Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Ffrainc 39-14 Cymru
- Cyhoeddwyd
Cafodd Ffrainc fuddugoliaeth ddigon cyfforddus yn erbyn Cymru ddydd Sadwrn er i'r Cochion ymateb yn gryfach yr ail hanner.
Dechreuodd y g锚m yn ddigon siomedig i Gymru gyda Romane Menager yn sgorio cais i'r Ffrancwyr lai na dwy funud i mewn i'r g锚m, gyda Jessy Tremouliere yn trosi'n llwyddiannus.
Daeth ail gais y Ffrancwyr rhai munudau wedyn gyda chic ar draws y cae gan Tremouliere yn arwain at gais gan Gaelle Hermet.
Yn y 19eg munud, aeth Cymru i lawr i 14 chwaraewr ar 么l i Sioned Harries dderbyn carden felen.
Gwnaeth dau gais arall gan yr asgellwr Melissande Llorens roi Ffrainc ar y blaen o 29-0 a sicrhau'r pwynt bonws i'r t卯m cartref wrth i'r hanner cyntaf ddod i ben.
Yn yr ail hanner, fe wnaeth Ffrainc ychwanegu eto at eu sg么r yn gyflym gyda'r blaenasgellwr Charlotte Escudero yn croesi'r llinell am gais.
Georgia Evans lwyddodd i roi'r pwyntiau cyntaf ar y bwrdd i Gymru, gan groesi'r llinell wedi 52 munud, gydag Elinor Snowsill yn trosi am y saith pwynt.
Funudau'n ddiweddarach, fe ddaeth cais arall gan y prop Gwenllian Pyrs a throsiad hefyd.
Ond Ffrainc gafodd y gair diwethaf wedi i Rose Bernadou groesi'r llinell gyda munudau i fynd tan ddiwedd y g锚m.
Mae Cymru'n parhau yn y trydydd safle ac mi fyddan nhw'n wynebu'r Eidal wythnos nesaf ar gyfer eu g锚m olaf yn y Bencampwriaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2023