成人快手

'Cyfyngiadau Covid newydd yn debygol yn fuan'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Mae'n bwysig i bobl ddeall difrifoldeb Omicron, meddai'r gweinidog iechyd.

Dywed y Gweinidog Iechyd ei bod hi'n bosib y bydd cyfyngiadau newydd yn cael eu cyflwyno "yn ystod yr wythnosau nesaf" i ddelio 芒'r amrywiolyn newydd Omicron.

Wrth siarad 芒'r 成人快手 dywedodd Eluned Morgan bod Llywodraeth Cymru am "weithredu yn gymesur" a bod disgwyl i achosion Omicron gynyddu'n "gyflym iawn".

Fe ddywedodd hefyd y bydd "amser yn dod" lle mae'n debygol y bydd y llywodraeth yn cynghori pobl i beidio 芒 mynd i bart茂on Nadolig.

Nos Sul, dywedodd prif swyddogion meddygol Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon eu bod yn argymell codi y lefel rhybudd o lefel tri i bedwar, sy'n arwydd bod Covid yn lledaenu'n gyflym.

Mae lefel pedwar yn golygu bod yr haint yn cael ei drosglwyddo yn gynt.

Mae'r Ceidwadwyr wedi galw am gyflymu'r ymgyrch i roi brechiadau atgyfnerthu.

Ddydd Gwener fe wnaeth gweinidogion Llywodraeth Cymru alw ar bobl i wneud profion llif unffordd cyn mynd allan ac roedd yna gyngor hefyd i wisgo mygydau mewn tafarndai pan nad yn bwyta neu'n yfed.

Ond ni chyhoeddwyd newidiadau mawr i reolau Covid yn yr adolygiad diweddaraf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Eluned Morgan: "Y peth diwethaf ry'n am wneud yw cyflwyno cyfyngiadau fel y llynedd"

Wrth siarad ar raglen Politics Wales ddydd Sul dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, y bydd y 15 achos presennol o Omicron yn "codi'n gyflym mewn cyfnod byr".

"I fod yn onest rwy'n credu y bydd yn newid yn ystod yr wythnosau nesaf ond ry'n yn parhau i ddysgu am yr amrywiolyn newydd," meddai.

Ddydd Sadwrn, yn sgil yr amrywiolyn newydd, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro annog "pobl i beidio mynd i bart茂on Nadolig".

Mae Llywodraeth Cymru wedi annog pobl i gymryd prawf llif unffordd cyn mynd allan.

Wrth gael ei holi a fyddai'r cyngor yn newid yn sgil rhybudd penaethiaid y Gwasanaeth Iechyd dywedodd Eluned Morgan: "Fe fydd yna bwynt yn dod lle bydd y cyngor o bosib yn newid.

"Y peth olaf ry'm am wneud yw cyflwyno yr un cyfyngiadau 芒 llynedd oni bai bod rhaid i ni.

"Ry'n yn ymwybodol bod cyfyngiadau Nadolig diwethaf wedi siomi llawer. 'Dy'n ni ddim am fod yn y sefyllfa yna ond fe fyddwn yn gweithredu er budd pobl Cymru," ychwanegodd.

Doedd y gweinidog ddim am wneud sylw ar ba newidiadau a fyddai'n debygol.

Yn gynharach yn yr wythnos dywedodd bod y dystiolaeth bresennol yn awgrymu y byddai y don o achosion Covid yn ei hanterth ar ddiwedd mis Ionawr.

Wrth ymateb i'r cwestiwn a fyddai modd i fusnesau wynebu cyfyngiadau llymach heb gymorth ariannol gan lywodraeth y DU dywedodd Ms Morgan: "Fe fydd hynny yn llawer anoddach heb gymorth tebyg i ffyrlo a gafwyd y tro diwethaf gan Lywodraeth y DU."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd cannoedd o bobl eu brechu ym Mlaenau Ffestiniog yn ystod y penwythnos

Mae dadansoddiad cynnar gan Asiantaeth Diogelu Iechyd y DU, wedi ei seilio ar ddata cyfyngedig, yn dangos nad yw brechlynnau Oxford-AstraZeneca a Pfizer yn effeithiol yn erbyn Omicron wedi cyfnod.

Ond nodir bod cael trydydd brechlyn yn atal 75% o bobl rhag cael unrhyw symptomau Covid.

Bydd pob oedolyn yng Nghymru yn cael cynnig y brechlyn atgyfnerthu erbyn diwedd Ionawr.

Dywedodd Eluned Morgan: "Ry'n yn ceisio cyflymu'r broses gorau gallwn ni. Ry'n braidd yn bryderus nad yw pobl yn rhoi blaenoriaeth i gael y brechlyn atgyfnerthu. Mae'n rhaid i bobl fynychu apwyntiadau yn 么l y gofyn - mae nifer o bobl yn aberthu llawer i sicrhau fod cyfle i bobl gael y brechlyn atgyfnerthu.

"Felly dwi'n gofyn i'r cyhoedd fynd i apwyntiad pan mae'r alwad yn dod. Allwn ni ddim fforddio aros," ychwanegodd.

Ymateb y gwrthbleidiau

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Russell George AS: "Mae'n rhaid cyflymu'r broses frechu yng Nghymru ar unwaith.

"Mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn mynnu cael canolfannau, lle gellir cerdded i mewn iddynt, ers misoedd. Fel ry'n yn gwybod brechiadau sy'n galluogi cymdeithas i fyw heb gyfyngiadau. Rhaid gweithredu ar fyrder.

"Ry'n yn deall bod mwy i'w ddysgu am Omicron a bod mwy o ddata i'w gyhoeddi yn ystod y diwrnodau nesaf.

"Mae'n bwysig bod gweinidogion yn cael tystiolaeth er mwyn gweithredu unrhyw gyfyngiadau - yn hytrach na gweithredu ar ddiffyg tystiolaeth wrth benderfynu ar basports Covid," ychwanegodd.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth AS: "Dwi ddim yn credu bod unrhyw un yn dymuno mwy o gyfyngiadau ond ry'n wedi dysgu ei bod hi'n bwysig gweithredu yn gyflym.

"Ond rhaid i ni fod yn fwy penderfynol ynghylch rhai pethau - mae angen cyflymu y broses o roi'r brechlyn atgyfnerthu, mae angen gweithredu ar awyru mewn ysgolion ac mewn mannau cyhoeddus yn benodol."

Ddydd Sul dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod ffigyrau hyd at 09:00 ddydd Gwener yn dangos fod pump yn rhagor o bobl wedi marw o Covid gan godi y nifer sydd wedi marw o'r haint yng Nghymru i 6,481.

Cafodd 2,591 yn rhagor o achosion eu cofnodi gan ddod 芒'r nifer i 534,893.