成人快手

Dim angen PCR ar 么l prawf llif unffordd positif

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Gofynnwyd i'r gweinidog iechyd a fyddai'r newidiadau i'r rheolau'n creu dryswch

Ni fydd yn rhaid i bobl yng Nghymru sydd wedi cael canlyniad prawf llif unffordd positif archebu prawf PCR dilynol os nad oes ganddyn nhw symptomau Covid.

Yn 么l y gweinidog iechyd, mae'r newid - fydd yn dod i rym ddydd Iau, 6 Ionawr - i leddfu'r galw am brofion PCR.

Mae pobl heb frechiad ac sydd wedi bod mewn cysylltiad ag achos positif hefyd yn cael eu cynghori i sefyll profion llif unffordd ar ddiwrnodau dau ac wyth o'u hynysu 10 diwrnod yn hytrach na chymryd profion PCR.

Mae'r cyfnod hunan-ynysu ar 么l i berson cael Covid-19 eisoes wedi'i gwtogi i saith diwrnod yng Nghymru gan fod "pwysau aruthrol" ar wasanaethau.

Mae'n rhaid gwneud prawf llif unffordd ar ddiwrnodau chwech a saith o'r cyfnod hunan-ynysu, 24 awr ar wah芒n.

Os yw'r profion yn bositif, bydd yn rhaid i bobl barhau i hunan-ynysu.

Mewn datganiad i Aelodau o'r Senedd, dywedodd Ms Morgan fod y galw am brofion PCR wedi cyrraedd "lefelau digynsail ledled y DU" o ganlyniad i ymlediad yr amrywiolyn Omicron.

Mae archebion dyddiol mewn safleoedd prawf PCR ledled Cymru wedi cyrraedd hyd at 28,000 ers dydd Nadolig - "y nifer uchaf erioed", ychwanegodd.

Yn 么l amcangyfrif gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd gan un ymhob 20 o bobl, neu 5%, Covid-19 yn yr wythnos hyd at 31 Rhagfyr.

Mae hynny'n gynnydd ar y ffigwr o un ymhob 40 ar gyfer yr wythnos at 23 Rhagfyr, patrwm sy'n cael ei weld yng ngwledydd eraill Prydain hefyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y cyfnod hunan-ynysu ar 么l i berson cael Covid ei gwtogi i saith diwrnod ar 31 Rhagfyr

Mae profion PCR - sy'n cael eu prosesu mewn labordai - yn cael eu hystyried yn fwy dibynadwy na phrofion llif unffordd.

Ond dywedodd y gweinidog: "Gan fod cyffredinrwydd y coronafeirws yn uwch nag 1%, mae'r risg o gael canlyniad positif anghywir o brofion dyfeisiau llif unffordd yn gostwng.

"Mae hyn yn golygu bod llai o werth cael prawf PCR dilynol er mwyn cadarnhau'r canlyniad."

'Lleihau'r galw 5%-15%'

Dywedodd Ms Morgan ei bod yn amcangyfrif y bydd y newid yn "lleihau'r galw am brofion PCR rhwng 5% a 15%".

Ond nid yw'r newid yn effeithio pawb.

Mae'r rhai mewn gr诺p sy'n agored i niwed heb unrhyw symptomau ond sydd wedi cael canlyniad prawf llif unffordd positif yn dal i gael eu cynghori i archebu prawf PCR dilynol.

Anogodd Ms Morgan bawb i roi gwybod am ganlyniad pob prawf llif unffordd ac i hunan-ynysu "cyn gynted ag y byddan nhw'n profi'n bositif".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd: "Rydym yn cydnabod y bydd y newidiadau hyn, o bosibl, yn cynyddu'r galw am brofion llif unffordd.

"Nid oes unrhyw broblemau gyda chyflenwadau ar hyn o bryd, ond rydym yn ymwybodol o broblemau dosbarthu i rai mannau casglu gan gynnwys fferyllfeydd.

"Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU sy'n rheoli logisteg a dosbarthu ar draws y DU, ac rydym yn gweithio'n agos gyda nhw i wella'r sefyllfa.

"Cafodd mwy na phedair miliwn o brofion eu dosbarthu i weithleoedd, cartrefi pobl a mannau casglu yng Nghymru yr wythnos diwethaf."

Yr wythnos diwethaf fe anfonodd Llywodraeth Cymru er mwyn eu helpu i fynd i'r afael 芒 phrinder yno.

'Rhyddid yn hawl i bob Prydeiniwr'

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod y newid i'w groesawu, gan ei fod yn arbed cyflenwad o brofion PCR, ac yn "sicrhau cysondeb ar draws y Deyrnas Unedig".

Ychwanegodd llefarydd iechyd y blaid, Russell George AS bod "profi yn ei hun yn adnabod achosion o'r feirws yn unig, ond ni fydd yn ei drechu".

Fe wnaeth annog pawb sy'n gymwys i gael brechlyn i gymryd pigiad, gan ddweud: "Yn fuan, byddwn yn gallu byw gyda'r feirws yn hytrach na siarad am ddychwelyd i'r rhyddid sy'n hawl i bob Prydeiniwr."

Pynciau cysylltiedig