成人快手

'Angen gwell data' am y Gymraeg i ddeall gwir sefyllfa'r iaith

CymraegFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae angen casglu data o ansawdd ar ddefnydd o'r iaith Gymraeg yn fwy rheolaidd, ac mewn ffordd fwy systematig, yn 么l arbenigwyr.

Dyna un o argymhellion adroddiad newydd gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae nifer o fylchau yn yr ystadegau presennol am y Gymraeg medd yr ymchwilwyr, sy'n dweud bod angen datblygu dulliau newydd o gasglu data os am gael darlun cynhwysfawr o gyflwr yr iaith Gymraeg a鈥檙 defnydd ohoni.

Ymatebodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn, bod "cyfle i feddwl o鈥檙 newydd am ba ddata sydd ei angen arnom ni a sut mae manteisio ar botensial technoleg i roi data amserol, awdurdodol ac arloesol i ni am y Gymraeg a鈥檌 siaradwyr".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y "byddwn yn edrych ar argymhellion yr adroddiad wrth i ni gynllunio ar gyfer ymchwil ac ystadegau Cymraeg yn y dyfodol."

'Dealltwriaeth mwy trylwyr'

Mae'r adroddiad gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn deillio o brosiect ymchwil a ariannwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Y bwriad yw archwilio ffyrdd o ddatblygu dulliau gwahanol o ddeall hyfywedd ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol fel y Gymraeg.

Dywedodd Dr Elin Royles o鈥檙 t卯m ymchwil, 鈥渆r mwyn cael sail gadarn ar gyfer cynllunio polis茂au i hybu鈥檙 Gymraeg, mae angen dealltwriaeth mwy trylwyr o sefyllfa鈥檙 Gymraeg a chryfhau鈥檙 pwyslais ar gasglu data ar ddefnydd iaith".

鈥淎r hyn o bryd, y cyfrifiad yw鈥檙 brif ffynhonnell ar ddata ieithyddol o ran nifer y bobl sy鈥檔 siarad Cymraeg neu sydd 芒 sgiliau Cymraeg eraill neu mewn ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol eraill y Deyrnas Gyfunol.

"Ond mae鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ystyried newidiadau i鈥檙 trefniadau ac mae awgrym na fydd y cyfrifiad yn cael ei gynnal yn y dyfodol.

"Mae hyn yn gyfle amserol felly i werthuso pa ddata sy鈥檔 allweddol er mwyn deall sefyllfa鈥檙 Gymraeg ac mae鈥檔 hollbwysig nad yw unrhyw newid yn gwanhau ein dealltwriaeth am sefyllfa鈥檙 Gymraeg.鈥

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dau o awduron yr adroddiad, Huw Lewis ac Elin Royles, gydag Osian Llywelyn yn y canol o swyddfa Comisiynydd y Gymraeg

Nifer y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng nghyfrifiad 2001, 2011 a 2021 oedd 582,400, 562,000 a 538,300 yn y drefn honno.

Mae aelod arall o鈥檙 t卯m ymchwil, Dr Huw Lewis, yn cydnabod pwysigrwydd y cyfrifiad wrth gasglu data, ond dywedodd bod "angen cofio mai unwaith pob degawd y caiff ei gynnal ac nad yw鈥檙 data yn dweud dim wrthym yngl欧n 芒 ble a pha mor aml mae pobl yn defnyddio鈥檙 iaith o dydd i ddydd".

鈥淢ae angen sicrhau felly bod data yn cael ei gasglu鈥檔 fwy rheolaidd mewn perthynas 芒鈥檙 Gymraeg a rhoi llawer mwy o bwyslais ar geisio mesur y defnydd o鈥檙 iaith er mwyn datblygu darlun mwy crwn o鈥檌 hyfywedd, fydd yn helpu i roi polis茂au ac ymatebion priodol yn eu lle.

"Dylid hefyd sicrhau bod y data yn cael ei rannu ac ar gael yn gyhoeddus i wahanol bartneriaid.鈥

Un arall o argymhellion yr adroddiad yw bod llunwyr polisi yng Nghymru yn dilyn esiampl Gwlad y Basg a Chatalwnia, sy'n defnyddio System Dangosyddion Ieithyddol cynhwysfawr fel rhan o鈥檜 hymdrechion i adfywio鈥檜 hieithoedd.

Esboniodd yr Athro Rhys Jones o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol, oedd hefyd yn rhan o鈥檙 astudiaeth: 鈥淵ng Nghatalwnia er enghraifft, mae鈥檙 system wedi tynnu sylw at brinder meddygon sy鈥檔 siarad Catalaneg gan arwain at ymdrechion i gefnogi doctoriaid i ddysgu鈥檙 Gatalaneg.

"Mae hefyd wedi amlygu sefyllfa pobl ifanc a鈥檜 defnydd iaith ar y cyfryngau amlblatffform gan arwain at ddatblygu sianel ar gyfer rhai yn eu harddegau.

"Byddai system o鈥檙 fath yn gaffaeliaid mawr i gynllunio ieithyddol yng Nghymru. Mae eu defnydd o ddulliau fel Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol i fapio hyfywedd ieithoedd lleiafrifol hefyd yn arwyddocaol.鈥

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae mesur defnydd a gallu'r Gymraeg yn allweddol i fonitro cynnydd yn erbyn ein targedau o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a dyblu'r defnydd dyddiol o'n hiaith.

"Rydym yn croesawu cyhoeddi'r adroddiad gan Brifysgol Aberystwyth a byddwn yn edrych ar argymhellion yr adroddiad wrth i ni gynllunio ar gyfer ymchwil ac ystadegau Cymraeg yn y dyfodol."