Gwynedd: Cais o'r newydd i droi tafarn yn unedau gwyliau
- Cyhoeddwyd
Mae cais o'r newydd wedi ei gyflwyno i droi tafarn wledig yng Ngwynedd yn llety gwyliau.
Fis Ionawr fe wrthodwyd cais gan Adran Gynllunio Cyngor Gwynedd i droi'r Vaynol Arms ym Mhentir ger Bangor yn ddwy uned wyliau.
Daeth y gwrthodiad yn sgil pryderon nad oedd digon o dystiolaeth wedi'i gyflwyno nad yw'r busnes yn hyfyw.
Ond er ymdrechion yn lleol i gadw'r dafarn fel menter gymunedol, bwriad y perchennog yw parhau gyda'i gynlluniau.
'Ni dderbyniwyd unrhyw gynigion'
Mae'r dafarn yn dyddio'n 么l i ganol y 18fed ganrif ac roedd yn rhan o Stad y Faenol ar un adeg, wedi'i leoli yng nghanol pentref Pentir.
Yn 么l Duncan Gilroy, perchennog y dafarn, roedd y Vaynol Arms wedi cael ei gynnig i'r gymuned leol ar brydles.
Dywedodd fod y cynnig yn un "sylweddol well" na phrydles y cyn-berchennog, Robinsons, gyda'u tenant, ond nad oedd unrhyw gynnig wedi'i dderbyn.
Mae'r dogfennau cynllunio yn nodi fod Gr诺p Gweithredu Pentir wedi cael "cyfle i gyflwyno cynnig i ail-agor y safle fel menter gymunedol neu hyd yn oed i brynu'r uned, ond ni dderbyniwyd unrhyw gynigion, ffurfiol nac anffurfiol".
Gan ychwanegu fod "ffyniant y dafarn wedi dirywio dros y blynyddoedd", cyfeiriwyd at "y gostyngiad mewn ymweliadau cyffredinol 芒 thafarnau a throsiant, mwy o gystadleuaeth gan dafarndai, gwestai a bwytai mwy canolog newydd a phresennol, newidiadau mewn arferion cymdeithasol, costau uwch a diffyg ail-fuddsoddi yn yr eiddo".
O ganlyniad, maen nhw'n gobeithio trosi llawr gwaelod yr adeilad i mewn i ddwy uned wyliau.
'Calon y gymuned'
Ond yn 么l Gr诺p Gweithredu Pentref Pentir, mae eu hymgyrch i achub y dafarn yn parhau.
Dywedodd Harry Hambleton wrth y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol: "Rydym yn siomedig iawn i orfod mynd drwy'r broses gyfan eto.
"Nid ydynt fel pe baent yn ymwybodol o ddyfnder y teimlad yn y pentref am y dafarn.
"Cafodd ei ddefnyddio nid yn unig yn hanesyddol gan bentrefwyr Pentir ond hefyd gan gymunedau cyfagos fel Rhiwlas. Does 'na ddim rheswm pam na all fod yn hyfyw eto."
Ychwanegodd: "Mae wedi bod yn dafarn ers y 1700au. Roedd yn galon y gymuned am flynyddoedd nes iddi gau cwpl o flynyddoedd yn 么l. Rydym wedi bod yn ymladd i'w hachub byth ers hynny.
"Rydym yn sefydliad dielw ac am ddefnyddio arian y llywodraeth a'r loteri i'w droi'n ased i bobl leol.
"Rydym am iddo fod yn dafarn hwb cymunedol, gyda swyddfa bost a chaffi. Byddai'n bwynt canolog i bobl leol gyfarfod a byddai'n rhoi arian yn 么l i'r gymuned leol.
"Rydym wedi ceisio trafod prydlesu'r eiddo, ond roedd yn ormod. Yn ddelfrydol fysan ni'n hoff prynu'r eiddo."
Mae disgwyl i Adran Gynllunio Cyngor Gwynedd drafod y cais dros y misoedd nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2022