Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymry yn helpu dioddefwyr PTSD Wcr谩in dros Zoom
- Awdur, Bryn Jones
- Swydd, 成人快手 Cymru Fyw
Mae dwy Gymraes yn arwain t卯m rhyngwladol i gynnal sesiynau dros y we i helpu pobl Wcr谩in ddelio gydag effeithiau seicolegol y rhyfel.
Mae Dr Lisa de Rijk a Rhian Price yn gwnselwyr seicotherapi proffesiynol sy'n arbenigo mewn triniaeth gafodd ei datblygu i helpu dioddefwyr PTSD yn dilyn ymosodiadau terfysgol 9/11 yn Efrog Newydd.
Nawr maen nhw a chyd-weithwyr yn gwirfoddoli i hyfforddi cwnselwyr Wcr谩in yn y dechneg arloesol, gyda rhai ohonyn nhw yn barod wedi dechrau helpu eu cyd-wladwyr i ddelio gydag effaith trawma ar eu hiechyd meddwl.
Maen nhw'n dweud eu bod wedi eu syfrdanu gyda'u hymroddiad ar 么l i un fenyw wneud rhan o'r cwrs yn ei char wrth iddi ffoi o'i gwlad i'r Swistir, ac un arall yn gwrthod gadael sesiwn Zoom i fynd i loches bomiau.
Dr de Rijk, o Ddyffryn Peris, ddechreuodd y cyfan ar 么l siarad gyda seicotherapydd o Wlad Pwyl a gweithiwr mudiad teyrngarol yn Wcr谩in oedd yn gofyn am help.
Cysylltodd gyda chwnselwyr eraill oedd yn gymwys yn y driniaeth RTM (Reconsolidation of Traumatic Memories) a chreu t卯m o 11 seicotherapydd o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, Gwlad Pwyl, Mecsico Newydd a Florida - gyda'r ddau o'r Unol Daleithiau yn gweithio drwy'r nos oherwydd y gwahaniaeth amser.
'Yr anrheg gorau allwn ni roi'
O fewn dim roedden nhw'n rhoi tridiau o hyfforddiant dwys i 28 o therapyddion o Wcr谩in.
Roedd nifer yn dal i fyw yn y wlad, rhai wedi ffoi i Wlad Pwyl, un yn gwneud rhan o'r cwrs dros Zoom wrth ffoi yn ei char i'r Swistir, ac un yn gorfod cael ei pherswadio i fynd i loches bomiau yn ystod y cwrs ar 么l i seiren rhybudd ddechrau canu.
Dywedodd Dr de Rijk: "Roedd y 28 wnaeth droi fyny ar y diwrnod cynta' yn edrych yn wyn, yn hollol shell shocked ac yn dangos dim mynegiant emosiynol, a wnaethon ni weithio efo nhw fel pobl broffesiynol.
"Yn y diwedd roeddat ti'n gweld y cynhesrwydd ynddyn nhw, roeddan nhw wedi cael eu hunaniaeth broffesiynol yn 么l oedd yn golygu eu bod wedyn yn gallu mynd n么l i'w gwaith bob dydd, ac i'w bywydau bob dydd efo'r sgiliau i helpu eu cyd-wladwyr. Dyna'r anrheg gorau oedden ni'n gallu rhoi iddyn nhw."
Mae Ms Price yn defnyddio'r dechneg RTM, gafodd ei datblygu gan y seicotherapydd Dr Frank Bourke o'r Unol Daleithiau, yn ei gwaith bob dydd yn ardal Bangor - techneg sy'n helpu pobl sy'n dioddef o PTSD yn sgil troseddau rhyw.
Mae'n dweud nad oedd y t卯m wedi trafod sefyllfa'r unigolion o Wcr谩in yn ystod y cwrs er mwyn canolbwyntio ar y gwaith hyfforddi.
"Roeddan ni wedi bod yn broffesiynol drwy gydol yr amser, ond ar ddiwedd y tridiau, pan oeddan ni'n ffarwelio roedd pobl yn dechrau s么n beth oedd wedi digwydd iddyn nhw," meddai.
"Wnaeth Lisa, oedd yn arwain, ddechrau mynd yn emosiynol, ac wedyn roedd pawb yn crio.
"Roedd pawb wedi blino, ond doedd neb eisiau gwasgu 'gadael' ar Zoom."
Gobaith am brosiectau tebyg
Mae rhai o'r 28 wnaeth gwblhau'r cwrs, fydd nawr yn cael sesiynau wythnosol dros y we am gyfnod, wedi dechrau helpu eu cyd-wladwyr yn barod, yn cynnwys rhai sy'n dioddef yn sgil blynyddoedd o wrthdaro gyda Rwsia yn nwyrain y wlad.
Ac mae t卯m o academyddion yn King's College, Llundain, yn gwneud ymchwil i'r prosiect a allai arwain at gymorth tebyg yn y dyfodol.
Dywedodd Dr de Rijk, sy'n gymrawd ymchwil ar ymweliad yn y brifysgol: "Rydyn ni eisiau dangos ein bod wedi gallu rhoi sgiliau newydd i bobl mewn gwlad sydd mewn rhyfel, fod y driniaeth yn effeithiol, ac yn bosib i'w gwneud heb arian gyda gwirfoddolwyr brwd, a'n bod wedi cael canlyniadau proffesiynol o'r holl beth."