成人快手

Bron 50,000 o bobl Cymru wedi derbyn brechlyn Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 49,403 o bobl yng Nghymru wedi derbyn brechiad yn erbyn coronafeirws, yn 么l ffigyrau a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r data'n cyfrif y brechlynnau Pfizer/BioNTech a roddwyd hyd at ddydd Sul diwethaf, felly nid yw'n cynnwys dosau o'r brechlyn AstraZeneca sydd wedi'u cyflwyno yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf.

Y bobl sy'n byw yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan sydd wedi derbyn y nifer fwyaf o frechlynnau, gydag 8,244 dos wedi'u darparu hyd yma.

Yn yr un cyfnod a'r cyfnod dan sylw yn ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae Lloegr wedi llwyddo i frechu 1,112,866 o bobl, neu bron i 1 o bob 50 o'i phoblogaeth.

Nid oes unrhyw ddata Cymreig am y bobl sy'n derbyn y brechlyn, heblaw eu bod o'r grwpiau blaenoriaeth uchaf.

Daw'r wybodaeth am nifer y brechiadau wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi fod 63 o farwolaethau a 1,718 o achosion newydd o Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru.

Bellach mae 163,234 achos positif wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig, ac mae 3,801 o bobl wedi maw o ganlyniad i'r haint.

Mae'r ardaloedd gyda'r nifer uchaf o achosion diweddaraf yn cynnwys Wrecsam (170), Caerdydd (140), Rhondda Cynon Taf (121), Sir y Fflint (119) a Nedd Port Talbot (100).

Brechiadau

Roedd cyfanswm o 49,428 dos o frechlyn Covid-19 wedi cael eu rhoi i bobl ar hyd a lled Cymru ar yr wythnos ddaeth i ben ar 3 Ionawr. O'r rhain, roedd 25 yn ail ddos.

Dywed Llywodraeth Cymru fod disgwyl i'r gwir nifer o frechiadau fod yn uwch wrth i fyrddau iechyd barhau i ddiweddaru eu systemau.

Dywedodd Dr Gillian Richardson, Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer rhaglen frechlyn Covid-19 Cymru:

"Dim ond pedair wythnos ers i'r brechlyn Covid-19 cyntaf gael ei gymeradwyo i'w ddefnyddio yn y DU ac mae bron i 50,000 o bobl wedi derbyn brechlyn.

"Dyma'r rhaglen frechu dorfol gyntaf o'i math yng Nghymru ac mae ymdrechion GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn eithriadol. Mae nifer y dosau na ellir eu defnyddio wedi bod yn anhygoel o isel - oddeutu 1% - ac yn sylweddol is na'r lefelau oedd wedi eu rhagweld.

"Mae'r gymeradwyaeth ddiweddar o'r brechlyn Oxford-AstraZeneca yn newid pethau go iawn a bydd yn ein helpu i gyflymu ein rhaglen frechu yn sylweddol. Dros y tair wythnos nesaf, byddwn yn derbyn 105,000 dos arall o'r ddau frechlyn i helpu i amddiffyn pobl sydd fwyaf mewn perygl."

O ddydd Llun ymlaen, bydd gwybodaeth am nifer y bobl sy'n cael eu brechu yn cael ei diweddaru'n ddyddiol ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cymariaethau rhwng gwledydd

Er bod angen gofal wrth gymharu data rhwng gwledydd, mae'r data diweddaraf am Loegr yn dangos fod mwy na 1.1m o bobl wedi derbyn y dos cyntaf erbyn 3 Ionawr, sef 1.9% o'r boblogaeth.

Mae GIG Lloegr wedi dweud bod 60% o ddosau wedi mynd i bobl dros 80 oed.

Mae'r ffigwr yng Nghymru yn awgrymu bod 1.6% o'r boblogaeth wedi cael eu brechu hyd at 3 Ionawr - sydd yn llai na chenhedloedd eraill y DU - ac mae'n ymddangos bod y bwlch yn tyfu o'i gymharu 芒'r wythnos ddiwethaf.

Nid ydym yn gwybod faint o'r 1.6% o'r boblogaeth yng Nghymru sydd wedi derbyn brechiadau oedd dros 80 oed, ac felly mae'n anodd gwneud cymhariaeth uniongyrchol gydag ystadegau Lloegr.

Ond pe bai brechiadau'n cael eu rhoi ar yr un raddfa yma ag yn Lloegr, byddai 13,000 yn rhagor o bobl wedi cael dos erbyn hyn.

Dangosodd ffigurau'r wythnos ddiwethaf fod tua 2.1% o bobl yn Yr Alban wedi cael y dos cyntaf a 2.1% hefyd yng Ngogledd Iwerddon.

'Loteri cod post'

Wrth ymateb i'r ystadegau am nifer y brechiadau sydd wedi eu dosbarthu hyd yma, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod 'loteri cod post' yn datblygu rhwng y byrddau iechyd.

Dywedodd Andrew RT Davies AS, llefarydd iechyd yr wrthblaid: "Wrth gwrs rydym yn croesawu'r cynnydd yn nifer y brechiadau, ond y cyfrifiad bras yw bod un o bob 65 o bobl yng Nghymru wedi cael eu pigiad o'i gymharu ag un o bob 50 yn Lloegr.

"Wrth ystyried y loteri c么d post sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru, nid yw'r llun yn edrych yn wych. Rydych chi ddwywaith yn fwy tebygol yn ne Cymru o gael y brechiad, a thair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi'i gael yng nghanolbarth Cymru nag yng ngogledd Cymru.

"Rydym yn adnewyddu ein galwad ar i'r prif weinidog sefydlu swydd gweinidog brechiadau fel blaenoriaeth i gymryd rheolaeth o gyflwyno'r rhaglen achub bywyd yma, ac i gyhoeddi targedau ar gyfer y rhaglen frechu a'r niferoedd dyddiol o'r rhai sydd wedi cael y brechlyn."

Ychwanegodd: "Bydd cyhoeddi'r niferoedd hyn yn cynyddu tryloywder ac yn rhoi hyder i'r cyhoedd bod cynnydd yn cael ei wneud yn ein brwydr yn erbyn Covid-19."

Ddydd Mercher fe wnaeth bwrdd iechyd y gogledd ymddiheuro am "oedi sylweddol" yn eu canolfan frechu coronafeirws yn Llandudno.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mai hyfforddi "brechwyr newydd" arweiniodd at yr oedi.

Cafodd 成人快手 Cymru wybod bod pobl wedi bod yn ciwio am hyd at dair awr yn y ganolfan yn Ysbyty Enfys Llandudno.

'Cynnydd da'

Ond ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r feirniadaeth gan fynnu bod "cynnydd da" wedi cael ei wneud yn yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Erbyn yr wythnos nesaf bydd 60 meddygfa ar draws Cymru yn brechu a bydd 20 canolfan frechu yn gweithredu.

"Rydyn ni'n gweld effaith hyn yn ein ffigurau, gyda phob cenedl yn y DU yn brechu canran tebyg o'u poblogaeth yn ystod yr wythnos ddiwethaf."

Ychwanegodd mai dyddiau cynnar y rhaglen frechu yw'r rhain a'u bod yn disgwyl i fomentwm a chyflymder y rhaglen frechu "gynyddu bob wythnos".

O ddydd Llun bydd y nifer y bobl sy'n derbyn y brechlyn yn cael ei gyhoeddi'n ddyddiol a bydd cynllun gweithredu'r brechlyn yn cael ei gyhoeddi'n gynnar yr wythnos nesaf.

Pynciau cysylltiedig