成人快手

Teithwyr o Croatia ac Awstria yn gorfod hunan-ynysu

  • Cyhoeddwyd
Traeth Banje yn Dubrovnik, CroatiaFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd tua 875,000 o bobl wedi teithio i Croatia o Brydain yn 2019

Bydd pobl sy'n teithio i Gymru o Croatia ac Awstria yn gorfod hunan-ynysu am 14 diwrnod ar 么l cyrraedd adref o ddydd Sadwrn.

Roedd gweinidogion pedair llywodraeth y DU wedi cyfarfod brynhawn Iau i drafod newidiadau i'r rhestr o wledydd lle mae'n ddiogel teithio iddynt.

Cyhoeddwyd fod Croatia ac Awstria, yn ogystal a Trinidad a Tobago, wedi cael eu tynnu oddi ar y rhestr oherwydd cynnydd yn nifer yr achosion coronafeirws yno dros y dyddiau diwethaf.

Ond mae Portiwgal bellach wedi ei chynnwys ar y rhestr, ac felly ni fydd rhaid i deithwyr oddi yno aros mewn cwarantin ar 么l dychwelyd adref i Gymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ni fydd yn rhaid hunan-ynysu ar 么l dychwelyd o Portiwgal o hyn ymlaen

Yn Croatia cafodd 219 o achosion eu cofnodi ddydd Mercher, yn cynnwys un o chwaraewyr t卯m p锚l-droed Dinamo Zagreb.

Dros y pythefnos diwethaf bu 37.7 o achosion ym mhob 100,000 o bobl yno, o'i gymharu 芒 21 yn y DU.

Mae gwlad yn cael ei thynnu oddi ar y rhestr o wledydd diogel pan mae'r achosion yn mynd dros 20 ym mhob 100,000 o bobl dros saith diwrnod.

Wynebu dirwy o hyd at 拢1,000

Yn dilyn y cyfarfod gyda'r gweinidogion eraill, dywedodd gweinidog iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething: "O ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw, penderfynwyd ychwanegu Portiwgal at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi'u heithrio, a dileu Awstria, Croatia a Trinidad a Tobago.

"Yfory byddaf yn gosod y rheoliadau angenrheidiol a ddaw i rym am 04:00 ddydd Sadwrn, 22 Awst."

Mae Sbaen, Ffrainc, Yr Iseldiroedd a Malta ymhlith y gwledydd lle mae'n rhaid mynd i gwarantin ar 么l dychwelyd i'r DU ar 么l ymweld 芒 nhw.

Aeth tua 875,000 o bobl Prydain i Croatia yn 2019.

Gall pobl sydd ddim yn hunan ynysu wynebu dirwy o hyd at 拢1,000 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a 拢480 yn Yr Alban.