成人快手

Gwesty ceiswyr lloches: 'Ni eisiau teuluoedd, nid pobl sengl'

  • Cyhoeddwyd
Gwesty Parc y StradeFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i 241 o geiswyr lloches ymgartrefu yng Ngwesty Parc y Strade

Mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud mai "teuluoedd", yn hytrach na cheiswyr lloches sengl maen nhw eisiau eu cartrefu yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli - wrth siarad gyda phobl leol am y cynlluniau am y tro cyntaf.

Fe wnaeth tua 300 o bobl gymryd rhan mewn sesiwn holi-ac-ateb nos Fawrth - sesiwn a gafodd ei chynnal gan Bartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru. Roedd y sesiwn yn gyfle i glywed mwy am y cynlluniau i gartrefu ceiswyr lloches mewn gwesty yn Sir Gaerfyrddin

Bydd Gwesty Parc y Strade, Llanelli yn gartref i hyd at 241 o geiswyr lloches dros gyfnod o amser, ond does dim un yn bresennol ar y safle ar hyn o bryd.

Fe gafodd y sesiwn ar-lein ei chadeirio gan y Canon Aled Edwards, cyn Brif Weithredwr Cyt没n Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, a groesawodd y rhanddeiliaid allweddol.

Dyma'r tro cyntaf i'r cyhoedd glywed gan y Swyddfa Gartref a'u darparwr llety Clearsprings Ready 成人快手s mewn cyfarfod o'r fath.

Wrth siarad ar ran y cwmni dywedodd Steve Lakey: "Mae Clearsprings Ready 成人快手s wedi bod yn gweithredu ers 23 mlynedd ac wedi bod yn llwyddiannus iawn yn rhoi llety i bobl mewn cymunedau.

"Fodd bynnag, rydym wedi wynebu'r heriau diweddar gan orfod sefyll i fyny ar safleoedd fel hwn a gwestai mewn ffordd debyg iawn.

"Er ei fod yn heriol rydym yn cydnabod bod effaith sylweddol ar y gymuned ac rydym yn gweithio'n galed iawn i ddatrys y materion hynny lle gallwn ni."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhai yn gwrthwynebu'r cynlluniau yn chwyrn ac yn cynnal protestiadau ger y gwesty

Ychwanegodd: "Ein bwriad ar gyfer y gwesty hwn yw rhoi llety fwy neu lai'n gyfan gwbl i deuluoedd.

"Ni fydd unrhyw un sengl yn cael ei letya yno ac fel sydd wedi cael ei grybwyll bydd hyd at 241 o bobl yn derbyn llety, ond fe fyddan nhw'n cyrraedd fesul cam dros gyfnod o amser."

Dywedodd Tim Rymer o'r Swyddfa Gartref: "Rwy'n cydnabod bod defnyddio'r gwesty hwn, unrhyw westy, ymhell iawn o fod yn ddelfrydol.

"Ond ar hyn o bryd mae'n parhau i fod yn anghenraid gweithredol, o ystyried bod angen i ni fodloni ein rhwymedigaeth statudol sy'n parhau i roi gwestai ar waith.

"Gallaf ddweud wrthych yn sicr nawr nad ydym ar fin dechrau symud pobl i fewn - byddwn yn gwneud y gwaith pellach sydd ei angen yn gyntaf, ac yna'n gweithio drwy unrhyw gynlluniau gyda phartneriaid cyn i ni ddod 芒 phobl i'r safle."

Wrth siarad ar Dros Frecwast 成人快手 Radio Cymru, dywedodd Aelod Seneddol Llanelli, Nia Griffith, fod "prinder o wybodaeth yn dal i fod" ond ei bod yn croesawu'r eglurder ar y bwriad i gartrefu teuluoedd.

"Mae hyn yn help mawr, ond wrth gwrs dim dyddiad eto, dim manylion am bryd fydd pobl yn dod."

18 o arestiadau - hyd yn hyn

Roedd pob sefydliad yn cydnabod ei fod wedi bod yn gyfnod anodd i'r gymuned.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ross Evans o Heddlu Dyfed-Powys fod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn "hynod o heriol".

Cadarnhaodd hefyd fod 18 o arestiadau wedi bod ar y safle, y rhan fwyaf yn digwydd dros yr wythnos ddiwethaf.

Ychwanegodd hefyd fod mwy o arestiadau yn debygol o ddilyn.

Apeliodd Heddlu Dyfed-Powys a Clearsprings Ready 成人快手s am dawelwch ar safle'r gwesty.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cynllun i gartrefu 241 o geiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli o 10 Gorffennaf

Yn 么l Cyngor Sir Caerfyrddin dyma yw'r "achos tristaf a mwyaf rhwygol ac anodd yr ydym wedi gorfod delio ag ef".

Dywedodd Jake Morgan, Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin fod y cyngor yn dal i gredu mai Gwesty Parc y Strade yw'r "safle anghywir a'r model gofal anghywir" i gartrefu'r ceiswyr lloches.

"Nid ydym yn credu bod model Clearsprings yn gweithio," meddai.

Ychwanegodd Mr Morgan: "Rydym yn gresynu at golli gwesty eiconig yn y sir a'r 100 o swyddi a gefnogwyd ganddo mewn cymuned na allai, a dweud y gwir, fforddio ysgwyddo'r fath golled."

Roedd yr holl gwestiynau i aelodau'r panel wedi cael eu cyflwyno ymlaen llaw, heb unrhyw gyfle am unrhyw sylwadau neu gwestiynau ychwanegol yn ystod y sesiwn.

'Wedi'n sathru dan droed'

Yn dilyn y sesiwn dywedodd Rob Lloyd, llefarydd ar ran Gr诺p Gweithredu Ffwrnais nad oedd yn teimlo bod unrhyw un o'i bryderon wedi'u lleddfu.

Nid yw'n teimlo ychwaith bod gan y gymuned unrhyw ymddiriedaeth yn y Swyddfa Gartref na Clear Springs.

"Doedd fy nisgwyliadau i ddim yn uchel cynt, ac roeddwn i'n amau mai darllediad o wybodaeth gyhoeddus unochrog fydden ni'n ei gael," meddai.

"Dyna gawson ni, a dwi ddim yn meddwl ei fod wedi gwneud unrhyw beth i leddfu teimladau pobl Llanelli.

"Mae hon yn gymuned sy'n teimlo fel eu bod nhw'n cael eu sathru dan droed gan y Swyddfa Gartref a Clearsprings Ready 成人快手s.

"Mae'r cynllun yma wedi cael ei drafod ers dechrau Ebrill, fel 'dyn ni wedi clywed heno, a 'dyn ni nawr yn niwedd Awst ac o'r diwedd yn cael y darn cyntaf o ymgynghori cyhoeddus ar y peth."

Ffynhonnell y llun, 成人快手

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd y Canon Aled Edwards oedd yn cadeirio'r sesiwn: "Ma' gynnon ni brofiadau da yng Nghymru o wneud y math yma o beth.

"Ond ma' 'na lwybr gwbl unigryw i'r trefniadau yma," ychwanegodd.

"Mi oedd yr heddlu neithiwr [yn y cyfarfod nos Fawrth] yn mynegi pryder, mi oedd hefyd y cyngor sir yn mynegi pryder.

"Dw i'n credu ei bod hi'n llesol bod y lleisiau hynny wedi cael eu clywed a wedi eu mynegi yn eglur iawn.

"Mwya'n byd ma' pobl yn siarad ac yn rhoi gwybodaeth sicr i bobl gorau'n byd, yn benodol pan fo gan bobl, fel yn yr achos yma, bryderon dilys."