Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Oedi posib i yrwyr ar Bont y Borth yr wythnos hon
Gall gyrwyr sy'n croesi Pont y Borth rhwng Ynys M么n 芒'r tir mawr wynebu oedi yr wythnos hon wrth i waith gwirio peirianyddol gael ei gynnal.
Fis Hydref y llynedd cafodd y bont ei chau am dri mis yn sgil pryderon am ei diogelwch.
Bellach mae ceblau wedi'u hychwanegu i rodenni haearn, gan gysylltu'r ffordd i'r gadwen grog fel mesur diogelwch dros dro.
Dim ond un l么n fydd ar agor rhwng 09:00 a 18:00 tan y penwythnos.
Bydd y gwaith gwirio yn sicrhau bod yr atgyweiriadau dros dro ar y bont yn ddiogel.
Ddiwedd y flwyddyn bydd y rhodenni yn cael eu hailosod yn barhaol.
Yn 2026 bydd hi'n 200 mlynedd ers i'r bont agor i draffig am y tro cyntaf.
Cafodd ei chynllunio gan Thomas Telford a'i hagor yn 1826 er mwyn gostwng yr amser teithio o Lundain i Gaergybi, ac yna i Iwerddon.
Mae'r bont ar agor i draffig i'r ddau gyfeiriad - ond ar hyn o bryd mae yna gyfyngder pwysau o 7.5 tunnell.