Covid: Mark Drakeford yn amddiffyn pwerau pandemig Cymru

Disgrifiad o'r llun, Roedd gan Gymru reolau ei hun yn ystod y pandemig, oedd yn cael eu penderfynu gan Lywodraeth Cymru

Ni ddylid tynnu pwerau i reoli pandemig oddi ar weinidogion Cymru, medd y Prif Weinidog Mark Drakeford.

Daw ei sylwadau wedi i gyn-ysgrifennydd iechyd San Steffan, Matt Hancock ddweud nad yw'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn atal "rhyngweithio dynol".

Yn 么l Mr Drakeford, dyw'r ymchwiliad Covid diweddar ddim wedi bod yn hysbyseb dda i roi mwy o bwerau i Lywodraeth y DU.

Mae'r gwrandawiadau diweddar wedi bod yn "gyfres o ddatguddiadau gwarthus", meddai.

Yn ddiweddarach yr wythnos hon bydd cyn-Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, yn rhoi tystiolaeth.

Mae disgwyl i Mark Drakeford a'i weinidogion roi tystiolaeth eto'r flwyddyn nesaf wrth i'r ymchwiliad gynnal gwrandawiad llai ar benderfyniadau yng Nghymru yn ystod Covid.

Beth ddywedodd Hancock?

Wythnos diwethaf wrth iddo roi tystiolaeth, dywedodd Matt Hancock ei fod wedi cael perthynas dda gyda gweinidogion iechyd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ond ychwanegodd: "O ran y dyfodol dwi ddim yn credu ei bod yn hanfodol nac yn rhesymegol i gael pwerau datganoledig i ddelio ag afiechydon heintus gan nad yw'r ffiniau gweithredol, yn enwedig y ffin 芒 Chymru, yn atal rhyngweithio dynol o gwbl."

Fel ysgrifennydd iechyd Llywodraeth y DU, roedd Mr Hancock ond yn cael rheoli'r hyn oedd yn digwydd yn Lloegr.

Wrth siarad 芒 成人快手 Cymru mewn cynhadledd yn Llundain dywedodd y prif weinidog nad oedd yn cytuno 芒 sylwadau cyn-ysgrifennydd iechyd y DU.

"Go brin bod unrhyw un sydd wedi clywed yr hyn ddigwyddodd oddi fewn i Lywodraeth y DU wrth wrando ar yr ymchwiliad Covid yn credu bod hynny yn hysbyseb i gael mwy o bwerau," meddai Mr Drakeford.

Ychwanegodd: "Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae yna nifer o ddatguddiadau gwarthus wedi bod am sut oedd materion yn cael eu gweithredu oddi fewn i Lywodraeth y DU.

"Rwy'n gobeithio pan fydd yr ymchwiliad yn rhoi sylw i Gymru y bydd y stori yn wahanol ac y bydd hynny'n egluro pam bod angen gwneud penderfyniadau yn nes at bobl, gyda gwell dealltwriaeth o anghenion pobl a sut i ymateb iddyn nhw - dyna'r ffordd i weithredu yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd gan Lywodraeth Cymru bwerau enfawr dros fywydau pobl yng Nghymru yn ystod y pandemig

Gydol y pandemig, Llywodraeth Cymru oedd yn penderfynu ar gyfyngiadau Covid yng Nghymru.

Roedd deddfwriaeth gweinidogion y DU, ar y pryd, yn gofyn i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gyflwyno cyfyngiadau addas yn 么l y galw.

Ar y dechrau roedd y cyfyngiadau ar draws y DU yn debyg ond fe wnaethon nhw amrywio gyda threigl amser.