Her enfawr America Hugh a Fiona

Ffynhonnell y llun, Fiona Morgan

Disgrifiad o'r llun, Mae Hugh a Fiona wedi rhedeg 50 talaith America mewn cyfnod o dair wythnos.

Wrth droi yn 50 oed, dychmygwch osod her i'ch hun i redeg milltir yn 50 talaith yr Unol Daleithiau.

Mae'r her yn un enfawr ac yn un fwy byth o feddwl bod Fiona a Hugh Morgan o Fethel ger Caernarfon wedi cwblhau'r gamp mewn tair wythnos yn unig.

Pan drodd Fiona yn hanner cant ym mis Medi, roedd hi eisiau cwblhau her fyddai'n aros yn ei chof am byth.

Mae Fiona a'i phartner Hugh yn rhedwyr o fri ac yn aelodau o glwb Eryri Harriers.

Ar 么l cwblhau Marathon Eryri, roedd y ddau wedi codi pac unwaith eto ac wedi cofrestru i redeg ym Marathon Efrog Newydd a Chicago.

Mae'r ddwy ras dair wythnos ar wah芒n, felly roedd hi'n gyfle i'r p芒r aros yn yr UDA am gyfnod i ddathlu pen-blwydd Fiona, ond gwneud hynny mewn steil.

Roedd y ffigwr 50 yn arwyddocaol iawn a pha well ffordd i ddathlu na ymweld 芒'r 50 talaith, a rhedeg milltir ym mhob un fel fu'r ddau yn esbonio ar raglen Aled Hughes ar 成人快手 Radio Cymru.

Ffynhonnell y llun, Fiona Morgan

Disgrifiad o'r llun, Fiona a Hugh ym Mharc Cenedlaethol Yellowstone.

"Y syniad oedd rhedeg milltir ym mhob talaith i gynrychioli pob blwyddyn o fy mywyd," meddai Fiona.

Hugh oedd yn gyfrifol am y trefnu a dyma'n troi fyny mewn cwmni teithio lleol gyda map o America i geisio trefnu taith anhygoel o gymhleth o fewn cyfnod gymharol fer o dair wythnos.

"Ro'n i wedi edrych ar y ffordd leiaf o ran amser a milltiroedd i gwblhau'r 48 talaith sydd ar y tir mawr ac roedd hwnna yn dod i 6,500 o filltiroedd.

"Ro'n i eisiau neud mwy na jest dreifio drwy bob state a gan fod Fiona yn 50 ac nid 48, roedd rhaid i ni gyfri Hawaii ac Alaska i mewn i'r mics hefyd," meddai Fiona..

Ffynhonnell y llun, Fiona Morgan

Disgrifiad o'r llun, Fiona yn rhedeg yn Hollywood

Torri record?

O ran y daith ei hun roedd Fiona yn cyfaddef fod Hugh a Gwyndaf, y trefnwr teithiau, wedi gwneud "plan andros o dda."

"Roedden ni'n landio yn Efrog Newydd ar ddydd Llun ac roedd rhaid i ni fod yn Chicago erbyn y dydd Gwener yr wythnos yna i redeg y marathon dros y penwythnos," meddai.

"Aethon ni drwy 12 state cyn cyrraedd Chicago - dreifio oedd hwnnw.

"Wedyn aethon ni ar bump flight, roedd 'na ddau dr锚n a pump car wedi cael ei hurio ar gyfer gweddill y daith."

Gyda phob talaith yn cynnig rhywbeth gwahanol o ran tirwedd, roedd 'na ambell un sefyll yn y cof fwy nag eraill i Fiona.

"Nes i licio Hawaii, roedd 'na deimlad ein bod ni ar ein gwyliau yno, ond nes i enjoio Alaska hefyd er ei bod hi mor oer yno. Y ddau le yna fyswn i'n rhoi fel fy hoff lefydd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Fiona Morgan

Disgrifiad o'r llun, Monument Valley Arizona

Ffynhonnell y llun, Fiona Morgan

Disgrifiad o'r llun, Cyrraedd Las Vegas, Nevada

O ran rhedeg mewn 50 talaith mewn cyn lleied o amser, dyw Hugh methu dod o hyd i unrhyw record o'r fath yn bodoli fod p芒r wedi gwneud hyn gyda'i gilydd.

Mae sawl record yn bodoli o bobl yn gwneud pethau gwahanol o fewn y 50 talaith, ond dim am redeg milltir.

"Rydan ni dal i neud ychydig o ymchwil, roedd o'n rhywbeth arbennig oedden ni eisiau ei neud i ddathlu pen-blwydd Fiona er i sawl un o'n ffrindiau ni ddeud nad oedd o'n bosib," meddai Hugh.

Yn 么l Fiona mae'r ddau hefyd yn gwneud ymholiadau gyda recordiau byd Guinness gan fod y daith gyfan wedi cael ei gofnodi ar oriawr glyfar y ddau drwy GPS.

"Mae'r cyfan gennym ni wedi'i gofnodi, pob milltir ac mae 'na fap yn dangos yn union lle yr oedden ni'n rhedeg," meddai Fiona.

Ffynhonnell y llun, Fiona Morgan

Disgrifiad o'r llun, Croeso i Florida

Ffynhonnell y llun, Fiona Morgan

Disgrifiad o'r llun, Baner Cymru yn New Jersey
Disgrifiad o'r llun, Rhestr o'r daith

O'r atgofion, un peth fydd yn aros yng nghof Hugh am y daith fydd gweld yr haul yn gwawrio a machlud wrth redeg. Roedd y ddau yn ceisio rhedeg yn gynnar yn y bore neu'n hwyr yn y nos.

"Mae rhai pobl yn gofyn i ni pa un oedd y state gora ond dyw hwnna ddim yn gwestiwn fair i ddeud y gwir achos rhai o'r states roedden ni'n dreifio drwyddyn nhw am oriau a rhai eraill piciad i mewn, rhedeg a piciad allan yn syth," meddai.

Un o uchafbwyntiau'r trip i Hugh oedd treulio amser yn y Grand Canyon yn Arizona.

"Gafo ni gyfle i aros mewn cabin ar ochr y Grand Canyon a gweld yr haul yn mynd i lawr tra oedden ni'n rhedeg ac roedd hwnna yn ofnadwy o sbeshal.

"Doedd na ddim s诺n ddim byd dim ond y s锚r i'w gweld uwch ein pennau," meddai.

Rhagor o redeg?

Nawr fod yr her o goncro taleithiau America wedi'i gwblhau, mae gan y ddau heriau eraill ar y gorwel.

Maen nhw eisiau cwblhau a rhedeg y chwe 'Major Marathons' sydd 'na o gwmpas y byd.

Mae'r rhain yn cynnwys Efrog Newydd, Llundain, Chicago, Berlin, Tokyo a Boston.

"Rydym wedi gneud pedwar o'r rhain yn barod ac rydw i'n ddigon lwcus o fod wedi cael lle yn Tokyo a Boston ar gyfer y flwyddyn nesaf," meddai Fiona.

"Unwaith bydd y rhain wedi'u cwblhau pwy a 诺yr pa her fyddwn ni'n neud nesaf."

Ffynhonnell y llun, Fiona Morgan

Disgrifiad o'r llun, Mount Rushmore South Dakota yn y cefndir

Ffynhonnell y llun, Fiona Morgan

Disgrifiad o'r llun, Roedd y tywydd ychydig yn oerach yn Alaska