswyr lloches yn fuan.

Dywed fod Cymdeithas yr Iaith wedi bod o gymorth mawr iddo i "fyw fy mywyd a chymdeithasu yn Gymraeg".

"Dwi'n hoff iawn o agwedd Cymru at ddysgwyr - mae'n agwedd bositif iawn," meddai.

"Dwi ddim yn teimlo bod yn rhaid bod yn gwbl gywir - pan fues i yn Yr Alban yn ddiweddar roeddwn yn meddwl bod yr agwedd yn wahanol a bod yn rhaid siarad i safon uchel os am gael eich derbyn fel siaradwr [Gaeleg yr Alban].

"Rwy'n hoff iawn o sain y Gymraeg - ac un o fy hoff eiriau yw 'gwdih诺'!"

'Gadael y teulu ar 么l'

Yn 2010 roedd yr Arfordir Ifori yn wlad yng nghanol chwyldro milwrol.

Roedd dinas fwyaf y wlad, Abidjan, dan warchae ac roedd Joseff Gnagbo yn un o'r dinasyddion a oedd yn gwrthwynebu'r llywodraeth newydd.

Fe recordiodd g芒n rap yn galw ar ei gydwladwyr i wrthsefyll y chwyldro, ond yn fuan fe ddaeth yn darged y milwyr arfog a bu'n rhaid iddo ffoi i Foroco gan adael ei deulu ar 么l.

Ceisiodd am loches ym Mhrydain yn 2017 gan fod Moroco a'r Arfordir Ifori yn agos谩u yn wleidyddol, a bellach mae e wedi bod yng Nghymru am dros bum mlynedd.

Ers 2021 mae ei ddau blentyn yn byw yng Nghaerdydd ac yn mynd i ysgolion Cymraeg yn y brifddinas.

"Mae'n braf cael y plant yma o'r diwedd ond dwi ddim wedi gweld rhai o fy nheulu ers 2017 - ni'n cysylltu drwy WhatsApp."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Joseff Gnagbo wedi bod yn rhoi gwersi i geiswyr lloches ac wedi bod yn dysgu Cymraeg mewn ysgolion yn ardaloedd Caerdydd a Chasnewydd

Dywed ei fod yn teimlo'n rhan o deulu'r Gymraeg a theulu Cymdeithas yr Iaith, a'i fod yn edrych ymlaen at arwain a bod yn rhan o d卯m gweithgar a phrofiadol.

"Mae gwaith y gymdeithas, o'r ymgyrch dros ein cymunedau i'r ymgyrch dros ddatganoli pwerau darlledu, yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i ddyfodol y Gymraeg," meddai.

"Fel rhywun sy'n dysgu Cymraeg i bobl yn ardaloedd Caerdydd a Chasnewydd, rwy'n teimlo'n gryf y dylai pawb o bob cefndir gael mynediad at y Gymraeg.

"Mae'r gymdeithas yn cynnig ateb pwysig yn hynny o beth yn ei hymgyrch dros addysg Gymraeg i bawb.

"Yn dilyn y papur gwyn diweddar, mae'n hanfodol felly bod y llywodraeth yn mynd ati i gryfhau'r Ddeddf Addysg Gymraeg arfaethedig gyda tharged o addysg Gymraeg i bawb, er mwyn sicrhau yn y dyfodol y bydd pob person ifanc yn gadael yr ysgol yn hyderus yn y Gymraeg."

Disgrifiad,

Yn 2019 bu Joseff Gnagbo yn rhannu ei brofiad o ddysgu Cymraeg ers dod i Gymru fel ffoadur o Affrica

Mae hefyd yn dweud ei fod yn hynod falch bod Cymru yn genedl noddfa, ac yn dweud bod darparu gwersi Cymraeg ar gyfer ffoaduriaid yn "hynod bwysig".

"Dwi'n edrych ymlaen i gydweithio 芒 Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol y Gymraeg," meddai.

"Yr hyn sy'n hynod bwysig yn fy marn i yw bod gwersi Cymraeg yn cael eu rhoi am ddim i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ledled Cymru.

"Yn aml y farn yw bod angen iddyn nhw ddysgu Saesneg yn unig wedi cyrraedd yma - ond mae'n bwysig iawn fod pobl fel fi yn cael y cyfle i ddysgu Cymraeg hefyd er mwyn cael bywyd cyflawn yma.

"Wrth gwrs ein bod yn gallu ymdopi 芒 dysgu mwy nag un iaith - mae nifer ohonom wedi dysgu sawl iaith yn barod ac mae'n bwysig iawn i ni allu siarad yr iaith frodorol.

"Rhaid i bawb gael mynediad at y Gymraeg er mwyn sicrhau dyfodol yr iaith."