成人快手

Simon Hart: 'Dyw'r berthynas ddim wedi torri'

  • Cyhoeddwyd
Simon HartFfynhonnell y llun, Getty Images

Dyw penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod cytundeb Brexit Llywodraeth y DU ddim yn arwydd fod y berthynas rhwng y ddwy lywodraeth wedi torri, yn 么l Ysgrifennydd Cymru.

Dywedodd Simon Hart AS ei bod hi yn 'bechod' fod prif weinidog Cymru wedi argymell y dylai ACau bleidleisio yn erbyn y cytundeb mewn pleidlais yn y cynulliad cenedlaethol ond dywedodd ei "fod yn gallu deall yr amgylchiadau."

Ddydd Llun dywedodd Mark Drakeford tra bod yr etholiad cyffredinol wedi setlo Brexit, doedd hynny ddim yn gyfystyr a siec benagored.

Ond yr wythnos diwethaf fe wnaeth mwyafrif mawr o ASau gefnogi'r mesur fydd yn sicrhau fod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr.

Fe wnaeth T欧'r Cyffredin bleidleisio o 330 o 231 o blaid y Cytundeb Gadael, a fydd yn nawr yn mynd i D欧'r Arglwyddi

Yn 么l y modd mae datganoli yn gweithio yn y DU mae'r angen i Gynulliad Cymru a Senedd yr Alban roi cydsyniad i'r cytundeb.

Ond byddai penderfyniad i beidio gwneud hynny ddim yn rhwystro'r Mesur rhag dod yn rhan o gyfraith gwlad.

Ar raglen 成人快手 Politics Wales dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart: "Rwy'n meddwl fod hynny yn bechod. Rwy'n deall yr amgylchiadau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd Cymru wedi derbyn mwy na 拢5bn o gymorthdaliadau gan Frwsel erbyn 2020.

"Maen nhw wedi egluro'r amgylchiadau yn glir iawn.

"Dyw hyn ddim yn arwydd i i mi fod hyn yn golygu fod y berthynas wedi torri yn derfynol, " meddai.

"Maen nhw wedi rhoi rhai cynigion, fydd dwi'n meddwl, yn cael eu trafod yr wythnos nesaf. Fe fyddant yn cael eu trafod ac yna eu derbyn neu beidio."

Ychwanegodd nad yw'r sefyllfa yn eithriad, gan fod yr un peth wedi digwydd yn yr Alban.

"Yn amlwg byddai'n well pe bai ni wedi mynd yn ein blaenau yn gyt没n."

Cronfa Ffyniant Cyffredino

Yn ei gyfweliad fe wnaeth Mr Hart hefyd son am yr arian sy'n dod i Gymru oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd.

Mae'r Ceidwadwyr wedi gaddo cyflwyno Cronfa Ffyniant Cyffredinol yn lle rhaglenni cymorth yr UE ar 么l Brexit.

Fel un o rannaf tolaf yr UE fe fydd Cymru wedi derbyn mwy na 拢5bn o gymorthdaliadau gan Frwsel erbyn 2020.

Roedd gweinidogion y DU wedi addo ymgynghoriad llawn yngl欧n 芒'r Gronfa Ffyniant Cyffredinol - ond does dim manylion wedi eu cyhoeddi hyd yma.

Dywedodd Mr Hart y byddai'r manylion "yn ymddangos o fewn wythnosau yn hytrach na misoedd."

Fe fydd rhaglen 成人快手 Politics Wales yn cael ei ddarlledu ar 成人快手 One Wales am 10:00 dydd Sul 12 Ionawr, ac ar gael ar 成人快手 iPlayer.