成人快手

'Mae'n well gadael bwlch o amser cyn gweld pobl wahanol'

  • Cyhoeddwyd
CaerffiliFfynhonnell y llun, Huw Fairclough
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y cyfyngiadau clo lleol a oedd yn bodoli cyn cyn y cyfnod clo byr yn dod i ben, meddai'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething

Byddai'n well petai pobl yn gadael bwlch o rai diwrnodau rhwng gweld eraill er mwyn atal haint coronafeirws rhag lledu, meddai'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yng nghynadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru.

"Er bod y gaeaf yn dod, rwy'n argymell i chi gyfarfod pobl y tu allan os yn bosib neu y tu fewn i le cyhoeddus lle mae cyfundrefnau glanhau ac ymbellhau cymdeithasol yn eich gwarchod," meddai.

"Mae angen i bawb feddwl am eu bywydau eu hunain a'u hymddygiad pan ddaw'r clo byr i ben ddydd Llun."

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 1,352 o achosion newydd o Covid-19 wedi eu cadarnhau yng Nghymru dros y diwrnod diwethaf, gan ddod 芒 chyfanswm yr achosion i 58,279.

Cofnodwyd 13 yn rhagor o farwolaethau hefyd. Bellach mae 1,982 o bobl yng Nghymru wedi marw gyda coronafeirws.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod y gwir ffigyrau yn y ddau achos yn debygol o fod yn llawer uwch.

Cyfraddau wythnos

O'r achosion newydd, roedd 185 yn Rhondda Cynon Taf, 178 yng Nghaerdydd, 151 yn Abertawe a 104 yng Nghaerffili.

Wrth edrych ar y gyfradd heintio dros y saith diwrnod diwethaf, mae Merthyr gyda chyfradd o 639.9 am bob 100,000 o'r boblogaeth. Er bod hynny'n uchel, mae'n gwymp sylweddol o 741 yr wythnos ddiwethaf.

Y gyfradd yn Rhondda Cynon Taf yw 534.7 a 501 ym Mlaenau Gwent.

Wrth i'r cyfnod clo byr ddod i ben ddydd Llun ychwanegodd Mr Gething fod niferoedd yr achosion yn parhau i fod yn uchel yn siroedd Merthyr, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf a nododd bod mwy o gleifion yn ysbytai Cymru ddydd Mercher nag ym mis Ebrill.

Dywedodd hefyd y byddai taliad o 拢500 ar gyfer y rhai ar incwm isel sy'n gorfod hunan-ynysu yn cael ei lansio "yn fuan", er gwaethaf beirniadaeth gan y gwrthbleidiau nad yw'r polisi eisoes ar waith.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma graff sy'n nodi yr achosion ym Merthyr yn ystod yr wythnos diwethaf

'Dim cyfyngiadau lleol'

Wrth drafod y cyfyngiadau lleol a oedd mewn grym cyn y cyfnod clo byr dywedodd na fyddant yn parhau.

Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn credu y dylid ystyried symud yn syth at system o fesurau lleol, fel oedd mewn grym cyn y cyfnod clo byr.

Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Andrew RT Davies hefyd yn dweud y dylid ystyried mesurau lleol mewn rhai mannau.

"Rydyn ni wedi bod yn glir iawn ein bod ni eisiau set cenedlaethol o reolau sy'n gwneud hi'n hawdd i bawb ddeall sut ddylwn ni i gyd fod yn byw ein bywydau.

"Er hyn, os fydd cynnydd mewn rhai ardaloedd yn parhau, byddwn ni'n barod i weithredu mesurau addas," ychwanegodd wrth ateb cwestiwn ar y mater.

Petai Llywodraeth Cymru ddim yn dod 芒'r clo presennol i ben ddydd Llun mi fyddai ymddiriedaeth y cyhoedd yn cael ei golli, ychwanegodd Mr Gething.

'Mwy o gleifion nag yn Ebrill'

Roedd mwy o gleifion gydag achosion o coronafeirws yn ysbytai Cymru ddydd Mercher nag ar yr uchafbwynt ym mis Ebrill, meddai'r gweinidog iechyd.

Dywedodd Vaughan Gething wrth y gynhadledd: "Mae'r niferoedd wedi gostwng ychydig bellach o ganlyniad i bobl yn cael gadael ac yn anffodus rhai marwolaethau."

Dywedodd fod 1,365 o bobl bellach 芒 symptomau cysylltiedig 芒 Covid-19 yn ysbytai Cymru, sydd 169 yn uwch nag ar yr un adeg yr wythnos ddiwethaf.

"Rwyf am fod yn glir, nid yw hyn yn golygu bod ein GIG wedi cael ei lethu," meddai Mr Gething.

"Mae gan y GIG y gallu i ymateb i bwysau'r gaeaf a phandemig, gan gynnwys defnyddio ysbytai maes, ond roedd hon yn garreg filltir arwyddocaol i'w chyrraedd."

Dywedodd fod cyfradd Covid-19 yng Nghymru bellach yn 252.8 o achosion fesul 100,000 o bobl. Yn y rhai dros 60 oed, mae'r gyfradd yn 179.6 fesul 100,000 o bobl.

Cartrefi gofal

Dywedodd Vaughan Gething bod cyfanswm o 792 o achosion o Covid-19 ymhlith staff a thrigolion cartrefi gofal yng Nghymru ar hyn o bryd, a'i fod yn credu bod dros 3% o'r gweithlu wedi'i effeithio.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried darparu crynodeb wythnosol o'r achosion mewn cartrefi gofal, yn 么l y Gweinidog Iechyd.

"Beth rydw i eisiau gwneud yw sicrhau bod gyda ni gwybodaeth gyson a dibynadwy," meddai.

Ychwanegodd bod gweinidogion wedi darparu'r fath yma o ddata yn y gorffennol.

Dywedodd hefyd nad oedd bwriad gan y llywodraeth i gyflwyno profion mewn gweithleoedd eraill, ond bod hyn yn parhau i ddigwydd yn rheolaidd mewn cartrefi gofal.