Oedi brechu wedi i staff brofi'n bositif am Covid
- Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mae naw aelod o staff canolfan frechu coronafeirws yng Nghaerdydd wedi profi'n bositif am y feirws.
Mae ebost i staff gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn dweud bod brechu wedi "oedi" a bod staff eraill sy'n gweithio ar y safle yn cael profion.
Ychwanegodd y bwrdd: "Does dim risg ychwanegol wedi 'i adnabod i unrhyw un sydd wedi cael ei frechu yn y ganolfan."
Dywed yr ebost, sydd wedi cael ei weld gan y 成人快手: "Gallwn gadarnhau bod naw o staff yn ein canolfan frechu yn Sblot wedi profi'n bositif am Covid-19.
"Bydd ein brechiadau Covid-19 dros y dyddiau nesaf yn cael eu hoedi wrthi ni gynnal profion ar ein staff, a byddwn yn gwerthfawrogi eich hamynedd yn y cyfnod yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020