成人快手

Covid-19: Pryder am achosion positif yn ardal Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Ysgol AbertefiFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Ysgol Uwchradd Aberteifi a nifer o ysgolion eraill yr ardal yn cau am bythefnos

Dywed Cyngor Sir Ceredigion a sefydliadau eraill yn y sir eu bod yn fwyfwy pryderus am nifer yr achosion positif o Covid-19 yn ardal Aberteifi.

Bydd pob ysgol yn yr ardal ar gau o ddydd Llun ymlaen am bythefnos.

Nos Sul dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion "bod nifer sylweddol o achosion wedi'u cofnodi yn ystod yr wythnosau diwethaf a bod gwaith y T卯m Olrhain Cysylltiadau yn dangos trosglwyddo cymunedol eang".

Yr ysgolion fydd ar gau

Wedi cyfarfod o D卯m Rheoli Digwyddiadau Aberteifi ddydd Sul penderfynwyd y bydd yr ysgolion canlynol ar gau o ddydd Llun, 23 Tachwedd 2020 ac y byddant yn ailagor ddydd Llun, 7 Rhagfyr 2020 a bydd disgyblion yn cael eu haddysgu o bell:

  • Ysgol Uwchradd Aberteifi

  • Ysgol Gynradd Aberteifi

  • Ysgol Gynradd Penparc

  • Ysgol Gynradd Aberporth

  • Ysgol Gynradd T. Llew Jones

  • Ysgol Gynradd Llechryd; ac

  • Ysgol Gynradd Cenarth.

Bydd Meithrinfeydd Dechrau'n Deg yn Aberteifi ac Aberporth hefyd ar gau tan ddydd Llun, 7 Rhagfyr 2020.

Bydd Llyfrgell Aberteifi ar gau tan ddydd Llun, 7 Rhagfyr 2020 ond bydd y Gwasanaeth Llyfrgell yn cysylltu ag unrhyw un sydd wedi archebu'r gwasanaeth clicio a chasglu.

Fe wnaeth Cyngor Sir Penfro gadarnhau nos Sul y bydd Ysgol y Preseli, Ysgol y Frenni, Ysgol Eglwyswrw, Ysgol Llandudoch ac Ysgol Cilgerran ar gau ddydd Llun hefyd ond does dim cadarnhad tan pryd a bellach mae Ysgol Clydau wedi'i hychwanegu at y rhestr.

'Rhaid gweithredu'n gyflym'

Ychwanegodd llefarydd: "Nid yw'r penderfyniadau hyn wedi'u gwneud yn ysgafn ond mae angen gweithredu'n gyflym er mwyn osgoi lledaenu'r feirws ymhellach yn ein cymunedau.

"Gofynnwn i'r cyswllt cymdeithasol hwnnw gael ei gadw mor sylfaenol 芒 phosibl yn ystod y 14 diwrnod hyn.

"Rhaid i bob cyswllt a gadarnhawyd o achosion positif aros gartref am 14 diwrnod er mwyn lleihau'r posibilrwydd o ledaenu'r feirws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed y Cyngor Sir ei bod hi'n bwysig bod trigolion lleol yn dilyn y canllawiau priodol

"Mae'r ysgol wedi cysylltu 芒 rhieni'r holl ddisgyblion hyn a byddant hefyd yn cael eu cefnogi gan D卯m Olrhain Cyswllt Ceredigion.

"Rhaid i unrhyw un sydd 芒 symptomau, waeth pa mor fach, ddilyn canllawiau hunanynysu a threfnu prawf ar unwaith, gan adael cartref yn unig i gael prawf. Ni ddylai unrhyw un fynd i'r gwaith na gadael y t欧 os oes ganddynt unrhyw symptomau.

"Peidiwch ag oedi cyn archebu prawf os oes gennych unrhyw symptomau - nid oes angen teimlo cywilydd yngl欧n 芒'r angen i gael prawf. Ond dim ond os oes gennych unrhyw symptomau y dylech gael prawf.

"Nid yw prawf negyddol un diwrnod yn golygu na fyddwch yn bositif ar ddiwrnod arall. Dyna pam mae'r 14 diwrnod nesaf yn hanfodol i atal lledaeniad y feirws."

'Rhaid dilyn y canllawiau'

Mae'r Cyngor yn gofyn i drigolion Aberteifi a'r cyffiniau ddilyn y canllawiau canlynol er mwyn sicrhau diogelwch:

  • Cadwch bellter cymdeithasol o 2m oddi wrth ei gilydd pan fyddwch allan - dan do ac yn yr awyr agored;

  • Golchwch eich dwylo'n rheolaidd;

  • Cyfyngu ar eich cyswllt cymdeithasol;

  • Gweithio o gartref lle bynnag y bo'n bosibl;

  • Gwisgwch fasg mewn mannau cyhoeddus dan do, siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyw Ceredigion ddim yn rhydd o effeithiau'r feirws," medd Elin Jones AS Ceredigion

Nos Sul mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol nododd Elin Jones, AS Ceredigion bod yr achosion yn ystod y saith diwrnod diwethaf yn 202 ymhob 100,000 yn ardaloedd Aberteifi ac Aberporth.

"Dyw Ceredigion ddim yn rhydd o effeithiau'r feirws," meddai, "ac er fod brechiad ar y ffordd mae sawl mis eto o'r pandemig yma i fynd."