Pryder fod problem sychder yn mynd yn fwy 'dyrys'
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai pobl ddefnyddio cyn lleied o dd诺r 芒 phosib oherwydd prinder glaw - dyna'r cyngor gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn cyfnod sychach na'r arfer.
Er nad ydy'r asiantaeth yn dweud ei bod hi'n argyfwng, maen nhw wedi dweud wrth Newyddion S4C fod y sefyllfa'n mynd yn fwy "dyrys" ac y dylai pobl geisio arbed d诺r ymhob rhan o Gymru.
Mae olion sychder wedi bod yn amlwg mewn rhai ardaloedd, gan gynnwys Bro Hiraethog lle mae Llyn Aled Isaf wedi crebachu'n sylweddol a glannau'r llyn bellach yn llydan iawn.
Mae hi hefyd yn achos problemau i ffermwyr.
Mae gan Iwan Jones fferm laeth organig yn ardal Groes ger Dinbych, ac oherwydd nad ydy'r borfa'n tyfu, mae'n gorfod rhoi bwyd y gaeaf i'w wartheg yng nghanol yr haf.
"Prinder glaw sy' 'di bod y broblem fwya', ac oherwydd hynny diffyg tyfiant y borfa," meddai.
"Mae 'di golygu yma bod ni'n bwydo rhywfaint o fwyd oeddan ni wedi'i gynaeafu ar gyfer y gaea' ers rhyw dair wythnos yma r诺an.
"Mae hwnnw yn mynd yn llai bob dydd ac mi fyddwn ni'n debygol iawn o barhau i fwydo fo am gyfnod go helaeth r诺an, gan obeithio y bydd y borfa'n ailddechrau tyfu."
Mae'n dweud nad ydy'r gwartheg yn cynhyrchu cymaint o laeth o fod ar y silwair - ryw 10% yn llai - ac mae'r dwysfwyd wedi mynd yn ddrytach.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwybodol o'r anawsterau yn sgil y prinder amlwg o law.
"Be' 'da ni 'di weld dros y pedair wythnos i fis diwetha', 'dan ni ond wedi cael 'chydig dros 60% o'r glaw sy'n arferol ar draws Cymru, a hynny'n cyd-fynd 芒'r tywydd poeth gawson ni yn ystod yr wythnosa' diwetha'," meddai'r rheolwr prosiect Iwan Williams.
"'Dan ni 'di gweld bod lefel yr afonydd a'r llynnoedd yn disgyn, ac oherwydd hynny mae'r effaith amgylcheddol, effaith ar amaethyddiaeth, defnydd tir ac wrth gwrs adnoddau d诺r yn dod yn broblem.
"Y cyngor ar hyn o bryd ydy bod yn wyliadwrus, defnyddio cyn lleied o dd诺r ag sy'n bosib.
"Os 'da chi'n gweld unrhyw achos lle mae 'na effaith amgylcheddol, i gysylltu 芒 ni a gadael i ni wybod fel bod ni'n gallu monitro a chydweithio efo cyrff eraill i gymryd unrhyw gamau sy'n bosib."
Ar fferm Groes Bach mae Iwan Jones eisoes yn ystyried sut i ddygymod os fydd glaw yn brin dros y blynyddoedd nesa'.
"Mae'r math o borfa 'dan ni'n ei dyfu, hwyrach bod rhaid edrych ar fathau sy'n gwreiddio'n ddyfnach ac wedyn yn gallu cyrraedd mwy o dd诺r yn ddyfnach yn y ddaear," meddai.
"Mae hwnnw'n un enghraifft ar y ffarm yma.
"Hwyrach fydd rhaid cadw llai o stoc, fel pan fyddwn ni'n cael cyfnodau sych ein bod ni'n gallu dygymod yn well."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2022