Llafur a Phlaid Cymru: dim 'ymyrryd' gan Keir Starmer
- Cyhoeddwyd
Dywed arweinydd y blaid Lafur yn y DU na fydd yn "ymyrryd" 芒 thrafodaethau rhwng y Prif Weinidog Mark Drakeford a Phlaid Cymru.
Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd traethawd Syr Keir Starmer 'The Road Ahead' fod cenedlaetholdeb yn niweidio'r DU.
Ond mewn cyfweliad 芒 成人快手 Cymru fe wrthododd Syr Keir gysylltu ei ddadl 芒 Phlaid Cymru.
Mae Plaid Cymru, dan arweiniad Adam Price, mewn trafodaethau ar gytundeb cydweithredu posib gyda gweinidogion Llafur.
Mae'r traethawd 11,500 gair yn dweud bod y wlad ar groesffordd ar 么l y pandemig ac yn "gweiddi am newid".
Wedi'i gyhoeddi cyn cynhadledd y blaid Lafur yn Brighton, dywedodd y byddai'n creu "cymdeithas wedi'i hadeiladu ar gyfraniad pawb".
Mae'r traethawd yn cynnwys beirniadaeth o'r Ceidwadwyr a Phlaid Genedlaethol yr Alban (SNP), y mae'n dweud "a all ddiffinio eu hunain yn erbyn ei gilydd, ond mae eu gwleidyddiaeth yn symbiotig, gan eu gwneud yn ddibynnol ar ei gilydd i gynnal a thyfu".
"Y mwyaf niweidiol ar unwaith i'n gwlad fu cynnydd sarff lluosben cenedlaetholdeb [multi-headed hydra of nationalism]," ysgrifennodd.
"Mae'r SNP a'r Ceidwadwyr fel ei gilydd yn defnyddio diwylliant i dynnu sylw a herio, gan greu rhaniad rhwng pobl yr ynysoedd hyn."
Ychwanegodd: "Dim ond un gangen yw cenedlaetholdeb o'r cynnydd mewn gwleidyddiaeth sy'n seiliedig ar hunaniaeth yn y byd Gorllewinol sydd wedi gwneud niwed aruthrol i'r achos blaengar.
"Trwy rannu pobl yn grwpiau llai a llai a lleihau profiadau eraill, rydyn ni'n torri i lawr ein cymdeithas yn fwy byth ac yn cadw darpar gynghreiriaid a ffrindiau hyd braich."
Nid yw'r traethawd yn s么n am Blaid Cymru, a ddaeth yn drydydd yn etholiad diwethaf y Senedd gyda 13 sedd.
Enillodd Llafur yr etholiad ond roeddent yn brin o fwyafrif, ac yn aml mae angen cymorth gan wrthblaid arnynt i basio pleidleisiau yn Senedd Cymru.
Wrth gael ei holi a oedd yn poeni am y trafodaethau gyda Phlaid Cymru, dywedodd Syr Keir: "Roeddwn i'n siarad am y DU gyfan".
Dywedodd wrth raglen Politics Wales ei fod yn ceisio gwahaniaethu "rhwng y cenedlaetholdeb sy'n ein tynnu ni mewn ffordd ynysig a gwladgarwch, sy'n hollol wahanol".
Pan ofynnwyd iddo am yr eildro, dywedodd Syr Keir fod Mr Drakeford wedi "gwneud gwaith rhagorol. Dyna pam ei fod wedi cael ei ethol yn 么l gyda mandad enfawr, sydd, yn fy nhyb i, yn adlewyrchu'r ffordd y mae wedi llywodraethu".
"Felly dwi ddim yn mynd i ymyrryd 芒'i benderfyniadau."
Wrth gael ei holi ymhellach ar y mater, dadleuodd yr arweinydd Llafur nad aeth y traethawd trwy "rannau gwleidyddol y DU gan ddweud ie na, ie na".
Dywed traethawd Syr Keir fod y DU yn "un o'r gwledydd sydd wedi ei chanoli fwyaf yn Ewrop".
"Gwneir penderfyniadau hanfodol yn rhy aml mewn swyddfeydd yn San Steffan heb fawr o ystyriaeth o'r bywydau y maent yn effeithio arnynt gannoedd o filltiroedd i ffwrdd. Rhaid i hynny newid."
'Mwy o lais'
Yn y cyfweliad dywedodd Syr Keir fod pleidleiswyr yng Nghymru "eisiau i benderfyniadau amdanyn nhw gael eu gwneud yn agosach atynt".
Er ei fod yn cydnabod "bod gennych Lywodraeth Cymru ar gyfer penderfyniadau mawr", awgrymodd fod y cyhoedd eisiau mwy o lais ym maes tai lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Pan ofynnwyd iddo a oedd yn golygu rhywbeth mwy lleol na phedair gwlad y DU, ychwanegodd: "Yn fy nhrafodaethau synnwyr cyffredin 芒 theuluoedd yng Nghymru ac mewn mannau eraill, nid oes llawer o bobl yn dweud, 'Keir, y setliad cyfansoddiadol, y p诺er hwn yn San Steffan sydd angen bod yng Nghymru'.
"Maen nhw'n dweud, yn fy ysgol leol rydw i wir yn credu y dylai hyn newid, ac nid wyf yn teimlo y galla i wneud unrhyw beth yn ei gylch."
Politics Wales, 成人快手 One Cymru, Dydd Sul 10:00 BST.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2021
- Cyhoeddwyd15 Medi 2021