成人快手

Efa Gruffudd Jones: 'Blaenoriaeth i gynyddu defnydd o'r Gymraeg'

  • Cyhoeddwyd
Efa Gruffudd Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai'n "fraint ac yn gyfrifoldeb" i fod yn Gomisiynydd y Gymraeg, medd Efa Gruffudd Jones

Mae'r ymgeisydd sy'n cael ei ffafrio ar gyfer r么l Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud mai ei phrif flaenoriaeth fyddai cynyddu defnydd o'r iaith.

Roedd Efa Gruffudd Jones yn siarad mewn "gwrandawiad cyn penodi" o flaen pwyllgor diwylliant Senedd Cymru ddydd Iau.

Dywedodd y byddai canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn "gyrru rhai o'r blaenoriaethau".

Dangosodd Cyfrifiad 2011 ostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, yn enwedig yn yr ardaloedd traddodiadol.

Awgrymodd bod angen mwy o sylw i hyrwyddo'r defnydd o'r iaith, a bod angen ystyried y cydbwysedd rhwng hynny a chreu safonau iaith a rheoleiddio.

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 wnaeth gadarnhau statws swyddogol y Gymraeg, creu system newydd i reoleiddio safonau'r Gymraeg, a chreu r么l Comisiynydd y Gymraeg.

Dywedodd Ms Gruffudd Jones y byddai am "edrych ar yr holl bosibiliadau sydd yn y mesur" i sicrhau bod defnydd o'r Gymraeg yn cynyddu.

Nid iaith ymwneud 芒 sefydliadau cyhoeddus yn unig ddylai'r Gymraeg fod, meddai - "dwi'n tybio bod pobl Cymru eisiau mwy na delio gyda'r sector cyhoeddus yn Gymraeg" - a bod angen cyfleoedd i bobl fwynhau defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau cymdeithasol.

Uniaith Gymraeg

Dywedodd y byddai'n hoffi datblygu cyfleoedd i bobl fynychu digwyddiadau uniaith Gymraeg, oherwydd "dyw cyfleoedd i fynd i ddigwyddiadau uniaith ddim yn helaeth".

Dywedodd bod y theatr yn un enghraifft, a chyfeiriodd at ei r么l fel cadeirydd bwrdd ymddiriedolwyr Theatr Genedlaethol Cymru.

Soniodd am ei phrofiad o fod yn brif weithredwr ar ddau sefydliad cenedlaethol ers 18 mlynedd, sef Urdd Gobaith Cymru a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Ffynhonnell y llun, 成人快手/MARIAN IFANS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Efa Gruffudd Jones yn brif weithredwr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ers 2015

Cyfeiriodd at bwysigrwydd sicrhau bod y Comisiynydd yn llais annibynnol o lywodraeth, ond bod cynnal perthynas gefnogol i Lywodraeth Cymru hefyd yn bwysig.

O ran y gwaith rheoleiddio ar sefydliadau sy'n dod o dan y drefn o osod Safonau'r Gymraeg, "mae'n well gen i roi cefnogaeth na rhoi cerydd... ond weithiau mae angen rhoi cerydd", meddai.

Yn dilyn y gwrandawiad, bydd Clerc y Pwyllgor yn ysgrifennu crynodeb o sylwadau'r pwyllgor ac yn anfon yr adroddiad hwn at Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru o fewn 48 awr.

Bydd y Comisiynydd yn cael ei benodi gan Brif Weinidog Cymru.

Penodiad saith mlynedd fydd hon, ac ni fydd modd ymestyn y cyfnod. Mae'r cyflog tua 拢95,000.

'Llawer mwy cadarn'

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod "llawer o waith gan y Comisiynydd newydd i'w wneud i sicrhau bod Safonau'n cael eu gosod ar ragor o gyrff cyn gynted 芒 phosib".

Mae'r gymdeithas yn galw ar y Comisiynydd newydd "i fod yn llawer mwy cadarn pan fydd cyrff yn methu cydymffurfio 芒'u dyletswyddau cyfreithiol".

Dywedodd Aled Powell, cadeirydd gr诺p hawl Cymdeithas yr Iaith, fod y llywodraeth wedi bod yn "boenus o araf yn cyflwyno Safonau ar gyfer cyrff newydd fel cwmn茂au d诺r, trafnidiaeth gyhoeddus a chymdeithasau tai".

"Bydd angen i'r Comisiynydd newydd ddefnyddio'i dylanwad i sicrhau bod adnoddau'r llywodraeth yn cael eu blaenoriaethu i gyflymu'r broses."