Betsi Cadwaladr: Ail ysbyty yn Lloegr i gymryd rhai cleifion fasgwlaidd
- Cyhoeddwyd
Mae ail ysbyty yn Lloegr wedi cytuno i gymryd rhai cleifion fasgwlaidd o Gymru, oherwydd bod y gwasanaeth yn y gogledd yn "fregus".
Mae rhai cleifion cymhleth eisoes yn mynd i Lerpwl i gael llawdriniaeth, ond mae'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi dweud y gallai rhai nawr gael eu cludo i Stoke-on-Trent hefyd.
Esboniodd Ms Morgan bod "pryderon am ansawdd diogelwch cleifion" ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi'u codi gan banel arbenigol.
Ychwanegodd bod prinder ymgynghorwyr a nyrsys mewn gwasanaethau fasgwlaidd o fewn y bwrdd iechyd.
Yn 2019, fe wnaeth y bwrdd ganoli triniaethau fasgwlar cymhleth yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, gan eu symud o Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam.
Maen nhw wedi bod o dan y lach ers hynny, gyda dau adroddiad beirniadol gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a rhybudd terfynol gan Lywodraeth Cymru yn bygwth rhoi'r bwrdd yn 么l dan fesurau arbennig yn gynharach eleni.
Ond, ym mis Mehefin, fe wnaeth Ms Morgan wrthsefyll galwadau i roi bwrdd iechyd y gogledd o dan fesurau arbennig unwaith eto.
Ddydd Mawrth, dywedodd Ms Morgan bod "nifer o bryderon am ansawdd diogelwch cleifion wedi'u codi gan y Panel Ansawdd Fasgwlaidd" mewn perthynas 芒 rheoli cleifion aortig yn ystod mis Gorffennaf.
Cafodd y panel ei sefydlu yn dilyn adroddiad damniol Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ym mis Chwefror.
Dywedodd Ms Morgan hefyd fod "pwysau gweithredol yn bodoli oherwydd diffyg argaeledd ymgynghorwyr a nyrsys mewn gwasanaethau fasgwlaidd o fewn y bwrdd iechyd".
O ganlyniad, dywedodd, bydd rhai cleifion yn cael triniaeth yn Lloegr.
"Y prif bryder yw'r gallu i ddarparu gwasanaeth diogel i boblogaeth y gogledd.
"O ganlyniad i heriau'r gwasanaethau uniongyrchol ac yn dilyn trafodaeth ehangach gyda darparwyr yn Lloegr, daethpwyd i gytundeb y gellir trosglwyddo rhai cleifion, yn ystod mis Awst, i Ysbyty Athrofaol Brenhinol Lerpwl neu, fel sydd eisoes yn digwydd yn achos trigolion gogledd Cymru ag anafiadau trawma mawr, i Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke."
Bu trefniant dros dro yn y gwanwyn i drin cleifion fasgwlar o ogledd Cymru yn Lerpwl.
Fe wnaeth y trefniant gael ei ymestyn yn hirach na'r disgwyl bryd hynny o ganol Mawrth tan ganol Mai ar 么l dau "ddigwyddiad difrifol arall".
Dywedodd Ms Morgan ei bod wedi "derbyn cyngor ynghylch sefydlu rhwydwaith fasgwlaidd i Gymru gyfan".
Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru yn "darparu cyllid i sefydlu trefniadau rhwydwaith dros dro ar gyfer materion fasgwlaidd, gan gynnwys penodi arweinydd clinigol cenedlaethol dros dro".
"Yn ystod y cyfnod hwn gellir gwneud gwaith i egluro cwmpas a r么l rhwydwaith ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd, yn ogystal 芒 dechrau cyflwyno rhai prosesau gwella ansawdd megis rhaglen adolygu gan gymheiriaid.
"Bydd y rhwydwaith hwn yn gweithio ochr yn ochr 芒'r byrddau iechyd ac yn cefnogi Rhwydwaith Cyflawni Gweithredol De-ddwyrain Cymru ar gyfer Gwasanaethau Fasgwlaidd, sydd newydd ei sefydlu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2020