Gwynedd: 'Tafarn leol nid llety gwyliau' medd ymgyrchwyr
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr yng Ngwynedd wedi erfyn ar y cyngor i wrthod trydydd ymgais i drosi tafarn yn unedau gwyliau.
Yn 2022 fe sefydlwyd cymdeithas i geisio achub y Vaynol Arms ym Mhentir, ger Bangor, sydd wedi bod ar gau ers Nadolig 2021.
Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi gwrthod dau gais cynllunio i drosi'r dafarn ond mae'r perchennog bellach wedi gwneud cais o'r newydd.
Bwriad Duncan Gilroy yw rhannu'r llawr gwaelod yn ddwy uned gwyliau.
Ond dros y Sul roedd tua 70 yn bresennol mewn rali i ddangos anfodlonrwydd llawer o bobl leol am y cynlluniau.
Yn 么l Gr诺p Gweithredu Pentref Pentir maen nhw eisiau prynu'r dafarn a'i rhedeg fel menter gymunedol.
'Trosiant isel a diffyg cefnogaeth'
Mae'r Vaynol Arms, yng nghanol pentref Pentir, yn dyddio'n 么l i ganol y 18fed ganrif ac ar un adeg yn ran o Stad y Faenol.
Yn 么l Duncan Gilroy, perchennog y dafarn, roedd y Vaynol Arms wedi cael ei chynnig i'r gymuned leol ar brydles.
Dywedodd fod y cynnig yn un "sylweddol gwell" na phrydles y cyn-berchennog, Robinsons, gyda'u tenant, ond nad oedd unrhyw gynnig wedi'i dderbyn.
Wedi methu 芒 dod i gytundeb, mae dau gais blaenorol Mr Gilroy i drosi'r dafarn yn unedau gwyliau wedi eu gwrthod gan Gyngor Gwynedd gan nad oedd digon o dystiolaeth wedi ei chyflwyno nad oedd y busnes yn hyfyw fel tafarn.
Ond mae'r dogfennau cynllunio diweddaraf yn cyfeirio at gyn-landlord sy'n dweud "nad oedd ganddo unrhyw ddewis ond gwerthu'r brydles yn 么l i'r bragdy, yn bennaf oherwydd trosiant isel, diffyg cefnogaeth leol yn gyffredinol (nifer yr ymwelwyr), a'r costau rhedeg".
Ychwanegodd Mr Gilroy yn ei gais bod angen "buddsoddiad sylweddol i uwchraddio'r gegin a'r toiledau ac ati", ac bod hynny yn debyg o gostio "degau o filoedd".
Pan gafodd ei holi gan y 成人快手 pwysleisiodd Mr Gilroy nad oedd y dafarn ar werth a'i fod yn "siomedig nad oedd y dafarn wedi ei chefnogi gan y gymuned yn y gorffennol".
Ond ychwanegodd ei fod yn "parhau i fod yn agored i drafodaethau ar brydles yr adeilad gyda'r gymuned, cyn belled 芒 bod ganddynt gynllun busnes hyfyw".
'Wedi ei golli i'r gymuned am byth'
Ymysg y siaradwyr yn y rali roedd cyn-Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd, sy'n gyfarwyddwr tafarn gymunedol y Fic yn Llithfaen.
"Mae'n cymunedau ni wedi cael eu gwagio a does ganddon ni ddim, yn aml iawn, ond dau adeilad ar 么l mewn pentref sef eglwys a'r dafarn," meddai.
"Mae angen i ni eu trysori nhw ac mae angen iddyn nhw fod yn rhan o berchnogaeth y gymuned leol.
"Mae Ewrop i gyd yn sylweddoli fod twristiaeth yn rhan o'r economi ond mae o angen ei reoli.
"Unwaith fydd hwn yn Air BnB fydd wedi ei golli i'r gymuned am byth."
Mae Gr诺p Gweithredu Pentref Pentir yn parhau i fod yn benderfynol o brynu'r adeilad i'w redeg fel tafarn, caffi a siop gan nad oes cyfleuster tebyg yn bodoli ym Mhentir.
Dywedodd llefarydd: "Rydym yn parhau i wrthwynebu'r cais newid defnydd, fel y mae'r cyngor cymuned.
"Rydym wir yn gwerthfawrogi'r gymuned ac eisiau prynu'r dafarn gan Mr Gilroy a'i rhedeg fel canolbwynt i'r gymuned gyda thafarn, caffi a siop.
"Rydym mewn cysylltiad 芒 thafarndai cymunedol eraill yn yr ardal ehangach, mewn lleoliadau gwledig tebyg, sydd i gyd wedi bod yn llwyddiannus iawn."
Mae disgwyl penderfyniad ar y cais cynllunio dros y misoedd i ddod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2022