³ÉÈË¿ìÊÖ

Triniaeth diabetes newydd yn rhoi 'rhyddid' i gleifion

  • Cyhoeddwyd
Briall Gwilym
Disgrifiad o’r llun,

Mae Briall Gwilym yn gobeithio y bydd y driniaeth newydd yn rhoi mwy o "ryddid" i bobl â diabetes math 1

Fe all triniaeth newydd o ddiabetes math 1 roi rheolaeth "mwy sefydlog" i bobl yma yng Nghymru, yn ôl dynes o Wynedd.

Fe gafodd Briall Gwilym, 25, sy'n byw yng Nghaernarfon ac yn fydwraig, ddiagnosis o'r cyflwr 20 mlynedd yn ôl.

Mae'r driniaeth newydd sydd ar fin gael ei chynnig yn Lloegr a'r Alban yn gweithredu fel pancreas artiffisial sy'n gallu cyfrifo faint o inswlin sydd ei angen a'i ddarparu yn awtomatig.

Oherwydd prinder offer a'r angen i hyfforddi cleifion, mae disgwyl i'r driniaeth gymryd hyd at bum mlynedd i gyrraedd pawb sy'n gymwys ar ei chyfer.

Sut mae'r driniaeth yn gweithio?

Mae'r driniaeth yn defnyddio synhwyrydd glwcos sy'n gorwedd dan y croen - mae'n gallu cyfrifo faint o inswlin sydd ei angen ac yna ei ddarparu drwy bwmp.

Fel un sydd wedi sôn am yr her o reoli'r cyflwr, gobaith Briall Gwilym sy'n wreiddiol o Langwm ond bellach yn byw yng Nghaernarfon, yw y bydd y driniaeth yn helpu pobl drwy gael triniaeth sefydlog.

"Dwi di cael cyfnodau lle dwi heb reoli o o gwbl - dwi'n well bellach ond dwi dal yn cael dyddiau lle dwi'n cael blips bach… ma'n lot yn feddyliol a dim brêc o'r cyflwr," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Briall Gwilym ei bod wedi "colli rheolaeth lwyr" ar y cyflwr tra yn y brifysgol

Yn ôl Briall, 25, mae rheoli'r cyflwr wedi bod yn brofiad o ddysgu ar ôl iddi adael adref.

"Mynd allan, symud o adre ac o'n i'n lwcus, roedd fy rhieni yn wych efo helpu fy rheolaeth i," meddai.

Aeth ymlaen i sôn am y profiad o ymdopi gyda'r cyflwr tra yn y brifysgol.

"Oedda ni'n pwyso bob dim felly o'n i'n gwybod yn union faint o garbohydradau, ond pan nesh i hitio lefelau mynd allan a mynd i'r brifysgol... fath ag unrhyw berson oed yna dwi'n meddwl oedd y rhyddid yn mynd i'ch penna ac oedd cael y cyflwr ar ben hynna... nesh i golli rheolaeth yn llwyr ac oni jest isho bod yr un peth â phawb arall."

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Briall Gwilym ddiagnosis o diabetes math 1 ugain mlynedd yn ôl

Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd mae tua 300,000 o bobl yn byw gyda diabetes math 1 yn y Deyrnas Unedig ac maen nhw'n gobeithio y bydd y driniaeth newydd yn helpu i sefydlogi'r modd o'i drin.

"Dwi'n meddwl fod o'n wych… mae'n cymryd elfen fawr o'r stress o 'na mewn ffordd," meddai Briall Gwilym.

"Fasa dal rhaid i mi gyfrifo y carbohydradau ond 'swn i ddim yn gorfod poeni am yr elfen o feddwl am roi mwy neu llai o inswlin."

Aeth ymlaen i ddweud ei bod yn gobeithio y bydd y driniaeth yn rhoi mwy o ryddid i bobl sy'n dioddef o'r cyflwr.

"Dwi'n meddwl neith o roi rhyddhad i bobl … ma'n glefyd lle da chi gorfod bod reit llym efo'ch hun i gael y rheolaeth berffaith 'na a dwi'n gobeithio neith o roi rheolaeth mwy sefydlog i bobl."

Pynciau cysylltiedig