Tro pedol ar gartrefu ceiswyr lloches mewn gwesty yn Llanelli
- Cyhoeddwyd
Ni fydd ceiswyr lloches yn cael eu cartrefu mewn gwesty yn Llanelli wedi'r cwbl.
Dywed Cyngor Sir G芒r eu bod wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan y Swyddfa Gartref fod y cynlluniau ar gyfer gwesty Parc y Strade yn Ffwrnes wedi dod i ben.
Roedd gwrthwynebu chwyrn wedi bod yn lleol i'r cynllun - a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mehefin - i gartrefu dros 240 o geiswyr lloches yno.
Mewn datganiad fore Mawrth, dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin eu bod wedi dweud wrth Lywodraeth y DU am eu "pryderon am densiwn cynyddol yn y gymuned".
"Mae'r Cyngor Sir yn falch bod y Swyddfa Gartref wedi dod i'r penderfyniad hwn," meddai'r datganiad.
"Bydd yr Awdurdod Lleol yn parhau i weithio gyda Heddlu Dyfed-Powys a pherchnogion y gwesty i sicrhau bod safle Gwesty Parc y Strade yn cael ei reoli'n briodol, er lles cymuned Ffwrnes a Llanelli."
Er na wnaethon nhw gyfeirio at y sefyllfa yn Llanelli yn uniongyrchol, dywedodd y Swyddfa Gartref eu bod yn "gweithio'n galed i leihau'r defnydd annerbyniol o westai trwy symud ceiswyr lloches i lety amgen, rhatach".
Dywedodd perchnogion y gwesty eu bod "yn y broses" o gyflogi staff eto, ac yn bwriadu agor fel gwesty "cyn gynted 芒 phosib".
'Llanast'
Cafodd y gwesty ei atal rhag cael ei ddefnyddio fel llety yr wythnos ddiwethaf, wedi i'r gwasanaeth t芒n fynegi pryderon am ddiogelwch y safle.
Mae nifer o bobl wedi cael eu harestio hefyd wedi'r hyn a gafodd ei ddisgrifio fel "cyfres o ddigwyddiadau pryderus" yn y gwesty.
Dywedodd Lee Waters, sy'n cynrychioli Llanelli ym Mae Caerdydd, ei fod yn "falch fod y Swyddfa Gartref wedi gweld synnwyr o'r diwedd".
"Ond dyna lanast maen nhw wedi'i greu, ac yn ei adael ar 么l," meddai.
"Mae gwesty annwyl wedi cael ei chwalu gan anallu'r Tor茂aid ac nid yw'n glir beth mae'r perchnogion nawr yn bwriadu ei wneud.
"Mae angen i [Lywodraeth y DU] wneud yn iawn am y difrod maen nhw wedi'i achosi."
Yn ymateb yn y Senedd i'r datblygiadau diweddaraf, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod ymddygiad y Swyddfa Gartref yn "hollol warthus".
Dywedodd fod Llywodraeth y DU yn "cerdded i ffwrdd o arbrawf sydd wedi methu", a bod nawr angen gweithio i adfer yr hollt sydd wedi ymddangos yn yr ardal o ganlyniad i'r cynlluniau.
"Ble fydd y Swyddfa Gartref pan fo'r gwaith yna'n cael ei wneud? Nid yma, yn bendant," meddai.
'Dod 芒'n tref ynghyd'
Ychwanegodd y Fonesig Nia Griffith, Aelod Seneddol Llanelli, ei bod yn "falch eu bod nhw [y Swyddfa Gartref] o'r diwedd wedi gwrando ar bobl Llanelli".
"Mae'r llanast hwn wedi arwain at wagio gwesty nodedig allweddol yn yr ardal gyda cholled bron i 100 o swyddi," meddai.
"Mae wedi creu rhaniadau o fewn cymunedau lleol ac wedi cymryd adnoddau gwerthfawr oddi ar ein gwasanaethau cyhoeddus ar adeg pan oedden nhw eisoes dan bwysau.
"Mae angen i ni symud ymlaen yn awr a dod 芒'n tref ynghyd unwaith eto."
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price, mai "dyma'r penderfyniad cywir i'r gwesty, ac, yn bwysicach na hynny, y penderfyniad cywir i bobl Ffwrnes".
"Nawr yw'r amser i gymuned Llanelli ddod at ei gilydd, yn dilyn profiadau'r misoedd diwethaf," meddai.
"O ran rhoi noddfa i bobl sydd mewn gwir angen, rwy' am bwysleisio'r dyhead sydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin i barhau i groesawu ein si芒r o geiswyr lloches o Wcr谩in, Affganistan a Syria i'n sir, a hynny drwy'r model gwasgaru sydd wedi gweithio'n llwyddiannus yn Sir G芒r ers blynyddoedd lawer."
Roedd y cynlluniau wedi rhannu barn yn lleol, ac roedd pryderon fod y sefyllfa yn mynd i waethygu wrth i'r amser fynd heibio.
Dywedodd Robert Lloyd, sy'n aelod o Bwyllgor Gweithredu Ffwrnes, fu'n gwrthwynebu'r cynlluniau, fod yn rhaid nawr cael eglurder ar sefyllfa'r gwesty.
"Ry'n ni am ei weld yn cael ei ddefnyddio eto cyn gynted 芒 phosib, a chael gwybod a yw perchnogion y gwesty yn ddiffuant, ac a ydyn nhw'n fodlon gweithio gyda'r gymuned leol," meddai.
"Mae'n drueni mawr bod hyn wedi digwydd. Yn amlwg, fel cymuned, ry'n ni wedi dod at ein gilydd."
Ychwanegodd: "Yn anffodus, mae yna ychydig o ddylanwadau allanol sydd wedi dod i mewn, ac mae hynny wedi creu rhywfaint o densiwn cymunedol.
"Byddwn yn gobeithio nawr y gallwn wella'r tensiynau hynny yn y gymuned yn gyflym iawn... ac y byddwn yn symud ymlaen a gobeithio y bydd perchnogion gwestai yn gweld synnwyr yn ceisio ymgysylltu ychydig mwy 芒'r gymuned leol a gallwn gael y gwesty yn 么l ar ei draed."
'Defnydd annerbyniol o westai'
Yn y cyfamser, roedd y Swyddfa Gartref wedi mynnu fod rhaid ymateb i'r niferoedd o geiswyr lloches sy'n cael eu cadw mewn gwestai dros dro, sydd - medden nhw - yn costio'r trethdalwyr tua 拢6m bob dydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref ddydd Mawrth: "Mae nifer y bobl sy'n cyrraedd mewn cychod bach i lawr o'i gymharu 芒'r llynedd ond rhaid mynd ymhellach i atal y cychod yn y lle cyntaf.
"Dyna pam rydyn ni'n benderfynol, drwy'r Ddeddf Ymfudo Anghyfreithlon, i sicrhau bod unrhyw un sy'n cyrraedd y DU yn anghyfreithlon yn cael eu cadw a'u symud yn gyflym i'w gwlad wreiddiol neu drydedd wlad ddiogel.
"Rydym hefyd yn gweithio'n galed i leihau'r defnydd annerbyniol o westai trwy symud ceiswyr lloches i lety amgen, rhatach, eu dyblu mewn ystafelloedd gwesty, a chlirio'r 么l-groniad etifeddiaeth [legacy]."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd23 Awst 2023