Twyllwyr yn targedu sgamiau Covid-19 yng Nghymru

Disgrifiad o'r llun, Mae e-byst yn gofyn am gyfraniad at gronfeydd ffug yn un o'r sgamiau sydd wedi eu hadrodd

Mae pobl sy'n agored i niwed yn cael eu targedu gan nifer o sgamiau'n ymwneud 芒'r coronafeirws yng Nghymru.

Ymhlith y galwadau ffug sydd wedi eu hadrodd i'r 成人快手 mae rhai gan bobl sy'n honni i fod yn rhan o system olrhain achosion Covid-19 - gan fynnu taliad am brawf am y feirws.

Dywedodd un dyn sydd wedi bod yn hunan-ynysu oherwydd ei iechyd iddo gael ei dargedu gan dair sgam yn ymwneud 芒'r feirws.

Mae'r heddlu yng Nghymru'n dweud bod twyllwyr yn honni i fod o gyrff fel Sefydliad Iechyd y Byd a Chyllid a Thollau EM, neu gwmn茂au fel Amazon a Netflix er mwyn cymryd arian neu fanylion personol.

'Fe wnaeth e swnio'n eitha' gonest'

Mae Stephen Jameson, 54 oed o Gasnewydd, wedi bod yn ynysu oherwydd cyflwr ar ei galon a diabetes.

Cafodd alwad gan rhywun oedd yn honni i fod yn weithiwr olrhain cysylltiadau Covid-19, yn dweud ei fod wedi dod i gysylltiad gyda rhywun oedd 芒'r feirws.

"O'n i'n gwybod nad oeddwn i wedi bod mas," meddai Mr Jameson.

Fe wnaeth y galwr ofyn am fanylion Mr Jameson a'i ffrindiau er mwyn gallu cysylltu 芒 nhw, cyn gofyn am daliad o 拢99 am brawf coronafeirws.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Stephen Jameson bod galwr wedi dweud iddo fod mewn cysylltiad 芒'r feirws cyn gofyn am 拢99 am brawf

"Dywedodd e bod angen holl wybodaeth fy ffrindiau er mwyn gallu cysylltu gyda nhw, ond dywedais i nad o'n i wedi bod mas felly ro'dd ei wybodaeth yn anghywir."

Mae Mr Jameson yn gyn-beiriannydd cyfrifiadurol, a dywedodd ei fod yn gallu adnabod bod yr alwad yn ffug, ond na fyddai pawb mor ffodus.

"Fe wnaeth e swnio'n eitha' gonest, yn y ffordd ro'dd e'n cyflwyno ei hun, ro'dd e'n defnyddio'r holl eiriau cywir," meddai.

"Ond yna fe wnaeth e droi'n ymosodol, felly roies i'r ff么n lawr."

Yn ogystal 芒'r galwadau, mae Mr Jameson wedi derbyn negeseuon testun ac e-byst yn honni bod cyfrifon ar-lein wedi eu rhewi neu yn gofyn am arian tuag at gronfa Covid-19.

Yn 么l gwasanaeth adrodd twyll Action Fraud, mae 2,521 adroddiad o dwyll yn ymwneud 芒'r coronafeirws wedi arwain at golli cyfanswm o 拢8.1m i droseddwyr.

Dywedodd t卯m twyll Heddlu Gwent mai'r math mwyaf cyffredin yw achosion o brynu mygydau neu ddiheintydd ar-lein sydd yna byth yn cyrraedd y prynwr.

Heddlu Dinas Llundain sy'n arwain y gwaith o daclo twyll drwy Brydain, a dywedodd y llu bod pobl sydd heb droseddu o'r blaen yn troi at dwyll yn ystod y pandemig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru na fydd aelod o'r gwasanaeth olrhain cysylltiadau Covid-19 yn:

  • Gofyn i chi alw rhif sy'n costio'n ddrud er mwyn siarad 芒 nhw (rhifau 09 a 087);
  • Gofyn i chi dalu am unrhyw beth;
  • Gofyn am fanylion banc, manylion cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, cyfrineiriau na rhifau PIN;
  • Rhannu eich manylion meddygol gyda phobl eraill;
  • Cynnig cyngor meddygol ar drin symptomau Covid-19;
  • Gofyn i chi lawrlwytho rhaglen i'ch cyfrifiadur neu ofyn am gymryd rheolaeth o'ch cyfrifiadur;
  • Gofyn i chi fynd i wefan sydd ddim yn un swyddogol y llywodraeth neu'r Gwasanaeth Iechyd.