'Pryder' meddygon am gynlluniau canolfan ganser newydd
- Cyhoeddwyd
Mae 57 o brif feddygon ac arbenigwyr canser Cymru wedi ysgrifennu at y gweinidog iechyd yn gofyn am adolygiad annibynnol allanol o gynlluniau i greu canolfan ganser annibynnol newydd yng Nghaerdydd.
Mae 成人快手 Cymru wedi cael copi o'r llythyr lle maen nhw'n mynegi eu "pryder dwfn" ynghylch y model clinigol sy'n cael ei gynnig.
Maen nhw'n dadlau bod angen ystod o wasanaethau eraill ar y safle ar gyfer llawer o driniaethau canser modern gan gynnwys llawfeddygaeth a gofal dwys.
Yn y llythyr at Vaughan Gething, maen nhw hefyd yn dweud y dylai'r ganolfan newydd - ar gost o 拢180m - gael ei chydleoli ochr yn ochr ag ysbyty sy'n bodoli eisoes.
Mae'r gwrthwynebiad i'r ganolfan newydd, hyd yma, wedi canolbwyntio yn bennaf ar bryderon amgylcheddol.
Bu protestio i geisio achub ardal o laswelltir a choedwigoedd yn yr Eglwys Newydd, y byddai'r ysbyty newydd yn cael ei adeiladu arno ac mae miloedd o bobl wedi llofnodi deiseb ar-lein.
Ond mae yna lawer o gefnogwyr i'r cynllun hefyd.
Mae gan Ymddiriedolaeth Felindre filoedd o gefnogwyr ar ei llwyfannau ar-lein ei hun ac mae wedi dweud y byddai 60% o'r tir yn parhau i fod ar gael i'r gymuned leol, gan ychwanegu: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol i'r caeau fel ased cymunedol."
Yn y llythyr mae'r gr诺p, sy'n cynnwys llawfeddygon, radiolegwyr, meddygon teulu, anesthetyddion ac arbenigwyr gofal lliniarol, hefyd yn galw am eglurder ar sut y daethpwyd i'r penderfyniad gwreiddiol i adeiladu canolfan annibynnol newydd ger y cyfleuster Felindre presennol.
Mae'r gr诺p am i adroddiad blaenorol - Adroddiad Barrett o 2017 - fod ar gael heb ei olygu i'r cyhoedd.
Maen nhw'n dweud:
bod ganddyn nhw bryderon am ddiogelwch cleifion;
yn dadlau na fyddai'r ganolfan yn addas at y diben;
y byddai'n cyfyngu ar gyfleoedd ymchwil; ac
ni fyddai'n ddeniadol i ddarpar hyfforddeion.
Mae'r llythyr hefyd yn cael ei gyfeirio at brif swyddog meddygol Cymru, yr Aelod o'r Senedd lleol Julie Morgan a phrif weithredwr GIG Cymru.
'Ceisio cyngor annibynnol'
Mewn datganiad dywedodd Steve Ham, prif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre fod y corff yn "ymwybodol o'r materion a godwyd gan glinigwyr ynghylch nifer o feysydd lle credant fod gwaith i'w wneud o hyd wrth ddylunio gwasanaethau yn y dyfodol".
"Rydym yn parhau i weithio gyda'n cleifion, clinigwyr a phartneriaid y Bwrdd Iechyd i gryfhau'r model ymhellach i sicrhau ei fod bob amser yn addas at y diben," meddai. "Bydd hyn yn cynnwys cyngor allanol annibynnol.
"Credwn y bydd model y dyfodol yn gwella ansawdd a diogelwch gofal, gwella profiad cleifion, a gwella tegwch mynediad at driniaeth ac ymchwil."
Mewn ymateb i'r llythyr dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i wella gwasanaethau canser yng Nghymru.
"Mae'r gweinidog wedi ymateb i'r llythyr hwn yn cadarnhau y bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn ceisio cyngor annibynnol ar y model clinigol ar gyfer yr ysbyty canser newydd.
"Mae'r Prif Swyddog Meddygol hefyd yn trafod rheoli cleifion canser difrifol s芒l gyda chyfarwyddwyr meddygol bwrdd iechyd i sicrhau bod y model cyflenwi cyfredol yn addas at y diben."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2020