Angen 'enfawr' am fwy o ofalwyr maeth
- Cyhoeddwyd
Mae yna angen 鈥渆nfawr鈥 am fwy o ofalwyr maeth yng Nghymru yn 么l gwasanaethau maethu awdurdodau lleol.
Mae Maethu Cymru, y rhwydwaith sy'n cynrychioli timau maethu mewn cynghorau ledled Cymru, yn dweud bod dros 7,000 o blant yn y system ofal ar hyn o bryd, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth sydd.
Dywedodd Alastair Cope, pennaeth Maethu Cymru, eu bod am fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 鈥渃amsyniadau鈥 yngl欧n 芒 maethu er mwyn cyrraedd eu targed o recriwtio 800 o aelwydydd maeth dros y ddwy flynedd nesaf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i gynyddu nifer y gofalwyr maeth yng Nghymru.
'Helpu plant oedd mewn angen'
Dechreuodd Emma a Joanna Johnston o Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin faethu fis Ionawr diwethaf.
Mae gan Joanna blant h欧n o berthynas flaenorol, ac roedd y cwpl yn gwybod eu bod eisiau teulu gyda'i gilydd.
Dywedodd Emma: 鈥淪ymudais i lawr i Gymru o Loegr i fod gyda Jo tua chwe mlynedd yn 么l, ac roeddwn i wastad eisiau cael plant mewn ryw ffordd.
鈥淢ae gan Jo ei phlant biolegol ei hun sydd wedi tyfu i fyny, a fi'n credu maethu oedd y peth naturiol i ni wneud.
鈥淢ae鈥檔 rhywbeth fi wastad wedi bod eisiau ei wneud.
"Doeddwn i ddim o reidrwydd eisiau plant biolegol fy hun, ac roeddwn i eisiau helpu plant oedd mewn angen.鈥
Mae Emma a Jo, sy'n athrawon, yn dweud gall y profiad fod yn heriol ond 鈥測n hynod gwobrwyol."
Dywedodd Jo: 鈥淩ydych chi'n poeni os yw'r plentyn yn mynd i setlo, ond chi mor awyddus i'w helpu.聽
"Ni wedi bod ar lawer o anturiaethau gwahanol, fel caiacio a beicio mynydd, i weld beth mae hi'n ei hoffi.
"Roedd e mor wych gweld hi'n mwynhau, ac i ddangos iddi rhannau o Gymru nad oedd hi wedi鈥檜 gweld o鈥檙 blaen.
鈥淢ae hi wedi integreiddio鈥檔 dda iawn gyda'r teulu.鈥
Angen fwy o ofalwyr maeth i blant h欧n
Mae Emma a Jo wedi mynd yn rhan amser yn eu gwaith, ond yn dweud bod pob sefyllfa yn wahanol.
Yn 么l Emma: "Nid oes cynllun sy鈥檔 gweithio i bawb, mae鈥檔 dibynnu ar eich amgylchiadau chi a鈥檙 plant sy鈥檔 cael eu lleoli gyda chi.
"Mae鈥檔 fwy na phosib i weithio鈥檔 llawn amser ond mae鈥檔 dibynnu ar yr amgylchiadau unigol."
Mae ffigurau gan Faethu Cymru yn dangos bod 53% o bobl ifanc mewn gofal dros 11 oed.
Dywed y mudiad eu bod am annog pobol i ystyried maethu plentyn yn eu harddegau, a'r gwahaniaeth y gall ei wneud i'w bywydau.聽
- Cyhoeddwyd22 Awst 2023
- Cyhoeddwyd15 Awst 2023
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2021
Mae Jo ac Emma wedi maethu merch 12 oed ac yn 么l Jo, mae 鈥渃ymaint o gamsyniadau y mae angen mynd i鈥檙 afael 芒 nhw.鈥
"Mae cymaint o bethau positif.
"Gallwch chi helpu trwy siarad 芒 nhw am sut maen nhw'n teimlo, gallwch chi wneud pethau gyda'ch gilydd a dod o hyd i weithgareddau chi gyd yn mwynhau.
"Gyda phlentyn iau efallai na fyddwch chi'n gallu gwneud y pethau hynny."
'Camsyniadau' yn rhwystro darpar ofalwyr
Mae Maethu Cymru yn dweud mai 鈥渃amsyniadau鈥 allweddol sy鈥檔 atal darpar ofalwyr rhag eisiau maethu.
Mae rhai o'r rhain yn cynnwys diffyg hyder 芒鈥檜 gallu i gefnogi plentyn mewn gofal, y gred nad yw maethu yn cyd-fynd 芒 bywyd yr unigolyn, 聽a鈥檙 camsyniadau ynghylch dod yn ofalwr.
Dywedodd Alistair Cope, pennaeth Maethu Cymru: "Rwy'n meddwl bod rhai o'r camsyniadau'n ymwneud 芒'r ffaith bod pobl yn meddwl bod yn rhaid i chi feddu ar sgiliau neu alluoedd arbennig er mwyn dod yn ofalwr maeth.
"Rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud 芒 darparu'r cariad hwnnw a'r sefydlogrwydd hwnnw yn y cyfamser i'r plentyn."
Rheolau newydd yn 2027
Dywedodd Mr Cope fod rhai asiantaethau yn "gweithredu ar sail elw" ar hyn o bryd, yn wahanol i Maethu Cymru.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddileu elw o unrhyw beth sy鈥檔 ymwneud 芒 gwasanaethau plant erbyn 2027, ac yn amlwg mae hynny鈥檔 cynnwys maethu."
Erbyn i'r rheolau newid yn 2027, mae Mr Cope yn dweud bydd angen mwy o ofalwyr maeth i dderbyn plant.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:聽"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu nifer y gofalwyr maeth yng Nghymru.聽
鈥淩y鈥檔 ni鈥檔 gweithio'n agos gyda'n cynllun maethu cenedlaethol, 'Maethu Cymru', i helpu awdurdodau lleol sicrhau bod cyflenwad parod o ofalwyr maeth ymroddedig ac amrywiol, sydd wedi鈥檜 hyfforddi ac sy鈥檔 cael cefnogaeth dda, ar gael i ddarparu amgylchedd teuluol sefydlog a gofalgar, yn lleol, i'n plant a'n pobl ifanc."