成人快手

Prydau ysgol dros yr haf: Pryder o fewn Llafur Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pryd ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae mwy o wleidyddion Llafur Cymru wedi mynegi pryderon am benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio 芒 darparu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r haf.

Dywedodd Mike Hedges, AS Dwyrain Abertawe, fod "bwydo plant sy'n dlawd yn gorfod bod yn flaenoriaeth i lywodraeth Lafur".

Mae AS Llafur o Gymru sydd wedi cael "sioc" hefyd wedi galw am wyrdroi'r penderfyniad.

Yn y Senedd, roedd yn ymddangos bod y Gweinidog Addysg Jeremy Miles yn beio Plaid Cymru am beidio 芒 chytuno i ddod o hyd i arian yn y cytundeb cydweithredu i barhau 芒'r cynllun.

Mynegodd Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig siom ynghylch y cyhoeddiad yn Senedd Cymru ddydd Mercher.

Dechreuodd Llywodraeth Cymru ariannu prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau i deuluoedd cymwys yn ystod y pandemig, penderfyniad a ganmolwyd ar y pryd gan y p锚l-droediwr Marcus Rashford.

Cafodd y cynllun ei ymestyn dro ar 么l tro - yn fwyaf diweddar i fis Ebrill a mis Mai diwethaf.

Ddydd Mawrth dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford na fydd prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn dros wyliau'r ysgol.

'Ymateb i'r pandemig'

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y ddarpariaeth wedi bod yn "ymyrraeth argyfwng 芒 therfyn amser mewn ymateb i'r pandemig", a dywedodd Mr Drakeford nad oedd y gyllideb ar gael nawr.

Yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Mr Hedges: "Nid wyf yn deall pam y gellir dod o hyd i 拢4m ar gyfer weiren wib sy'n cael ei redeg gan gwmni preifat yn fy etholaeth, yn hytrach na bwydo plant mewn teuluoedd mewn angen."

Gan gydnabod ei bod yn hwyr i'r llywodraeth newid cwrs, anogodd weinidogion i ofyn i gynghorau ariannu prydau am ddim yr haf hwn o'r arian wrth gefn, gan dalu amdanynt yng nghyllideb y flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd: "Rhaid i fwydo plant tlawd fod yn flaenoriaeth i lywodraeth Lafur".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Mr Miles ei fod yn rhannu ei "flaenoriaeth", ond cyfeiriodd at ffigyrau a ddefnyddiwyd gan y prif weinidog ddydd Mawrth fod cyllideb Llywodraeth Cymru yn "werth hyd at 拢900m yn llai mewn termau real" nag ym mis Hydref 2021.

"O ganlyniad i hynny mae'n amhosib i unrhyw lywodraeth fwrw ymlaen heb unrhyw effaith ar fywydau pobol," meddai.

'Sioc'

Ddydd Mawrth fe drydarodd Beth Winter, AS Llafur Cwm Cynon, ei bod wedi cael "sioc gan y penderfyniad sydyn i dorri" cinio ysgol am ddim yn ystod y gwyliau.

"Heddiw, rydw i wedi ysgrifennu at Jeremy Miles a gofyn i Lywodraeth Cymru wyrdroi'r penderfyniad i gwtogi ar brydau ysgol am ddim a grantiau gwisg ysgol."

Roedd Aelod o'r Senedd Llafur Caerffili, Hefin David hefyd wedi mynegi pryderon yn gynharach ym mis Gorffennaf, gan alw am "adolygiad" o'r "polisi presennol o ddarparu prydau ysgol am ddim i bawb yn ystod y tymor yn erbyn polisi prydau ysgol am ddim yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau i'r rhai sydd eu hangen."

Ond yn siarad yn gynharach yr wythnos hon fe ganolbwyntiodd ei feirniadaeth ar Blaid Cymru, yn hytrach na'r llywodraeth, gan ddweud y dylai'r blaid "ail-edrych ar y cytundeb cydweithredu" i ddod o hyd i arian ychwanegol.

'Newynog'

Siaradodd Mr Hedges yn ystod cwestiwn amserol ar y mater a godwyd gan Sioned Williams o Blaid Cymru.

Dywedodd fod ei phlaid yn cytuno 芒 barn y Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes, y "bydd y penderfyniad hwn yn arwain at blant yn mynd yn newynog yn yr wythnosau nesaf".

Ychwanegodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae'r gyllideb a ddyrennir i'r cyd-ymrwymiadau yn y Cytundeb Cydweithredu yn gyfran fechan iawn o wariant cyffredinol Llywodraeth Cymru.

"Er bod Plaid Cymru wedi dadlau'n gyson o blaid talebau gwyliau ar gyfer prydau ysgol am ddim, nid yw hyn yn rhan o'r rhaglen gydweithredu y cytunwyd arni gyda Llafur, ac ni chymerwyd y penderfyniad diweddar i atal y ddarpariaeth yn ystod y gwyliau gan Blaid Cymru nac fel rhan o'r cytundeb."

Dywedodd Mr Miles wrth y Senedd fod estyniad blaenorol wedi ei ariannu gan y gyllideb ar gyfer y cytundeb cydweithredu.

"Y tro hwn fe ofynnon ni eto i'r blaid a allwn ni geisio gyda'n gilydd i ddod o hyd i arian yn y cytundeb cydweithredu, ond nid oedd Plaid yn dymuno gwneud hynny," meddai'r gweinidog.

Dywedodd fod y llywodraeth wedi ariannu mwy o gynlluniau bwyd a hwyl yr haf sy'n "cyrraedd miloedd yn fwy o blant eleni".

Dywedodd Laura Anne Jones o'r Ceidwadwyr Cymreig fod y cyhoeddiad "yn syndod i ni gyd".

Meddai Mr Miles,"yn Lloegr Geidwadol, nid ydyn nhw mewn gwirionedd yn darparu prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau ac nid ydyn nhw chwaith yn darparu prydau ysgol gynradd am ddim i bawb chwaith."