Drakeford: Beirniadu ymateb gweinidogion DU i argyfwng Wcr谩in
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwrnod cyntaf cynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno, mae'r Prif Weinidog wedi beirniadu ymateb gweinidogion y DU i'r argyfwng ffoaduriaid o Wcr谩in.
Wrth annerch y cynadleddwyr, dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi cael sawl trafodaeth gyda gweinidogion y DU yn ystod y pythefnos diwethaf i drafod sut all Cymru helpu ffoaduriaid Wcr谩in.
Dywedodd bod llywodraeth Cymru yn barod i'w helpu cyn gynted ag y byddai'r ffoaduriaid yn cyrraedd y DU a bod gweinidogion y DU wedi dweud eu bod yn "rhannu'r un bwriadau".
Ond, dywedodd bod yna "fwlch cywilyddus o fawr" rhwng geiriau a gweithredoedd y llywodraeth Geidwadol hyd yma.
Mae disgwyl i lywodraeth y DU gyflwyno cynllun fisa newydd ddydd Llun a fydd yn galluogi unigolion a sefydliadau i noddi pobl o Wcr谩in i ddod i'r DU os nad oes ganddyn nhw gysylltiadau teuluol.
'Llusgo traed'
Wrth gyflwyno'i araith yn y gynhadledd, dywedodd Mr Drakeford: "Os, fel mae'r Prif Weinidog yn dweud, ei fod yn sefyll ochr yn ochr 芒 phobl Wcr谩in, mae'n rhaid bod hynny'n teimlo fel ffordd bell iawn i'r rheiny sy'n delio 芒'r hyn y mae elusennau ar lawr gwlad yn galw'n ymateb 'anhrefnus, dideimlad ac angharedig' wrth geisio cael mynediad i ewyllys da y prif weinidog.
"Mae'r bwlch rhwng beth y mae'r llywodraeth Geidwadol yn ei ddweud, a'r hyn y mae'n gweithredu yn gywilyddus o fawr."
Ychwanegodd ei fod yn "gywilyddus i enw da'r DU o amgylch y byd" ac i "haelioni greddfol cymaint o bobl ar hyd ein gwlad".
Wrth gyhuddo llywodraeth Boris Johnson o "lusgo'u traed", ychwanegodd bod gweinidogion y DU wedi dangos "gwir ddiffeithdra o ddyletswydd moesol ac ymarferol" tuag at Wcrainiad.
Dywedodd Mr Johnson wrth Sky News y byddai'n "hael" i'r rheiny sy'n ffoi o Wcr谩in ac y bydd manylion am ail gynllun fisa'n cael ei gyhoeddi ddydd Llun.
Mae llywodraeth y DU wedi cael eu beirniadu am groesawu tua 1,000 o ffoaduriaid yn unig hyd yma.
Wrth amddiffyn y rheolau fisa presennol, dywedodd Mr Johnson: "Mae pobl eisiau i ni fod yn hael ond hefyd yn ofalus."
Wrth siarad yn gynharach ddydd Sadwrn, dywedodd arweinydd Plaid Lafur y DU, Syr Keir Starmer bod llywodraeth Mark Drakeford yn "batrwm" o'r hyn y gall y blaid ei wneud ar draws y DU.
Dywedodd Syr Keir bod Llywodraeth Cymru yn dangos sut y gall "pethau gael eu gwneud yn wahanol ac yn well".
Gan gyfeirio at Wcr谩in, dywedodd Syr Keir bod angen gwneud mwy i fynd i'r "afael 芒'r oligarchiaid" yn y DU.
Fe wnaeth e hefyd roi teyrnged i'r milwyr Cymreig sydd yn Estonia ar hyn o bryd ar 么l iddo ymweld 芒'r wlad yn ddiweddar.
Ychwanegodd: "Does dim cyfiawnhad i'r hyn mae Putin yn ei wneud - mae'n gwbl groes i werthoedd ein gwlad, i'n plaid ac i werthoedd y sefydliadau rhyngwladol yr ydym wedi eu cynorthwyo. Mae'r Blaid Lafur yn Blaid NATO. Mae'r Blaid Lafur yn cefnogi pobl Wcr谩in.
"Rhaid i ni fynd i'r afael 芒'r oligarchiaid sy'n byw yma gan ddelio gyda'r cyfoeth ac asedau y maent wedi'u dwyn. Ac wrth wneud hynny rhaid i ni lanhau ein gwleidyddiaeth ni, unwaith ac am byth."
Mewn cyfweliad, dywedodd Syr Keir ei fod yn "dod o'r union yr un lle" 芒 Mr Drakeford wrth ymateb i'r argyfwng ffoaduriaid.
Dywedodd bod y ddau eisiau "llwybr saff a syml i noddfa" a bod y system bresennol yn "rhy gul, rhy araf a gormod o rwystrau mewn lle".
Siaradodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, am ei brofiad o ymweld ag Wcrain, lle mae ganddo deulu'n byw, gan ymbil ar weinidogion y DU i alluogi Cymru i "ddangos i'r byd beth mae'n olygu i fod yn genedl noddfa".
Wrth orffen ei araith, dywedodd "Gogoniant i Wcr谩in, gogoniant i'r arwyr - mi fyddwn ni'n ennill".
Yn ddiweddarach, dywedodd wrth 成人快手 Cymru y dylai pobl yn DU sy'n fodlon noddi ffoaduriaid o Wcr谩in allu ymgeisio am fisa ar eu rhan.
Dywedodd nad yw'n bosib disgwyl i bobl o Wcr谩in sy'n wynebu rhyfel i "gael mynediad ar-lein a mynd trwy'r prosesau hyn".
Yn y ddadl gyntaf yn y gynhadledd, fe gefnogodd Llafur Cymru'r cynigion i ehangu ar nifer aelodau Senedd Cymru.
Fe bleidleisiodd y gynhadledd yn unfrydol dros y cynnig oedd yn dweud y dylai'r nifer presennol o 60 aelod gynyddu i rhwng 80 a 100.
Ond, dyw hi ddim yn glir sut y byddai'r aelodau'n cael eu hethol.
Mae pleidiau yn y Senedd yn trafod cynllun i ad-drefnu'r sefydliad ac ehangu ei faint.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd23 Medi 2021