Diolch a hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 17:36 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020
A dyna ddiwedd ar ein llif byw am heddiw.
Diolch am aros gyda ni.
Bydd y llif byw yn 么l bore fory gyda'r newyddion diweddaraf.
12 marwolaeth pellach o achos Covid-19, a 355 canlyniad positif newydd yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru
Y gweinidog iechyd yn dweud y bydd 7,000 o welyau ychwanegol a mwy na dwbl nifer yr offer anadlu.
Amseroedd 'heriol' i wasanaethau iechyd eraill yn sgil cyfyngiadau Covid-19 ar gyfarfod wyneb yn wyneb
A dyna ddiwedd ar ein llif byw am heddiw.
Diolch am aros gyda ni.
Bydd y llif byw yn 么l bore fory gyda'r newyddion diweddaraf.
Oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws mae nifer o bapurau bro Cymru'n paratoi rhifynnau a fydd yn cael eu cyhoeddi ar y we yn lle.
Un ydy .
Ni fydd cop茂au caled yn cael eu rhannu ac ni fydd taliad ar gyfer y rhifyn yma chwaith.
Dywedodd golygydd mis Ebrill, Bryan James: "Mae hyn yn agor y drws i ni gynnig y Dinesydd i gynulleidfa ehangach".
Mae arweinydd newydd y blaid Lafur, Kier Starmer, wedi cyhoeddi ei gabinet yr wrthblaid yn San Steffan, ac wedi rhoi un o'r swyddi blaenllaw i AS Torfaen, Nick Thomas-Symonds.
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Mae鈥檙 beiciwr proffesiynol Luke Rowe wedi cynnig beic i feddyg gofal dwys y GIG yng Nghaerdydd ar 么l i'w feic gael ei ddwyn tra roedd ar shifft.
Ar 么l i'r Dr Tom Roberts, sy'n anaesthetyg yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, roi ei hanes ar Twitter fe dderbyniodd neges gan nid yn unig Luke Rowe o d卯m Ineos ond hefyd y cyn-bencampwr Olympaidd Chris Boardman.
Dywed Dr Roberts y bydd yn derbyn ei feic gan Rowe ddydd Llun.
"Mae gweld yr holl gynigion o gymorth yn adfer eich ffydd mewn pobl," meddai.
Dridiau wedi i i芒r Gweilch y Dyfi, Telyn, ddychwelyd adre mae pawb yn aros i'w phartner Monty ddychwelyd hefyd.
Ond pwy yw'r ceiliog yma sydd wedi glanio'n y nyth brynhawn Sul?
Nid oes ganddo fodrwy am ei goes, na marciau cyfarwydd arall - felly pwy yw e?!
Mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am bobl fyddai'n gallu eu helpu gyda Covid-19 yn y gymuned
Maen nhw'n apelio ar i unrhyw un sydd 芒 phrofiad neu awydd i weithio neu wirfoddoli yn y maes gofal, yn enwedig pobl i weithio mewn cartrefi preswyl, gofal cartref neu yn y maes nyrsio cymunedol.
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Mae heddlu'r gogledd wedi cymryd dau feic oddi ar ddau yrrwr o Wallasey ar Lannau Merswy a gafodd eu dal yn gyrru rhwng Capel Curig a Llanberis brynhawn Sul.
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Dywed Angharad James, chwaraewr rhyngwladol Cymru, iddi gael ei symud gan yr heddlu wrth iddi geisio hyfforddi yn ddiweddar, a bod dod o hyd i le i ymarfer yn 'anodd'.
Mae chwaraewr canol cae Reading, James, 25, yn aros yn ei chartref yn Lerpwl wrth i Uwch Gynghrair y Merched gael ei atal oherwydd cyfyngiadau coronaferiws.
"Ar hyn o bryd rydw i wedi cael fy nghicio oddi ar ddau gae," meddai cyn chwaraewr Everton wrth Chwaraeon 成人快手 Radio Wales.
"Fe wnaeth yr heddlu ein symud ymlaen. Roedden nhw'n meddwl bod sesiynau ymarfer yn digwydd, ac na ddylai hynny fod.
"Maen nhw'n gwneud eu gwaith ar hyn o bryd a dwi'n gallu deall ei bod hi'n amser anodd i bawb, felly symudais ymlaen yn gyflym."
Mae rhywun wedi rhoi mwgwd ar wyneb cerflun o David Lloyd George ar y Maes yng Nghaernarfon...
Scottish Power
Mae toriad p诺er wedi cael ei gofnodi yn ardal c么d post LL44 yn Nyffryn Ardudwy, sy'n effeithio ar nifer fawr o gartrefi yn yr ardal.
Dywedodd cwmni Scottish Power: "Ni chawsom unrhyw rybudd ymlaen llaw o hyn a dim ond am 13:37 y daethom yn ymwybodol ohono.
"Mae ein peirianwyr wedi cyrraedd y safle i ymchwilio i adroddiadau heb eu cadarnhau o glec uchel o ddarn o offer uwchben. Bydd ein t卯m yn gweithio i gael eich p诺er yn 么l ymlaen mor gyflym ac mor ddiogel 芒 phosibl."
Mae disgwyl i'r p诺er gael ei adfer erbyn 16:30, meddai'r cwmni.
Tybed yng nghartrefi pwy mae'r golygfeydd yma i'w cael?
(ac mae rhai'n ddyfeisgar iawn mewn argyfwng, mae'n amlwg)
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Mae'r cwmni peirianneg Renishaw wedi dechrau cynhyrchu cydrannau ar gyfer peiriannau anadlu meddygol, i gefnogi'r GIG yn ystod y pandemig.
Dywedodd y cwmni, sydd 芒 safleoedd gweithgynhyrchu yn Swydd Gaerloyw a De Cymru, fod y ddwy ffatri bellach yn rhedeg saith diwrnod yr wythnos.
Dywedodd Marc Saunders, o Renishaw: "Pan alwodd y llywodraeth, fe wnaethon ni sgramblo i ymateb, a sylweddoli ar unwaith raddfa frawychus yr her."
"Mae peiriannau anadlu yn ddyfeisiau meddygol soffistigedig ac roeddem yn teimlo mai'r ffordd orau o gymhwyso ein galluoedd fyddai helpu i gynyddu cynhyrchiad dyluniadau gyda'r dechnoleg sydd ganddon ni."
Mae'r cwmni fel arfer yn cyflenwi rhannau ar gyfer cynhyrchu peiriannau jet a thyrbinau gwynt, yn ogystal 芒g offer ddeintyddiaeth a llawfeddygaeth ymennydd.
Mae aelodau eglwys efengylaidd yn Llanbedr Pont Steffan yn paratoi i agor drysau eu cartref newydd sbon.
Mae'r adeilad newydd wedi cael ei leoli y drws nesaf i gaffi Yr Hedyn Mwstard, ac fe ddywedodd y trefnwyr wrth raglen Bwrw Golwg 成人快手 Radio Cymru y bydd yr adeilad "yn dod 芒 sefydlogrwydd".
Mae rhai'n darganfod ffyrdd gwahanol i lenwi eu horiau tra ein bod ni'n aros adre.
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Daeth cadarnhad gan bod 355 yn ychwanegol o bobl bellach wedi cael eu heintio gyda Covid-19.
Mae hynny'n golygu bod cyfanswm o 3,197 o bobl wedi profi'n bositif i'r haint, ond mae meddygon yn credu fod y nifer mewn gwirionedd yn uwch na hynny.
Fe wnaeth 12 yn rhagor o bobl farw o'r haint yma dros y 24 awr diwethaf hefyd, gan ddod a chyfanswm y marwolaethau i 166.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn dilyn cysoni data parhaus, bod 11 achos wedi鈥檜 dyblygu a gofnodwyd yn flaenorol wedi cael eu canfod a鈥檜 dileu o鈥檙 ffigurau cyffredinol.
Y cyngor unwaith eto i bobl ydy i aros adref ac i beidio a mentro allan os nad yw'n hollol hanfodol.
Mae swyddogion cynorthwyol Heddlu De Cymru wedi cael eu gweld yn holi pobl yn rhai o barciau cyhoeddus Caerdydd ddydd Sul.
Er gwaetha'r cyngor i bobl aros adre mae'n ymddangos bod rhai'n dal i wneud y gwrthwyneb.
Gyda rhieni Cymru'n paratoi ar gyfer ail, os nad trydydd, wythnos o ddifyrru plant adref mae gan Gomisiynydd Plant Cymru a'i th卯m sawl awgrym ar eu gwefan o weithgareddau i'r teulu oll.
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Awydd dysgu sgil newydd tra bo ni'n ynysu?
Beth am ddilyn 么l troed Aled Hughes a dysgu sut i gynganeddu?
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Bydd 11 o fynwentydd Cyngor Sir Benfro yn cael eu hail-agor ddydd Sul i aelodau o'r cyhoedd.
Daeth y penderfyniad yn sgil cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru yn hwyr nos Wener bod mynwentydd yn cael aros ar agor, ond mai dim ond 12 person ar y mwyaf fyddai'n cael mynychu angladd.
Fodd bynnag nid yw pob mynwent wedi ail-agor ddydd Sul.
Fe sylwodd un o newyddiadurwyr 成人快手 Cymru fod gatiau amlosgfa a mynwent Thornhill yng Nghaerdydd yn parhau ar gau.
Mae prif swyddog meddygol yr Alban wedi ymddiheuro am anwybyddu ei chyngor ei hun a mynd i鈥檞 hail gartref, yn 么l
Aeth Dr Catherine Calderwood i鈥檙 llety yn Fife er ei bod hi鈥檔 dweud wrth drigolion yr Alban y dylen nhw aros gartref yn sgil y coronafeirws.
Mae鈥檔 dweud ei bod yn 鈥渨irioneddol ddrwg鈥 ganddi.