Marwolaethau wythnosol wedi gostwng i lefel mis Mawrth

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae niferoedd y marwolaethau sy'n gysylltiedig 芒 coronafeirws wedi arafu yng Nghymru yn ddiweddar

Mae nifer wythnosol y bobl a fu farw ble roedd cadarnhad neu amheuaeth eu bod 芒 coronafeirws wedi gostwng i'r lefel isaf ers mis Mawrth.

Yn 么l gwybodaeth ddiweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) roedd saith o farwolaethau yn gysylltiedig 芒 Covid-19 yn ystod y saith diwrnod hyd at 24 Gorffennaf, o'i gymharu ag 11 yn ystod yr wythnos flaenorol.

Dyma'r ffigwr isaf ers yr wythnos hyd at 20 Mawrth, pan gofnodwyd dwy farwolaeth.

2,503 yw cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru hyd yn hyn, yn 么l yr ONS, sy'n cynnwys marwolaethau ym mhobman, gan gynnwys cartrefi gofal a chartrefi'r henoed.

Mae cyfanswm Iechyd Cyhoeddus Cymru - 1,565 hyd at ddydd Llun, 3 Awst - yn canolbwyntio ar farwolaethau mewn ysbytai.

Dywed ONS fod 21,981o farwolaethau, o ba bynnag achos neu salwch, wedi eu cofnodi yng Nghymru ers dechrau'r flwyddyn - 10.2% yn fwy na'r cyfartaledd dros bum mlynedd.

O'r rheiny, roedd 11.4% yn crybwyll Covid-19.