³ÉÈË¿ìÊÖ

Crynodeb

  • 11 o farwolaethau dydd Gwener gan fynd â'r cyfanswm i 506

  • 244 o achosion newydd - cyfanswm o 6,645 bellach yng Nghymru

  • Llywodraeth Cymru'n barod i barhau gyda chyfyngiadau hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael eu llacio mewn rhannau eraill o'r DU

  • Pryder y gall perchnogion ail gartrefi hawlio grantiau busnes oherwydd Covid-19

  • Ymchwil gan Brifysgol Abertawe'n awgrymu bod ymbellhau cymdeithasol yn effeithio ar iechyd meddwl

  1. Galw am gyflog cyfartal i weithwyr gofalwedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich+1 17 Ebrill 2020

    Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am dâl ac amodau gwell i weithwyr gofal.

    Read More
  2. Diolch ar y fforddwedi ei gyhoeddi 09:49 Amser Safonol Greenwich+1 17 Ebrill 2020

    Mae negeseuon o ddiolch wedi bod yn ymddangos ar y ffyrdd yn ardal Casnewydd.

    Cafodd y negeseuon eu paentio gan gwmni Roman Road Markings gyda chaniatad Cyngor Dinas Casnewydd.

    diolchFfynhonnell y llun, Roman Road Markings
    diolchFfynhonnell y llun, Roman Road Markings
  3. Ffordd drawiadol o gyflwyno'r apêl arferolwedi ei gyhoeddi 09:39 Amser Safonol Greenwich+1 17 Ebrill 2020

    Wrth i'r wlad barhau â'r arferiad o glapio am 20:00 bob nos Iau, dyma neges gan y gweithwyr sy'n rhan o'r frwydr yn erbyn y coronafeirws. Rhys Jones, nyrs arbenigol yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, sy'n gyfrifol am y lluniau.

    Disgrifiad,

    Neges gan staff y GIG sy'n rhan o'r frwydr yn erbyn y coronafeirws

  4. 'Angen eglurder' am gartrefi gofalwedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich+1 17 Ebrill 2020

    Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i ddarparu eglurder am yr hyn sy'n digwydd mewn cartrefi gofal.

    Wrth siarad ar Radio Wales y bore 'ma, dywedodd bod angen cynnal profion ar drigolion a staff, a hynny ar frys, a bod angen darparu offer PPE digonol i staff.

    Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyhoeddi £40m yn ychwanegol i wasanaethau cymdeithasol, eu bod yn profi trigolion a staff oedd â symptomau a'u bod wedi darparu 10.4m o eitemau o PPE i weithwyr yn y sector gofal.

    Heléna HerklotsFfynhonnell y llun, carers uk
    Disgrifiad o’r llun,

    Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots

  5. Gwisgo mygydauwedi ei gyhoeddi 09:17 Amser Safonol Greenwich+1 17 Ebrill 2020

    ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Wales

    Mae epidemiolegydd gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod rhywfaint o dystiolaeth y gallai gwisgo mwgwd atal ymlediad Covid-19.

    Nid yw'r DU yn argymell y dylai'r cyhoedd wisgo mygydau er bod hynny'n digwydd mewn gwledydd eraill fel Yr Almaen a'r Weriniaeth Siec.

    Dywedodd Dr Chris Williams ar Radio Wale y bore 'ma: "Mae peth tystiolaeth y gallai mygydau atal ymlediad ymysg pobl sydd heb ddechrau dangos symptomau.

    "Ond rhaid i ni ofalu nad yw pobl yn gweld hynny fel esgus i beidio ymbellhau'n gymdeithasol. Dylai pobl barhau i aros adre er mwyn gwarchod y GIG."

    masgFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Ystyried llacio rheolau?wedi ei gyhoeddi 09:07 Amser Safonol Greenwich+1 17 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru

    Ma Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn awyddus i edrych beth y gellir ei wneud i lacio'r rheolau ar fynd allan i'r awyr agored pan fydd yr estyniad ar y cyfyngiadau yn dod i ben ymhen tair wythnos.

    Wrth siarad ar y Post Cyntaf, ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru, fe ddwedodd Mr Drakeford y byddai'n gweithio gyda Llywodraeth y DU, a'r llywodraethau datganoledig eraill dros y tair wythnos nesa i weld beth mae modd ei wneud.

  7. Coronafeirws: Cyfyngiadau'n niweidio iechyd meddwlwedi ei gyhoeddi 08:59 Amser Safonol Greenwich+1 17 Ebrill 2020

    Ymchwil gan Brifysgol Abertawe'n dweud fod ymbellhau cymdeithasol yn effeithio ar iechyd meddwl.

    Read More
  8. Tair wythnos arall o gyfyngiadauwedi ei gyhoeddi 08:45 Amser Safonol Greenwich+1 17 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dyna oedd neges y Prif Weinidog Mark Drakeford ddoe, ac mae Llywodraeth Cymru'n ategu hynny'r bore 'ma.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Dirwy am deithio diangenwedi ei gyhoeddi 08:34 Amser Safonol Greenwich+1 17 Ebrill 2020

    ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru Fyw

    Mae cwpwl o Gaerdydd wnaeth anwybyddu cyngori beidio teithio i ail gartref yn Sir Benfro wedi cael eu dirwyo.

    Cafodd y ddau eu stopio ger Caerfyrddin ddoe, fe welodd yr heddlu bod y car yn llawn dillad. Fe wnaethon nhw egluro'r rheolau i'r cwpwl a'u cynghori i droi am adre.

    Hanner awr yn ddiweddarach fe gafodd y car ei stopio eto ger traeth poblogaidd yn Sir Benfro ac fe gafodd y ddau eu dirwyo a'u hebrwng allan o ardal Heddlu Dyfed-Powys.

  10. Cwestiynau am Covid-19?wedi ei gyhoeddi 08:27 Amser Safonol Greenwich+1 17 Ebrill 2020

    ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru

    Cysylltwch drwy ffonio 03703 500500 neu ebostiwch post.cyntaf@bbc.co.uk - mae'r llinellau ar agor.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Y ffyrdd yn gymharol wag etowedi ei gyhoeddi 08:20 Amser Safonol Greenwich+1 17 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Ein prif stori ni'r bore 'ma...wedi ei gyhoeddi 08:14 Amser Safonol Greenwich+1 17 Ebrill 2020

    Mae pum cyngor sir yn galw am newidiadau i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar roi grantiau i berchnogion ail gartrefi.

    Dywed cynghorau Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Ceredigion a Sir Benfro fod rhai pobl yn manteisio ar arian sydd i fod i helpu busnesau bach yn ystod argyfwng Covid-19.

    Darllenwch fwy yma.

    aberdaron
  13. Bore da!wedi ei gyhoeddi 08:13 Amser Safonol Greenwich+1 17 Ebrill 2020

    ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru Fyw

    Mae'n ddydd Gwener, 17 Ebrill - croeso i'n llif byw dyddiol.

    Rhwng nawr a tua 18:00, fe gewch chi'r holl newyddion diweddaraf am y pandemig coronafeirws yng Nghymru a thy hwnt.

    Bore da i chi gyd.