Disgwyl cael gwared 芒 pheilonau 'hyll' aber Afon Dwyryd
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Gyngor Gwynedd fwrw 'mlaen gyda chynllun i gael gwared 芒 pheilonau dros aber Afon Dwyryd mewn cyfarfod ddydd Iau.
Y bwriad ydy gosod gwifrau tanddaearol yn lle'r peilonau er mwyn adfer harddwch yr ardal.
Bydd argymhelliad o flaen pwyllgor cynllunio'r cyngor i gymeradwyo cynllun cwmni National Grid, ond gydag amodau.
Mae cefnogwyr wedi disgrifio'r cynllun fel cael gwared ar "graith" o'r ardal.
Cael gwared 芒 10 o beilonau
Mae aber Afon Dwyryd yn rhywle sy'n cael ei adnabod am ei harddwch, ond yn sefyll dros y cyfan聽mae cyfres o beilonau.
Maen nhw wedi bod yn sefyll yno ers dros 50 mlynedd, ac roedden nhw'n arfer cario trydan o hen bwerdy niwclear Trawsfynydd.
Ond r诺an mae 'na gynllun i gael gwared 芒 10 o'r peilonau a chladdu'r ceblau trydan mewn twnnel tanddaearol o dan yr aber.
Y cynllun ydy adeiladu twnnel 3.5km o Gilfor, dros yr aber i Finffordd - cynllun fyddai'n costio miliynau o bunnau i'w wireddu.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, sy'n cynrychioli Penrhyndeudraeth ar Gyngor Gwynedd, bod cefnogaeth eang i'r cynllun.
"Mae aber Afon Dwyryd yn lle prydferth ofnadwy a be s'gennych chi r诺an ydy craith ar draws yr aber," meddai.
"Y peilonau yma a'r trawiad gweledol di'r peth 'de ni'n edrych arno yn fan hyn, ac mae hwn yn brosiect sydd wedi cael ei ddewis allan o 100 o wahanol brosiectau trwy Brydain, felly mae 'na angen i wella'r trawiad gweledol.
"Mae'n gynllun enfawr, a 'de ni'n falch iawn ein bod ni wedi cael ein dewis, iddo fo ddigwydd fan hyn."
Cwmni National Grid sy'n gyfrifol am y cynllun, ac mae 拢500m wedi ei glustnodi i leihau effaith weledol peilonau ar safleoedd o harddwch arbennig fel aber Afon Dwyryd.
Yr argymhelliad o flaen cynghorwyr Gwynedd ddydd Iau ydy i gefnogi'r cais cynllunio gydag amodau.
Pe bai'n cael ei gymeradwyo, y disgwyl ydy y bydd y gwaith yn dechrau'r flwyddyn nesaf ac y bydd y peilonau wedi diflannu dros yr aber erbyn 2026.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2018