'Nes i golli angladd Mam am fod gen i Covid hefyd'
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd sir wedi siarad am y diwrnod y collodd angladd ei fam ar 么l iddi farw gyda Covid-19 - oherwydd ei fod yn yr ysbyty yn brwydro'n erbyn y feirws ei hun.
Siaradodd Kevin Hughes, 63, sy'n cynrychioli ward Gwernymynydd yn Sir y Fflint, 芒 成人快手 Cymru o'i wely yn uned gofal dwys Ysbyty Maelor Wrecsam.
Dywedodd fod gan ei fam, June Margaret Hughes, 89, gyflyrau iechyd a'i bod wedi bod mewn cartref gofal am 18 mis.
Roedd hi wedi bod yn yr ysbyty yng Nghaer yn gynharach y mis hwn, ac fe gafodd ei rhyddhau yn 么l i'r cartref gofal.
Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach profodd yn bositif am Covid-19. Bu farw yn yr ysbyty ddyddiau'n ddiweddarach.
Dywedodd y Cynghorydd Hughes: "Cefais fy ngalw i mewn nos Sul oherwydd ei bod yn bryderus iawn. Nid oedd arwyddion o unrhyw ddementia, felly roedd hi'n ymwybodol iawn o'r hyn oedd yn digwydd.
"Fe wnaeth yr ysbyty roi'r holl PPE angenrheidiol i mi. Es i'n 么l i mewn ar y dydd Mawrth, a chyrhaeddais yno tua munud cyn iddi farw ar y dydd Mercher.
"Roedd yr angladd ar 10 Rhagfyr, ac erbyn hynny roeddwn i wedi profi'n bositif fy hun. Dau ddiwrnod ar 么l y prawf positif cefais fy nghymryd i Ysbyty Wrecsam Maelor, i ward Covid ac ychydig oriau yn ddiweddarach roeddwn i mewn uned gofal dwys.
"Dwi yma r诺an ers pythefnos. Mae pethau'n gwella, dwi'n gwella, ond mae wedi bod yn broses hir, hir."
Ychwanegodd: "Roedd bod yn yr ysbyty ar ddiwrnod angladd fy mam o bosib y diwrnod mwyaf du y gallech chi erioed ei ddychmygu.
"Roedd fel bod mewn twnnel tywyll, hir iawn. Roedd yn ddiwrnod ofnadwy, ofnadwy."
Ar ei salwch ei hun, dywedodd: "Roedd y sefyllfa i mi yn ymylu ar fod yn llwm iawn. Dwi'n gwybod bod meddwl difrifol wedi'i roi tuag at fy rhoi ar beiriant anadlu, ond rywsut fe wnes i fynd trwyddo.. dwi'n gwneud llawer o gerdded ac mae hynny wedi fy roi mewn cyflwr da... ond bu adegau pan nad oeddwn yn si诺r."
Dywedodd ei fod yn "teimlo fel rhywun yn sefyll ar eich brest, a phob tro rydych chi'n anadlu i mewn, mae fel bod rhywun yn eich cicio".
Dywed y bydd yn gwella, ond "gallai hynny fod yn fisoedd, dwi ddim yn gwybod".
'Peidiwch meddwl 'does dim ots''
Mewn ple i bobl gymryd y clefyd o ddifrif, dywedodd: "Rwy'n gwybod nawr fy mod i wedi troi cornel, ond dim ond oherwydd y gofal anhygoel dwi wedi'i gael gan staff y GIG yn Ysbyty Maelor.
"Mae fy neges yn syml i bawb... Ni allaf ddweud ble cefais Covid-19. Gallai fod wedi bod yn yr ysbyty gyda Mam. Gallai fod wedi bod mewn archfarchnad neu garej, ond fy neges yw 'ei gymryd o ddifrif.'
"Peidiwch 芒 meddwl 'does dim ots, gallwn ni gael pedwar teulu o gwmpas ar gyfer cinio Nadolig'.
"Bydd pobl yn marw, a'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw meddwl am staff anhygoel y GIG sydd gennym. Ni allan nhw ymdopi 芒 mwy."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2020