成人快手

Ofcom yn ymchwilio i drafferthion pleidleisio C芒n i Gymru

C芒n i GymruFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sara Davies enillodd y gystadleuaeth ar 1 Mawrth gyda'r g芒n Ti

  • Cyhoeddwyd

Mae'r rheoleiddiwr darlledu Ofcom wedi lansio ymchwiliad ffurfiol i'r trafferthion pleidleisio yn ystod C芒n i Gymru eleni.

Sara Davies enillodd y gystadleuaeth ar 1 Mawrth gyda'r g芒n Ti.

Ond roedd cwynion gan nifer eu bod wedi methu 芒 bwrw pleidlais, ac fe wnaeth S4C ymddiheuro a chynnig ad-dalu'r rheiny a gafodd drafferthion.

Roedd sawl un oedd wedi ceisio pleidleisio wedi dweud eu bod yn "siomedig" ac yn "rhwystredig" ar 么l derbyn biliau ff么n uwch na'r arfer.

Dywedodd S4C fod Ofcom "wedi gwneud cais am wybodaeth am C芒n i Gymru", a bod y sianel yn cyd-weithio gyda'r rheoleiddiwr.

Roedd Ofcom wedi cadarnhau eisoes eu bod wedi cael cwynion am y rhaglen, ond maen nhw bellach wedi cadarnhau eu bod yn cynnal ymchwiliad ffurfiol.

鈥淩ydym yn ymchwilio i weld a wnaeth hyn dorri ein rheolau ar gystadlaethau darlledu a phleidleisio," meddai llefarydd.

Dywedodd Ofcom eu bod wedi cael 10 cwyn gan wylwyr am drafferthion yn bwrw pleidleisiau, a bod S4C wedi dweud fod hynny oherwydd nam technegol yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Ychwanegodd y rheoleiddiwr fod ymchwiliadau o'r fath fel arfer yn cymryd misoedd.

Ffynhonnell y llun, S4C

Dywedodd nifer o bobl nad oedden nhw'n credu bod eu galwadau i bleidleisio yn y gystadleuaeth wedi cysylltu'n iawn.

Fe welodd Cymru Fyw dystiolaeth o 拢120 o gostau i un person a geisiodd bleidleisio sawl tro, ond a oedd yn credu nad oedd y galwadau'n cysylltu.

Yn sgil y cwynion hynny fe wnaeth S4C gynnig ad-daliad i'r rheiny a gafodd drafferthion.

Mewn datganiad ar wefan C芒n i Gymru ganol Mawrth dywedodd S4C: "Rydym yn deall bod nifer o wylwyr wedi cael trafferthion wrth geisio bwrw pleidlais yn ystod C芒n i Gymru 2024 ac mae'n ddrwg iawn gennym am hynny.

"Er i'r system gael ei phrofi'n llwyddiannus o flaen llaw roedd nam technegol yn ystod y cyfnod pleidleisio ar y noson."

Ychwanegodd y datganiad fod y "canlyniadau wedi cael eu gwirio ac yn ddilys".