成人快手

Cyfres yr Hydref: Cymru 34-39 Awstralia

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd perfformiad Cymru yn addawol am 60 munud, cyn dymchwel yn llwyr am yr 20 munud olaf

Cafodd Cymru eu trechu gan Awstralia yn Stadiwm Principality, wrth i'r crysau cochion ildio 26 pwynt yn y 22 munud olaf yn dilyn awr o chwarae da.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen gyda g么l gosb gynnar gan Ben Donaldson, ond Cymru sgoriodd y cais cyntaf trwy Jac Morgan wedi 10 munud, a llwyddodd Gareth Anscombe i'w throsi.

Daeth g么l gosb arall gan Donaldson ag Awstralia yn 么l o fewn pwynt i Gymru, cyn i Anscombe ymateb gyda thri phwynt i'r t卯m cartref.

Yna fe sgoriodd yr wythwr Taulupe Faletau yn y gornel, ag yntau'n ennill ei 100fed cap rhyngwladol, a llwyddodd Anscombe eto gyda'r trosiad o'r ystlys.

Daeth tri phwynt arall o droed y maswr yn fuan wedi hynny i roi mantais o 20-6 i Gymru wedi 28 munud.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jac Morgan bellach wedi sgorio pedwar cais mewn dwy g锚m i Gymru

Ond yna fe wnaeth pwysau gan flaenwyr Awstralia arwain at eu cais cyntaf trwy Folau Fainga'a, ac roedd Donalsdon yn llwyddiannus gyda'r trosiad.

Gyda 38 munud ar y cloc cafodd y mewnwr Jake Gordon gerdyn melyn i'r ymwelwr am daro'r b锚l ymlaen yn fwriadol ar ei linell gais ei hun wrth i Gymru ymosod.

Ni lwyddodd Cymru i fanteisio o'r sgrym, ond roedd ganddyn nhw fantais o 20-13 ar yr egwyl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Taulupe Faletau sgoriodd ail gais Cymru, wrth iddo ennill ei 100fed cap rhyngwladol

Cafodd Awstralia gerdyn melyn arall ar ddechrau'r ail hanner - y tro hwn i'r prop Tom Robertson am droseddu yn y sgrym.

Gyda'r gwrthwynebwyr 芒 dau chwaraewr oddi ar y cae fe wnaeth Cymru fanteisio wrth i Jac Morgan sgorio ei ail gais - a'i bedwerydd mewn dwy g锚m - o sgarmes symudol.

Yn fuan wedi hynny daeth pedwerydd cais Cymru, gyda Rio Dyer yn croesi yn y gornel, ac roedd Anscombe yn gywir gyda'r ddau drosiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Asgellwr y Dreigiau, Rio Dyer, sgoriodd bedwerydd cais Cymru

Ond gydag ychydig dros 20 munud yn weddill fe newidiodd y g锚m yn llwyr.

Fe wnaeth Awstralia daro 'n么l gyda chais Mark Nawaqanitawase, cyn i Justin Tipuric weld cerdyn melyn am faglu Pete Samu.

Llwyddodd yr ymwelwyr i fanteisio yn syth gyda chais arall i Nawaqanitawase, gan olygu fod mantais Cymru wedi'i chwtogi i naw pwynt - 34-25.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sgoriodd Lachlan Lonergan yn y munudau olaf i roi Awstralia ar y blaen

Yna, gyda llai na 10 munud i fynd daeth cais cosb i Awstralia a cherdyn melyn i Gymru ar 么l i'r dyfarnwr benderfynu fod yr eilydd Ryan Elias wedi dymchwel sgarmes symudol ar ei linell gais ei hun.

Gyda Chymru 芒 dau chwaraewr oddi ar y cae aeth Awstralia ar y blaen gyda chais gan Lachlan Lonergan.

Fe wnaeth Noah Lolesio ei throsi, ac er i Gymru bwyso yn yr eiliadau olaf, doedden nhw ddim yn gallu canfod y cais oedd ei angen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y diweddglo siomedig yn ychwanegu rhagor o bwysau ar y prif hyfforddwr Wayne Pivac

Er gwaetha'r perfformiad addawol am 60 munud, bydd y canlyniad yn ychwanegu rhagor o bwysau ar y prif hyfforddwr Wayne Pivac, wedi'r golled siomedig yn erbyn Georgia y penwythnos diwethaf.

Mae cwestiynau wedi codi yngl欧n ag ai ef yw'r dyn i arwain Cymru, gyda Chwpan y Byd lai na blwyddyn i ffwrdd.

Roedd Cymru eisoes wedi colli yn erbyn Seland Newydd yng Nghyfres yr Hydref, ond fe lwyddon nhw i drechu Ariannin.