Dyn i wynebu achos llofruddiaeth wedi marwolaeth Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Bydd dyn 21 oed yn wynebu achos llys yn yr Hydref wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn arall yng Nghasnewydd.
Bu farw Lee Crewe, 36, ar 么l iddo gael ei ddarganfod yn anymwybodol ar Heol Cas-gwent yn y ddinas ar 14 Mai.
Doedd David Sisman ddim yn bresennol yn ystod gwrandawiad byr yn Llys y Goron Casnewydd.
Fe gafodd ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn y llys eto ar 9 Awst.
Mewn datganiad, fe wnaeth teulu Mr Crewe ei ddisgrifio fel "dyn hyfryd, y tu mewn a thu allan".
Dywedodd Heddlu Gwent nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall fel rhan o'r ymchwiliad i farwolaeth Mr Crewe.
Mae disgwyl i Mr Sisman sefyll ei brawf ar 28 Hydref ac mae disgwyl i鈥檙 achos bara saith diwrnod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai
- Cyhoeddwyd19 Mai