成人快手

'Dim hyder' yng ngwasanaethau fasgwlaidd Betsi Cadwaladr

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Glan Clwyd Bodelwyddan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwasanaethau fasgwlaidd wedi cael eu canoli yn Ysbyty Glan Clwyd er mwyn ceisio arbed arian

Mae cleifion yng ngogledd Cymru yn "ofni" defnyddio gwasanaethau fasgwlaidd, yn 么l adroddiad damniol gan gorff gwarchod iechyd.

Yn 么l y Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) yng ngogledd Cymru, does gan gleifion "ddim hyder" yng ngallu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ddarparu gwasanaethau fasgwlaidd yn "ddiogel ac amserol".

Mae'r CIC hefyd wedi cyhuddo'r bwrdd iechyd o "wrthod rhyddhau" gwybodaeth am berfformiad y gwasanaeth, sy'n "groes i'r ddeddfwriaeth".

Ond mae'r bwrdd iechyd yn gwadu'r honiad hwnnw, ac yn dweud eu bod yn dal i geisio casglu'r data "cymhleth" y gofynnwyd amdano.

Adolygiad annibynnol

Cafodd gwasanaethau fasgwlaidd eu canoli o Ysbyty Gwynedd, Bangor i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan yn 2019, mewn ymgais i arbed arian.

Dywedodd Gill Harris, cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth Betsi Cadwaladr, eu bod yn "cymryd pryderon pobl o ddifrif".

Gofynnodd 成人快手 Cymru am gyfweliad gyda Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, ond dywedodd llefarydd mai mater i'r bwrdd iechyd oedd yr adroddiad.

Mae'r adroddiad - sy'n seiliedig ar gyfres o ymgynghoriadau cyhoeddus - yn dangos bod pobl yn pryderu yngl欧n 芒 defnyddio'r gwasanaethau.

Mae'r gwasanaeth fasgwlaidd yn gyfrifol am unrhyw driniaeth sy'n ymwneud 芒'r gwaed neu'r gwythiennau, yn cynnwys problemau megis ceulad neu ymlediad.

Mae'r CIC wedi ailadrodd galwad am adolygiad annibynnol o'r gwasanaethau fasgwlaidd, ac mae Sian Gwenllian AC wedi cefnogi'r alwad honno.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sian Gwenllian AC wedi galw am adolygiad annibynnol i'r gwasanaeth

"Roedd pobl a gafodd driniaeth ym Mangor yn credu y byddai'r driniaeth yn aros ym Mangor. Rydyn ni wedi cael ein twyllo," meddai AC Arfon.

Mae'r cwynion yn cynnwys:

  • Teuluoedd o dde Meirionnydd yn rhentu llety yn ardal Bodelwyddan er mwyn bod wrth law i roi cefnogaeth i berthnasau sy'n cael triniaeth;

  • Cleifion a staff yn honni bod y bwrdd iechyd wedi "difetha'r gwasanaeth fasgwlaidd", a bod cleifion "yn nerfus ac ofnus" o'i ddefnyddio.

Ychwanegodd Ms Gwenllian bod rhai o'r esiamplau'n annerbyniol.

"Mae'r adroddiad yma'n ddamniol ac yn cadarnhau'r straeon y mae rhywun wedi eu clywed," meddai.

"Mae'n rhaid cael adolygiad sy'n gwbl annibynnol o'r bwrdd."

'Parhau i wella'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod wedi cydweithio gyda'r CIC i sicrhau "eu bod yn parhau i wella'r gwasanaethau fasgwlaidd".

"Rydym yn cymryd y pryderon o ddifrif, a byddwn yn ymateb iddynt," meddai.

Cadarnhaodd y CIC eu bod wedi ymestyn nifer yr ymgynghoriadau o 11 i 14, a'u bod eisoes wedi cwblhau naw ohonynt. Mae'r adroddiad dros dro yn seiliedig ar ganlyniadau'r naw cyfarfod.

Mae'r bwrdd iechyd yn cynnal adolygiad mewnol o'r uned fasgwlaidd ar hyn o bryd.