Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Ry'n ni'n gwneud popeth posib i gyflymu'r rhaglen frechu'
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Mae Prif Weinidog Cymru wedi pwysleisio pwysigrwydd cael brechlyn atgyfnerthu o'r newydd yn sgil bygythiad amrywiolyn Omicron.
Dywedodd Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru yn gwneud "popeth o fewn ein gallu i gyflymu ein rhaglen frechu".
Ond ni wnaeth gyhoeddi newid i'r targed o gynnig pigiad atgyfnerthu i bob oedolyn yng Nghymru erbyn diwedd mis Ionawr, er i Brif Weinidog y DU, Boris Johnson gyhoeddi y byddai rhaglen frechu Lloegr yn cael ei chyflymu.
Ychwanegodd Mr Drakeford y bydd rhaglen frechu Cymru yn parhau i flaenoriaethu "pobl h欧n a'r rhai sydd fwyaf mewn perygl".
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Mewn datganiad wedi i Mr Johnson annerch y DU nos Sul, dywedodd Mr Drakeford: "Rydyn ni'n cynyddu nifer y clinigau a'u horiau agor - rydyn ni wedi gofyn i'r holl staff sydd ar gael ymuno 芒 thimau brechu i gefnogi'r ymdrech genedlaethol hon.
"Mae hwn yn ffurf sy'n symud yn gyflym ar y coronafeirws, sydd 芒'r potensial i achosi ton fawr o heintiau yng Nghymru.
"Gallai hyn arwain at nifer fawr o bobl angen triniaeth ysbyty ar adeg pan mae ein GIG o dan bwysau sylweddol.
"Gwnewch yn si诺r bod cael eich brechlyn atgyfnerthu yn flaenoriaeth."
Nos Sul, dywedodd prif swyddogion meddygol Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon eu bod yn argymell codi y lefel rhybudd o lefel tri i bedwar, sy'n arwydd bod Covid yn lledaenu'n gyflym.
Mewn datganiad, dywedon nhw fod tystiolaeth gynnar yn dangos bod Omicron yn lledaenu llawer yn gyflymach nag amrywiolyn Delta.
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Fe wnaethon nhw ychwanegu bod brechlynnau Covid yn cynnig llai o warchodaeth rhag salwch yn achos Omicron.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfyngiadau Covid ychwanegol yn sgil Omicron.
Ond dywedodd y Gweinidog Iechyd y gallai cyfyngiadau newydd gael eu cyflwyno "yn ystod yr wythnosau nesaf".
Beth yw sefyllfa Omicron yng Nghymru?
Mae 15 achos o Omicron wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru hyd yma.
Mae tri ohonynt yn ymwneud 芒 theithio rhyngwladol.
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Fe benderfynodd Llywodraeth Cymru i adolygu rheolau coronafeirws Cymru bob wythnos yn lle bob tair wythnos yn sgil yr amrywiolyn.
Fe wnaethon nhw hefyd gryfhau'r cyngor ar wisgo gorchuddion wyneb, gan ddweud y dylai pobl wisgo mygydau mewn tafarndai pan nad ydynt yn yfed.
Ar hyn o bryd, mae'r Llywodraeth yn gofyn i bobl "ystyried yn ofalus" cyn cwrdd ag eraill, ac i gymryd prawf llif unffordd cyn cymdeithasu.
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Dywedodd y Gweinidog Iechyd ddydd Sul ei fod yn bwysig i bobl ddeall difrifoldeb bygythiad Omicron.
"Os bydd 100 o bobl mewn ystafell ac un ohonyn nhw gyda'r amrywiolyn Omicron, gall 70 ohonyn nhw ddal yr amrywiolyn yma," meddai.
Nid yw'r Llywodraeth yn gofyn i bobl canslo eu part茂on Nadolig.
Ond ddydd Sadwrn fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro annog pobl yn gryf i beidio mynd i bart茂on yn sgil "pwysau cynyddol" ar y GIG.