Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cofio trychineb Dolgarrog
Ychydig cyn naw o'r gloch yr hwyr ar 2 Tachwedd 1925 bu trychineb torcalounnus yn Nolgarrog - pentref yn Nyffryn Conwy.
Lladdwyd deg oedolyn a chwe phlentyn pan dorrodd Argaeau Eigiau a Choedty gan achosi miliynau o alwyni o ddŵr a cherrig anferthol i ruthro lawr ochr y mynydd i gyfeiriad y pentref.
Yma mae'r hanesydd, Elin Tomos, yn adrodd hanes y digwyddiad brawychus.
Cyflenwi dŵr i Dolgarrog
Ym 1910 cwblhawyd y gwaith o adeiladu argae tri chwarter milltir o hyd ar draws Llyn Eigiau, llyn ar gyrion cadwyn mynyddoedd Y Carneddau yn Eryri. Pwrpas yr argae oedd cyflenwi dŵr ar gyfer gorsaf bŵer Dolgarrog, a oedd yn darparu trydan ar gyfer ffatri alwminiwm y pentref yn ogystal â nifer o drefi'r glannau. Bron i bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, ym 1924, adeiladwyd argae ychwanegol - argae Coedty - gerllaw.
Roedd rhai wedi cwestiynu pa mor ddiogel oedd adeiladwaith Eigiau a Choedty o'r dechrau un. Mae'n debyg bod adeiladwr gwreiddiol argae Eigiau wedi penderfynu rhoi'r gorau i weithio arno gan honni bod y cwmni alwminiwm yn ceisio arbed ceiniogau a hynny ar draul diogelwch.
26 modfedd o law dros bum niwrnod
Ers blynyddoedd, bu dŵr yn diferu o dan argae Llyn Eigiau ond pan gafwyd haf sych a hydref gwlyb yn 1925 crewyd twll sylweddol ym mur yr argae. Yn niwedd mis Hydref y flwyddyn honno disgynnodd 26 modfedd o law dros bum diwrnod gan greu gorlif.
Mae'n debyg na fyddai'r dŵr a lifodd o argae Eigiau wedi achosi llawer o ddifrod ond yn anffodus dechreuodd y llif arllwys o Eigiau i mewn i gronfa ddŵr Coedty, argae a oedd eisoes yn llawn. Fe achosodd y pwysau ychwanegol i wal sylfaenol argae Coedty i ddymchwel gan achosi ton aruthrol o ddŵr i lifo lawr ochr y mynydd tuag at Dolgarrog.
Trawyd Machno Terrace yn gyntaf. Yna'r Eglwys; Tŷ'r Eglwys; y Siop da-da a Siop y Cigydd. Pan gyrhaeddodd y dŵr y gweithfeydd alwminiwm ffrwydrodd y ffwrnesi o achos grym y llif ond trwy ryw wyrth llwyddwyd i achub y gweithwyr - oddeutu 200 ohonynt - i gyd.
Canfod naw corff yn unig
Adroddwyd ar y pryd y byddai nifer y marwolaethau wedi bod yn llawer uwch oni bai am y ffaith bod llawer o bentrefwyr yn gwylio ffilm yn y theatr leol, adeilad a oedd tu hwnt i gyrraedd y llif.
Allan o'r un ar bymtheg a fu farw y noson honno, dim ond cyrff naw ohonynt a gafodd eu canfod wedi'r trychineb. Wedi pedair wythnos o chwilio, daethpwyd o hyd i gyrff Susannah Evans, Machno Terrace, a'i merch fach pedair mis oed, Gwen, mewn cors ar gyrion y pentref. Roedd cyrff Bessie a Ceridwen, dwy o ferched bach Susannah, wedi cael eu darganfod eisoes.
Pan dorrodd yr argae roedd Stanley Taylor yn mynychu cyfarfod Sgowtiaid lleol. Bu farw'n ofer wrth geisio achub ei wraig a'i blentyn ifanc o'u cartref cyfagos. Darganfuwyd ei gorff ef yn Nhal-y-cafn yn niwedd mis Rhagfyr 1925, bron i wyth wythnos wedi'r trychineb.
Yn sgil y digwyddiad collodd o leiaf hanner cant o drigolion eu cartrefi a'u holl eiddo. Adroddwyd yn y papurau newydd bod aber Afon Conwy yn llawn 'pitiful wreckage - several dolls, rubber balls, watches, clothing… walking-sticks, war medals… furniture [and] a piano.'
Cynhaliwyd cwest i'r digwyddiad ym mis Rhagfyr 1925 pan ddaeth y Crwner, J. Pentir Williams, i'r casgliad 'that there had been gross, even criminal neglect, but at this distance of time they could not say by whom.' Tra bod yn rhaid i reilffyrdd, agerlongau, pyllau glo a chwareli fodloni arolygydd diogelwch o'r Llywodraeth cyn cael gweithredu dywedodd nad oedd yr un arolygiaeth i sicrhau safon cronfeydd dŵr y wlad.
Trychinebau tebyg led-led Cymru
Yn anffodus, nid Dolgarrog oedd y pentref Cymreig cyntaf i brofi'r fath drychineb. Lladdwyd deuddeg o bobl yng Nghwmcarn yng Nghwm Ebwy pan dorrodd argae yno wedi cyfnod o law trwm ym mis Gorffennaf 1875. Er y dinistr a brofwyd yng Nghwmcarn ni chyflwynodd y Llywodraeth reoliadau diogelwch argaeau.
Pum mlynedd wedi'r trasiedi yn Nolgarrog pasiwyd Deddf Cronfeydd Dŵr - Darpariaethau Diogelwch yn 1930. Addaswyd y ddeddf drachefn ym 1975 mewn ymdrech i sicrhau na fyddai'r fath drychineb a welwyd yng Nghwmcarn a Dolgarrog byth yn digwydd.
Hefyd o ddiddordeb: