成人快手

Comisiynydd y Gymraeg: Pwyllgor yn cymeradwyo Efa Gruffudd Jones

  • Cyhoeddwyd
Efa Gruffudd Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Efa Gruffudd Jones y byddai'n "hoffi edrych ar beth yw'r balans" rhwng rheoleiddio a hyrwyddo.

Mae pwyllgor diwylliant Senedd Cymru yn "fodlon cymeradwyo" yr ymgeisydd sy'n cael ei ffafrio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer r么l Comisiynydd y Gymraeg, sef Efa Gruffudd Jones.

Daw hyn wedi'r "gwrandawiad cyn penodi" gerbron y pwyllgor trawsbleidiol ddydd Iau ddiwethaf.

Ond dywed adroddiad y pwyllgor bod un aelod, Sioned Williams, "hefyd yn dymuno nodi swyddogaethau'r Comisiynydd mewn perthynas 芒 datblygu a diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg".

Nodwyd hynny gan yr AS Plaid Cymru ar 么l i'r ymgeisydd ddweud y byddai'n "hoffi edrych ar beth yw'r balans" rhwng rheoleiddio a hyrwyddo.

Codwyd pryderon gan Gymdeithas yr Iaith y gallai Efa Gruffudd Jones "drio troi'r cloc yn 么l" ar bwrpas y swydd.

Cyn cyfarfod y pwyllgor, cyhoeddwyd mai Efa Gruffudd Jones oedd yr ymgeisydd sy'n cael ei ffafrio gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles.

Mae disgwyl i'r prif weinidog gadarnhau y penodiad yn fuan.

'Mesur cynnydd'

Dywed y pwyllgor ei fod yn "croesawu datganiad yr ymgeisydd a ffafrir sef mai cyfrannu at y gwaith o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg fyddai ei phrif flaenoriaeth, ac y byddai'n ymrwymo i nodi dangosyddion ystyrlon ac effeithiol i fesur cynnydd yn y maes hwn".

Ffynhonnell y llun, 成人快手/MARIAN IFANS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Efa Gruffudd Jones yn brif weithredwr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ers 2015

Mae'r pwyllgor yn "cydnabod y ffaith bod y Comisiynydd yn cael ei benodi i wasanaethu pob gr诺p oedran, ond mae ei nod o gynyddu defnydd plant a phobl ifanc o'r Gymraeg hefyd i'w groesawu.

"Os caiff ei phenodi, mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen at ddwyn yr ymgeisydd a ffafrir i gyfrif mewn perthynas 芒'i swyddogaeth a'i blaenoriaethau fel Comisiynydd," meddai.

Mae'r pwyllgor hefyd yn "nodi profiad a gwybodaeth broffesiynol berthnasol a hirsefydlog yr ymgeisydd a ffafrir".

Mae'r pwyllgor yn "croesawu ei bwriad, os caiff ei phenodi, i dynnu ar y profiad a'r wybodaeth hon er mwyn arfer swyddogaethau'r Comisiynydd mewn modd cydweithredol a chefnogol, ond cadarn hefyd.

"Mae'r pwyllgor yn cydnabod swyddogaethau statudol y Comisiynydd fel eiriolwr ac fel rheoleiddiwr, a phwysigrwydd sicrhau cydbwysedd priodol rhwng y rhain.

"Bydd yn monitro'r agweddau hyn yn agos wrth graffu ar waith y Comisiynydd, a gwaith swyddfa'r Comisiynydd, yn ystod y Senedd hon."

Blaenoriaethu

Yn y pwyllgor, gofynnwyd i Efa Gruffudd Jones gan y cadeirydd dros dro, Alun Davies AS: "Sut ydych chi'n mynd i flaenoriaethu eich amser ac adnoddau rhwng rheoleiddio a hyrwyddo, achos rydych chi wedi bod yn glir - a dywedwch wrthyf os dwi'n cael hwn yn rong - mai hyrwyddo ydy eich blaenoriaeth glir yn y swydd?"

Atebodd: "Ie... byddwn i yn hoffi edrych ar beth yw'r balans o ran hynny."

Ychwanegodd bod "creu safonau a chynnig gwasanaethau yn un peth, ond mae sicrhau defnydd o'r rheini'n fater arall sy'n dod mwy o dan y cwestiwn o hyrwyddo".

"Dwi'n si诺r bod yna le i swyddfa'r comisiynydd a Llywodraeth Cymru i gyd-drafod - a'r cyrff eraill i gyd - hyrwyddo yn effeithiol.

"Mae yna rai ymgyrchoedd mae swyddfa'r comisiynydd yn eu cynnal; os ydyn ni am barhau i'w cynnal nhw byddwn i am ein gweld yn gwneud hynny mewn llawer mwy o bartneriaeth 芒 chyrff eraill er mwyn eu gwneud nhw'n fwy effeithiol."

Dywedodd mai'r cwestiwn 'sut mae hwn yn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg?' fyddai "y tu 么l i bob penderfyniad".

Gwrthwynebiad

Yn dilyn y "gwrandawiad cyn penodi", codwyd pryderon gan Aled Powell, cadeirydd gr诺p hawl Cymdeithas yr Iaith.

Dywedodd: "Yn 2017, fe gyhoeddodd y llywodraeth gynlluniau i wanhau'r Comisiynydd a'r Safonau gan gyflwyno mwy o hyrwyddo meddal yn lle hynny, er nad oedd neb wedi galw am hynny.

"Yn dilyn gwrthwynebiad eang, mi gafodd y cynlluniau i newid y ddeddfwriaeth eu gollwng oherwydd diffyg cefnogaeth.

"Bum mlynedd yn ddiweddarach, y peth diwethaf sydd ei angen ydy trio troi'r cloc yn 么l i'r hen ddadl yma a gwastraffu amser ac egni pawb efo rhagor o din-droi."

'Cydweithio, cefnogi, cadarn'

Dywedodd Efa Gruffudd Jones wrth y pwyllgor y byddai tair C yn nodweddu ei th么n, sef cydweithio, cefnogi, cadarn ar yr un pryd.

Ymhelaethodd trwy ddweud bod sefydliadau "fel arfer eisiau gwneud gwaith da, eisiau cynnig gwasanaethau da, ond weithiau, mae angen cymorth arnyn nhw, a byddai'n well gyda fi - dwi'n mynd i roi pedwerydd C i ti - roi cymorth na cherydd.

"Ond, dwi'n derbyn yn y r么l yma bod yna r么l reoleiddio ac, ar adegau, mae'n briodol rhoi cerydd, ond cyn rhoi'r cerydd, buaswn i'n gobeithio bod y sefydliad sy'n cael y cerydd yn deall yn iawn pam bod y pwynt yna wedi cael ei gyrraedd.

"Ond nid fy ymateb cyntaf i fel comisiynydd fyddai rhoi cerydd."