Rhybudd ambr: Prinder dŵr, tanau gwair a chanslo gemau chwaraeon
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon yn parhau am brinder dŵr a thanau gwair gyda rhybudd ambr am wres eithriadol dros rannau o Gymru.
Mae disgwyl i'r tymheredd gyrraedd 34C mewn rhannau o Gymru ddydd Sadwrn. Roedd hi'n 20C yn y Mwmbwls dros nos.
Fe ddywedodd Gwasanaeth Tan ac Achub iddyn nhw gael galwad brys toc cyn 05:00 fore Sadwrn o dân gwair ym mhentref Y Dyfawden yn Sir Fynwy.
Mae rhagor o ddigwyddiadau chwaraeon dros y penwythnos wedi eu canslo oherwydd y gwres hefyd.
Stormydd i ddod
Fe ddaeth y rhybudd ambr i rym ddydd Iau ar gyfer rhannau dwyreiniol Cymru a bydd yn para tan 23:59 nos Sul.
Yn y cyfamser, mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am stormydd mellt a tharanau ar gyfer dydd Llun.
Mae rhai gemau chwaraeon wedi eu canslo dros y penwythnos, gan gynnwys gêm gyfeillgar rhwng Clwb Rygbi Cymry Caerdydd a Bridgend Sports RFC oherwydd "tywydd twym a thir caled".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ddydd Gwener, fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru gyfarfod â swyddogion o Lywodraeth y DU i drafod materion trawsffiniol.
Daeth cadarnhad ddydd Iau fod grŵp o arbenigwyr o Gymru am fonitro effaith y tywydd poeth ar lefelau dŵr.
'Galw am ddŵr wedi cynyddu 20%'
Wrth siarad ar raglen Radio Wales Breakfast fore Gwener, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr gwasanaethau dŵr Dŵr Cymru, Ian Christie, eu bod yn monitro lefelau yn agos.
"Yn enwedig y penwythnos hwn, ry'n ni wir wedi ein gwthio o ran y tywydd poeth, ac mae galw am ddŵr i fyny 20%."
Fe ofynnodd i bobl beidio golchi eu ceir na dyfrhau eu planhigion am wythnos tan y daw cawodydd glaw.
"Mae gennym ni bryderon am ddŵr yfed yn Sir Benfro... a dyna pam ein bod ni wedi gosod gwaharddiad ar ddefnydd pibellau dŵr yno."
Ychwanegodd bod gan Dŵr Cymru "gwpl o ardaloedd" y maen nhw'n monitro'n ofalus i asesu a fydd angen cyflwyno gwaharddiadau pibellau dŵr yno hefyd.
RNLI Porthcawl
Mae na rybudd gan dimau achub ar draws y wlad i bobl fod yn ddiogel hefyd.
Fe ddywedodd Gwasanaeth Bad Achub Porthcawl ddydd Gwener eu bod wedi gorfod mynd i achub dros 100 o bobl dros gyfnod o ddeuddydd [dydd Mercher a Iau] oedd wedi cael eu dal gan y llanw ger Afon Ogwr.
Roedd dwsinau o bobl ar Draeth Ogwr wedi croesi'r afon i ochr arall y traeth yn gynharach ddydd Iau, heb sylwi y bydden nhw methu croesi yn ôl unwaith roedd y llanw'n codi unwaith eto, yn ogystal â phadlfyrddwyr yn mynd i drafferthion.
"Mae pryder mawr y gallai rhywun geisio croesi'r afon [unwaith mae'r llanw wedi codi] ac oherwydd y cerrynt sy'n llifo'n gyflym, gallen nhw gael eu llusgo i'r môr," meddai Simon Emms o RNLI Porthcawl.
Stormydd
Ar ôl gwres y penwythnos, mae disgwyl stormydd mellt a tharanau dros rannau o Gymru gyda'r Swyddfa Dywydd wedi cyflwyno rhybudd melyn.
Mae disgwyl glaw trwm, mellt, gwyntoedd cryfion a llifogydd posib rhwng 06:00 a 23:59 ddydd Llun.
Gallai gwasanaethau trên a bws gael eu canslo oherwydd y stormydd, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2022
- Cyhoeddwyd10 Awst 2022
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2022