成人快手

Cynllun ceiswyr lloches yn peri pryder a chroeso

  • Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i 241 o geiswyr lloches ymgartrefu yng Ngwesty Parc y StradeFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i 241 o geiswyr lloches ymgartrefu yng Ngwesty Parc y Strade

Mae Llywodraeth y DU wedi "colli rheolaeth" ar y system gartrefu ceiswyr lloches, yn 么l un cynghorydd.

Ddydd Gwener fe wnaeth yr Uchel Lys wrthod ymgais gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i atal cynlluniau i gartrefu hyd at 241 o geiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade.

Yn 么l y cynghorydd Martyn Palfreman mae'r Swyddfa Gartref wedi "methu'n llwyr" 芒 rhoi gwybodaeth i bobl leol be sy'n digwydd.

Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud bod nifer y ceiswyr lloches sydd angen llety yn rhoi straen ar y system.

"Rwy'n erfyn ar Lywodraeth y DU i gael rheolaeth ar y drefn o gartrefu ceiswyr lloches, yn amlwg mae nhw wedi colli rheolaeth," ychwanegodd y cynghorydd.

"O ran be sy'n digwydd nesaf a dyfodiad y ceiswyr lloches i Lanelli - i fod yn onest dydw i ddim yn gwybod," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y protestwyr a ddaeth ynghyd fore Sadwrn

Fore Sadwrn fe ymgasglodd dwsinau o brotestwyr y tu allan i Westy Parc y Strade yn gwrthwynebu'r cynlluniau.

Yn eu plith yr oedd rhai trigolion lleol a chynrychiolwyr o rai sefydliadau gan gynnwys Voice of Wales - roedden nhw'n poeni am effaith cartrefu ceiswyr lloches ar wasanaethau lleol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae llawer o'r trigolion lleol yn bryderus, medd Helen Thomas

"Mae lot o'r bobl leol yn ofnus," medd Helen Thomas.

"Yn ymyl fan hyn mae fflatiau i'r henoed ac mae nhw'n bryderus wrth i bobl 'Na i Hiliaeth' gamu ar eu tir. Mae nhw'n peri ofn i bawb.

"Maen nhw'n yn ein galw ni'n bobl hiliol - dydyn ni ddim yn hiliol. Mae gen i ffrindiau sy'n aml-ddiwylliannol.

"Dwi ddim yn hiliol nag erioed wedi bod."

Yno hefyd roedd grwpiau cefnogi ffoaduriaid a bu peth dadlau rhyngddyn nhw a'r protestwyr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Mae angen i Lanelli barhau i fod yn dref groesawgar'

"Mae mater y gwesty a'r swyddi wedi mynd - does dim modd eu hachub nhw bellach.

"Yr hyn sydd ar 么l yw sut le ry'n ni eisiau Llanelli i fod - ac i mi mae'n hynod bwysig fod Llanelli yn parhau i fod yn dref groesawgar," medd un sy'n cefnogi ffoaduriaid.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Nid bai'r ffoaduriaid yw eu bod yn dod yma,' medd Cellan Smith o Gastell-nedd

"Ni'n deall ofnau pobl lleol 100%," medd Cellan Smith o Gastell-nedd, "ond nid bai'r ffoaduriaid [yw eu bod yn dod yma]. Perchnogion y gwesty sydd wedi achosi hynny. Ni yma i groesawu ffoaduriaid. Fel mae rhyfel Wcr谩in wedi dangos gall hyn ddigwydd i unrhyw un.

"Taswn i yn yr un sefyllfa gobeithio fyddai pobl yn croesawu ni."

Mae AS Llanelli, Nia Griffith, wedi galw am fwy o gydweithio rhyngwladol er mwyn canfod "atebion mwy parhaol".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafodd plismyn eu galw i'r gwesty ddydd Gwener wedi i brotestwyr atal cerbydau rhag mynd mewn i'r safle

"Fe gawson wybod o'r blaen y bydd y ceiswyr lloches yn cyrraedd wythnos nesaf. Does gennym ddim mwy o fanylion am y gr诺p a fydd yn cyrraedd na gwybodaeth am pryd fyddan nhw'n cyrraedd," ychwanegodd Mr Palfreman.

Ychwanegodd y cynghorydd sy'n cynrychioli ward Hengoed yn Llanelli mai ei "wir bryder" yw y bydd y ceiswyr lloches yn flin gyda nhw ond ei fod yn gobeithio "na fydd hynny'n digwydd".

Ychwanegodd Nia Griffith AS ei bod yn "siomedig" gyda'r hyn ddigwyddodd yn y llys ddydd Gwener.

"Rwy'n credu bod e'n bryder i bobl sy'n byw yn agos at y gwesty ac er bod gan bawb hawl i'w barn rwy'n erfyn ar bobl i fod yn ystyriol," meddai.

"Mae'n rhaid i ni weithio ar y cyd gyda gwledydd eraill i ddod o hyd i ddatrysiadau parhaol - rhaid wrth ymdrechion rhyngwladol ar y cyd gyda phartneriaid er mwyn sicrhau cytundebau iawn."

Yn dilyn penderfyniad yr Uchel Lys dywedodd arweinydd y cyngor, Darren Price, ei fod e'n "siomedig" ac y bydd yr awdurdod yn ystyried rhesymau'r barnwr ddydd Llun.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwrthwynebiad lleol wedi bod i'r cynlluniau ers eu cyhoeddi

Dywed Aled Edwards, y cyn-gomisiynydd ar gyfer cydraddoldeb hil yng Nghymru bod angen sgwrs gyda phobl leol er mwyn cael gwared ar rai pryderon ond delio gydag eraill.

"Os ydym yn treulio amser yn egluro beth yw cefndir y ceiswyr lloches, a'r hyn y gallan nhw ei gynnig i ni... rwy'n credu y byddai hynny'n llawer gwell," meddai.

"Ar hyn o bryd mae trafodaethau gwenwynig am y mater ar draws y byd a dyw hynny ddim yn beth da."

Wrth ymateb i gamau'r cyngor, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref fod nifer y bobl sy'n cyrraedd y DU wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, a bod hynny'n rhoi "straen anhygoel" ar y system lloches.

"Mae'r Swyddfa Gartref wedi ymrwymo i wneud pob ymdrech i leihau'r defnydd o westai, a chyfyngu'r baich ar y trethdalwr - ar hyn o bryd mae 51,000 o geiswyr lloches mewn gwestai yn y DU ac mae hynny'n costio 拢6m y dydd i drethdalwyr" medd llefarydd.

Pynciau cysylltiedig