成人快手

Canslo digwyddiad i gofio Owain Glynd诺r yn 'eironig'

  • Cyhoeddwyd
Owain Glynd诺r
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Saif cerflun o Owain Glynd诺r ar y sgw芒r yng Nghorwen, ble roedd bwriad i gynnal gorymdaith

Mae gorymdaith flynyddol yn Sir Ddinbych i nodi Diwrnod Owain Glynd诺r wedi ei chanslo yn dilyn marwolaeth y Frenhines.

Ond mae rhai pobl yn bwriadu ymgynnull yng Nghorwen dydd Gwener beth bynnag i dalu teyrnged i'r tywysog a safodd yn erbyn brenhiniaeth Lloegr, ac mae digwyddiadau eraill yn ymwneud 芒'r wyl yn parhau.

Dywedodd un gweriniaethwr ei bod hi'n "eironig" fod digwyddiadau fel hwn yn cael eu gohirio, ond pwysleisiodd y trefnwyr mai dim ond un elfen o'r dathliadau fydd ddim yn digwydd.

Mae'r dyddiad - 16 Medi - yn nodi dechrau gwrthryfel Glynd诺r yn 1400.

Roedd o'n dod o ardal Corwen, a dros y blynyddoedd mae cydgerdded at y cerflun ohono ynghanol y dref wedi bod yn rhan amlwg o'r gweithgarwch lleol ar y diwrnod.

'Ddim yn addas'

Fe wnaeth y trefnwyr gyfarfod wythnos yn 么l i gwblhau'r cynlluniau ar gyfer Dydd Glynd诺r yng Nghorwen.

Daethon nhw i'r penderfyniad y bydd y seremoni yn y capel yn digwydd, ynghyd 芒 darlith gyda'r nos, ond na fyddai'r orymdaith yn cael ei chynnal.

"Y teimlad oedd na fyddai cael llawer o s诺n, a llawer o bynting ac yn y blaen o gwmpas y dref yn addas ar gyfer y flwyddyn yma," meddai Edwin Jones, cadeirydd y pwyllgor trefnu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Edwin Jones: "'Dan ni'n falch iawn o gael cynnal G诺yl Glynd诺r yma yng Nghorwen"

"Mae o wedi bod yn [benderfyniad] anodd iawn fel pwyllgor.

"'Dan ni wedi cynnal y seremon茂au yma am flynyddoedd, a 'dan ni'n falch iawn o gael cynnal G诺yl Glynd诺r yma yng Nghorwen, a byddwn ni, gobeithio, yn cario 'mlaen i wneud hynny yn y dyfodol."

'Eironig'

Mae rhai'n mynnu y byddan nhw dod i'r dref fore Gwener beth bynnag. Yn eu plith, mae'r gweriniaethwr Adam Phillips, sy'n arwain band gorymdeithio Cambria.

"Un diwrnod y flwyddyn mae Dydd Glynd诺r yn ei gael," meddai.

"Dwi wedi bod yn gorymdeithio yng Nghorwen ers bron i 20 mlynedd a fydda' i'n gwneud eto."

Ffynhonnell y llun, Adam Phillips
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n "eironig" fod digwyddiadau am Owain Glynd诺r wedi cael eu gohirio, meddai Adam Phillips

Dywedodd ei fod "wedi bod yn barchus" tuag at y Frenhines, a'i fod yn deall pam fod digwyddiadau yn fuan wedi ei marwolaeth ac ar ddiwrnod ei hangladd wedi cael eu canslo.

Ond mae'n "eironig" fod digwyddiadau am Owain Glynd诺r wedi cael eu gohirio, meddai, gan gyfeirio'n benodol at benderfyniad Cadw i beidio cynnal digwyddiad yn Harlech y penwythnos diwethaf.

"Glynd诺r wnaeth baffio i gael Cymru yn annibynnol yn erbyn Lloegr, ac maen nhw'n gohirio rhywbeth Glynd诺r i Frenhines Lloegr. Fedrwch chi ddim sgwennu'r ffasiwn bethe."

Ar stryd fawr Corwen, dywedodd Catherine Uren fod "pobl ddim yn hapus" efo'r penderfyniad yn lleol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhai pobl yn bwriadu ymgynnull yng Nghorwen beth bynnag i dalu teyrnged i'r tywysog a safodd yn erbyn brenhiniaeth Lloegr

"Dwi'n meddwl ei fod o 'bach yn ridiculous, rili," meddai. "Roedd Owain Glynd诺r yn Prince of Wales, yn doedd?"

Ond tu allan i Swyddfa'r Post - oedd 芒'i ffenestri'n llawn posteri lliwgar plant ysgol o dywysog cynhenid olaf Cymru - dywedodd Derek Wheeler nad ydy o'n poeni.

"Mae 'ne lot o bethau 'di cael eu canslo, ac mae 'na lot o bethau ddim, yn does?

"Cafodd y ffwtbol i gyd ei ganslo ond roedd y criced ymlaen, a'r rygbi ymlaen, yn doedd? Each to his own, fel 'tae, ynde."

'Bwysig dysgu o'n hanes'

Mae lleoliadau gan gynnwys ysgolion a thafarndai yn cynnal digwyddiadau i nodi Diwrnod Owain Glynd诺r.

Ym Machynlleth, mae cyfle i fynd ar deithiau cerdded i Senedd-dy'r Tywysog.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Poster i'r Frenhines mewn ffenest siop

Dywedodd y tywysydd Arfon Hughes bod angen bod yn "sensitif" achos marwolaeth Elizabeth II, ond bydd yn bwrw 'mlaen 芒'r teithiau i nodi'r hanes.

"Dwi'n teimlo bod y diwrnod yn ein hatgoffa ni o draddodiad a hanes Owain Glynd诺r, ac mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu o'n hanes," meddai.